Erbyn hyn, mae modd i chi ailgylchu'r rhan fwyaf o'ch gwastraff byd masnach. Mae hyn yn helpu i leihau eich ôl-troed carbon yn ogystal â rhoi cyfle i chi wneud arbedion ariannol sylweddol.
Mae modd ailgylchu'r eitemau canlynol yn rhan o Gynllun Ailgylchu Gwastraff Byd Masnach wythnosol Cyngor RhCT:
Deunydd ailgylchu sych
| Bag Coch | Bagiau Glas |
|
Poteli plastig
Cwpanau plastig
Caniau diodydd
Tuniau Bwyd
Potiau iogwrt
Pecynnau brechdanau plastig
Cartonau Diodydd Cwyrog
Ffoil (glân)
Polystyren
|
Papur Swyddfa
Papur newydd
Cardfwrdd tenau
Bocs grawnfwyd
Post sothach
Amlenni
Sachau Tatws (rhaid i'r sachau fod yn wag)
|
Gwastraff Bwyd
Mae modd i chi gael gwared ar wastraff bwyd o'ch gweithlu gan ddefnyddio cynllun gwastraff bwyd byd masnach wythnosol Cyngor RhCT. Mae modd cael gwared ar y mathau canlynol o wastraff yn rhan o'r cynllun yma:
| Gwastraff bwyd (dim pecynnau bwyd): |
|
Bwyd wedi'i adael
Eitemau bwyd sydd wedi mynd heibio eu dyddiad gwerthu erbyn
Bagiau te
Plisg ŵy
Bwyd anifeiliaid
Crwyn ffrwythau a llysiau
|
Gwastraff Gwyrdd
Caiff gwastraff gwyrdd ei gasglu yn ystod tymor yr Haf a thrwy system archebu yn ystod y Gaeaf ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun. Caiff gwastraff gwyrdd ei gasglu o'r sachau gwastraff gwyrdd. Cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd
Cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd (byd masnach)
| Gwastraff Gwyrdd (dim pridd na cherrig) |
|
Glaswellt
Tocion perthi
Blodau wedi'u torri
Planhigion
Chwyn
|
Casgliadau Byd Masnach – Gwydr
Bydd angen 'Trwydded Cludydd Gwastraff' Cyfoeth Naturiol Cymru ar gwsmeriaid byd masnach presennol sydd angen cludo gwydr byd masnach i Fanc Gwydr yn y Gymuned.
Os ydych chi'n cludo gwastraff yn rheolaidd ac yn rhan o drefn arferol eich busnes, rhaid i chi gofrestru'n gludydd gwastraff. Mae 'yn rheolaidd ac yn rhan o drefn arferol eich busnes’ yn golygu eich bod chi’n cludo gwydr byd masnach yn rhan o'ch trefn arferol, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwneud hyn yn aml.
Ar ôl i chi dderbyn eich Trwydded Cludydd Gwastraff, anfonwch gopi ohoni drwy e-bost i: ailgylchuagwastraffbydmasnach@rctcbc.gov.uk
Yna, bydd Cyngor RhCT yn anfon copi o'ch Nodyn Trosglwyddo Gwastraff/Dyletswydd Gofal atoch chi.
Fydd dim modd i fusnesau nad ydyn nhw'n gwsmeriaid gwastraff byd masnach RhCT ddefnyddio'r Banciau Gwydr yn y Gymuned, a rhaid trefnu gwasanaeth casglu gwastraff darparwr arall i gael gwared ar wydr byd masnach.
Hysbysiad Gorfodi Pwysig
Nodwch: rhaid i chi beidio â rhoi eitemau byd masnach i'w hailgylchu mewn bagiau ailgylchu domestig. Gallai rhoi eitemau byd masnach i'w hailgylchu mewn bagiau domestig arwain at gamau gorfodi.
Eistemau Electonig Bach (sWEEE)
Mae modd i eiddo annomestig ailgylchu eitemau trydanol bach fel tegelli, tostwyr, sychwyr gwallt, clociau ac ati.
Bydd angen i eiddo annomestig brynu sticeri o Lyfrgell Treorci, Aberdâr neu Bontypridd a defnyddio'r cynhwysydd dynodedig yn y Llyfrgell i waredu'r eitem.
Nodwch: peidiwch â rhoi eitemau byd masnach y mae modd eu hailgylchu mewn bagiau ailgylchu gwastraff domestig. Mae'n bosibl y byddwn ni'n cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os ydych chi'n gwneud hyn.