Croeso i Rondda Cynon Taf, y trydydd awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru.
Cafodd y fwrdeistref sirol ei ffurfio ym 1996 yn dilyn diddymu sir Morgannwg Ganol. Daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i fodolaeth drwy uno cyn ardaloedd Morgannwg Ganol, sef y Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái (heblaw’r Creigiau a Phentyrch).
Mae i'r Fwrdeistref Sirol boblogaeth o 237,497 (Cyfrifiad 2021), 103,339 o dai (Cyfrifiad 2021): ac mae 7 awdurdod lleol cyfagos.
Mae cyfanswm o 75 o gynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli pobl Rhondda Cynon Taf. Y blaid Lafur sy’n llywodraethu’r Cyngor, a’r Cynghorydd Andrew Morgan yw'r Arweinydd.