Skip to main content

Gwerthiannau dan oed

Mae cyfreithiau gwerthiannau dan oed yn bodoli i ddiogelu iechyd a lles pobl ifainc. Os bydd perchnogion busnes a chynorthwywyr gwerthu yn gwerthu nwyddau yn erbyn y gyfraith, byddan nhw'n agored i gael eu herlyn.

Gweld ein taflenni ynglŷn â chynhyrchion sydd â chyfyngiad oedran.

Cynhyrchion sydd â chyfyngiad oedran 

Sigaréts / cynnyrch tybaco

18 oed

Tocynnau loteri

16 oed

Cardiau crafu

16 oed

Nwy ail-lenwi tanwyr sigaréts

18 oed

Tân gwyllt

18 oed

DVDau a fideos

12, 15, 18 oed

Gemau cyfrifiaduron

12, 15, 18 oed

Alcohol

18 oed

Deddfwriaeth

  • Rheoliadau Adlenwi Tanwyr Sigaréts (Diogelwch) 1999
  • Deddf Sylweddau Meddwol (Cyflenwi) 1985
  • Rheoliadau Tân Gwyllt (Diogelwch) 1997
  • Deddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993
  • Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933
  • Deddf Recordiadau Fideo 1984
  • Deddf Trwyddedu 2003

Sut mae'r gyfraith yn cael ei gweithredu?

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach wedi ymrwymo i leihau nifer y gwerthiannau anghyfreithlon. Mae'n ceisio gwneud hyn trwy weithio gyda busnesau, cynnig cyngor ac arweiniad, ymchwilio i gwynion, a chynnal profion prynu gyda gwirfoddolwyr ifainc er mwyn asesu'r lefel cydymffurfio. Mewn achosion o'r fath, mae gwirfoddolwyr yn dilyn canllawiau cenedlaethol caeth i sicrhau tegwch.

Mae Swyddogion Safonau Masnach a'r heddlu, ar y cyd, yn gweithredu'r gyfraith sy'n gwahardd gwerthu alcohol i blant.

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach bob amser yn barod i roi gwybodaeth a chyngor personol i fasnachwyr am faterion gwerthiannau dan oedran.

Alcohol

Beth ydy'r gyfraith yn ei ddweud am werthu alcohol i bobl ifainc?

  1. Mae'n drosedd i rywun werthu alcohol i rywun dan 18 oed.
  2. Os bydd rheolwr y siop neu rywun sy'n gyfrifol am y safle yn caniatáu gwerthu cynnyrch yn fwriadol i rywun dan 18 oed, bydd modd iddo gael ei ddal yn gyfrifol.
  3. Bydd rhywun sy'n prynu alcohol ar ran rhywun dan 18 oed, neu sy'n ceisio gwneud hynny, yn cyflawni trosedd.

Pwy sy'n gweithredu'r gyfraith?

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach a'r heddlu yn cydweithio er mwyn gweithredu'r gyfraith o ran gwerthu alcohol i bobl ifainc.

Ddylwn i arddangos unrhyw hysbysiadau ar gyfer cwsmeriaid?

Does dim gofyniad cyfreithiol i arddangos hysbysiad rhybuddio. Fodd bynnag, efallai byddwch chi eisiau ystyried arddangos hysbysiadau'n amlwg yn rhan o'ch system ar gyfer osgoi gwerthiannau anghyfreithlon. Dyma enghraifft addas: ‘Mae gwerthu alcohol i unrhyw un sy'n iau na 18 oed yn erbyn y gyfraith’

Beth yw'r cosbau am dorri'r gyfraith?

Os bydd gwerthiant anghyfreithlon, bydd modd i chi gael eich erlyn ac wynebu dirwy o hyd at £5,000. Os bydd aelod o staff yn gwerthu alcohol yn anghyfreithlon, bydd modd iddo gael hysbysiad cosb o £80 am anhrefn (dirwy yn y fan a'r lle). Hefyd, bydd modd i ddeiliaid trwydded wynebu erlyniad ac, o'u cael nhw'n euog, gael dirwy o hyd at £5,000. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai hefyd bydd y drwydded yn cael ei hadolygu / ei dirymu.

Cynnyrch tybaco

Ers mis Hydref 2007, mae'r gyfraith wedi newid. Mae'r isafswm oedran ar gyfer prynu tybaco wedi cynyddu o 16 oed i 18 oed. Erbyn hyn, felly, mae gwerthu cynhyrchion tybaco (gan gynnwys tybaco, papurau sigaréts, sigârs a sigaréts) i unrhyw un dan 18 oed yn erbyn y gyfraith. Mae'n effeithio ar bob gwerthiant. Erbyn hyn, mae gwerthiannau o beiriannau gwerthu wedi'u gwahardd.

Arwyddion

Bydd angen i chi arddangos arwydd oedran tybaco (yr hysbysiad statudol) sy'n nodi:-

‘Mae gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un sy'n iau na 18 oed yn erbyn y gyfraith’

Fel o'r blaen, mae rhaid i'r hysbysiad fod o leiaf faint A3 (420mm x 297mm) ac mae rhaid i'r llythrennau fesur o leiaf 36mm o ran uchder. Efallai bydd arwydd o'r fath ar gael gan eich cyflenwr cynhyrchion tybaco.

System effeithiol ar gyfer atal gwerthiannau dan oedran

Dylai fod gennych chi system ar waith i ddiogelu rhag gwerthiannau dan oedran. Dylai staff ofyn am brawf oedran bob tro bydd person ifanc yn ceisio prynu cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion cyfyngedig eraill. Erbyn hyn, mae llawer o fanwerthwyr yn mabwysiadu'r polisi ‘Her 21’ sy'n golygu gofyn i unrhyw un sy'n edrych dan 21 oed am brawf o'i oedran.

I gael rhagor o wybodaeth am fathau derbyniol o brawf oedran, a mesurau eraill i'w cyflwyno yn rhan o'ch system, ewch i https://tradingstandards.gov.wales/

Hyfforddi staff

Bydd angen sicrhau bod aelodau o staff yn cael eu hyfforddi'n llawn o ran y newid yn y gyfraith, a'u cyfrifoldebau nhw yn sgil hynny. Dylech chi hefyd sicrhau bod aelodau o staff yn dilyn y systemau sydd gennych ar waith i osgoi gwerthiannau dan oedran. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd modd i'r gwerthwr a pherchennog y busnes fod yn gyfrifol am werthiant anghyfreithlon.

Cardiau prawf oedran

Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a Heddlu De Cymru yn cefnogi defnyddio cardiau prawf oedran, fel ‘Validate UK’ neu ‘CitizenCard’. Mae'r cardiau hyn ar gyfer pobl ifainc rhwng 12 a 18 oed. Mae'r cardiau'n ceisio sicrhau gwerthu cynhyrchion sydd â chyfyngiad oedran i'r rhai sydd â hawl i'w prynu, yn ôl y gyfraith, yn unig. Maen nhw hefyd yn helpu'r rhai sy'n edrych yn iau na'u hoedran i brofi eu hoedran.

Wrth gynnal profion prynu, a defnyddio gwirfoddolwyr ifainc, bydd y Gwasanaeth Safonau Masnach a'r heddlu yn gwirio ydy oedran y gwirfoddolwyr yn cael ei herio drwy ofyn am brawf o'u hoedran. Dylai pob aelod o staff gael ei hyfforddi i ofyn am brawf oedran bob tro, a dylai aelodau o staff gael hyfforddiant gloywi yn rheolaidd. Dylai aelodau o staff mewn siopau gael eu hyfforddi i ymdrin â chwsmeriaid, sydd efallai dan oedran, mewn ffordd effeithiol ac ystyriol. Yn aml, y rhai sy'n gwybod eu bod nhw'n edrych yn ddigon hen yw'r rhai sy'n ceisio prynu cynhyrchion, ar eu cyfer nhw eu hunain ac ar gyfer eu ffrindiau.

Beth yw'r cosbau am dorri'r gyfraith?

O'i gael yn euog, dyma uchafswm y gosb bydd modd i rywun ei gael:-

  • £2,500 yn sgil gwerthu cynhyrchion tybaco i rywun dan oed
  • £1,000 yn sgil methu ag arddangos yr hysbysiad statudol

Sut mae modd i mi roi gwybod am siopau sy'n gwerthu nwyddau sydd â chyfyngedig oedran i blant?

Os byddwch chi'n credu bod gwerthiannau dan oedran yn digwydd ar safleoedd manwerthu, bydd modd i chi roi gwybod am y mater i ni yn gyflym trwy lenwi'r ffurflen ar y dudalen yma.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Safonau Masnach
Gwefan: SafonauMasnach@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425001