Skip to main content

Y Maer

Y Cynghorydd Sheryl Evans yw Maer Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei phenodi gan Gynghoweyr yn ystod Cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mercher, 12 Chwefror 2025. 

Y Cynghorydd Sheryl Evans yw Maer Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei phenodi gan Gynghorwyr yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mercher, 12 Chwefror 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Evans, yr Aelod Etholedig ar gyfer ward Aberaman, ei bod hi'n hynod falch o gynrychioli’r Fwrdeistref Sirol y mae hi wedi byw ynddi ar hyd ei hoes, a bydd hi'n ymgymryd â’i rôl fel Maer er budd elusennau lleol gan hyrwyddo grwpiau cymunedol. Ni fydd unrhyw newid i'r Elusennau'r Maer presennol ar gyfer y flwyddyn Faerol hon.

Cafodd y Cynghorydd Evans ei geni a'i magu yng Nghwm Cynon, mae hi wedi byw yn Aberaman y rhan fwyaf o'i hoes. Dechreuodd ei gyrfa yn 16 oed mewn swyddfa cyfreithwyr, cyn ymddeol fel Rheolwr Practis Meddyg Teulu er mwyn canolbwyntio ar ofalu am ei theulu.

Mae'r Cynghorydd Evans wedi enwi ei merch Samantha yn Gymar iddi. Mae Samantha yn gweithio fel Nyrs Gardiaidd i’r GIG a bydd yn gweithio gyda'r Cynghorydd Evans i godi arian ar gyfer elusennau a chefnogi grwpiau cymunedol. 

MayorSherylEvans

Ar ôl iddi gael ei phenodi'n Faer ar gyfer Rhondda Cynon Taf, meddai'r Cynghorydd Sheryl Evans:

“Mae’n fraint arbennig cael fy mhleidleisio i gynrychioli Rhondda Cynon Taf fel Maer. Rwy'n caru ein cymuned leol, sy'n llawn pobl wych yn gwneud pethau anhygoel. Yn ystod fy nghyfnod fel Maer, bydda i'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth drwy dynnu sylw at sefydliadau a grwpiau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein hardal leol, yn ogystal â helpu i godi arian ar gyfer elusennau lleol sy’n cefnogi trigolion ledled Rhondda Cynon Taf.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chynifer o bobl ag sy'n bosibl, gan fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y gwaith gwych a’r caredigrwydd sydd i'w gweld ledled Rhondda Cynon Taf.

“Rwy’n falch iawn o gael fy merch Samantha yn Gymar i mi, bydd hi’n fy nghefnogi i yn y rôl. Rwy'n falch o'i gwaith fel Nyrs Gardiaidd, bydd y tosturi a'r gofal y mae hi'n eu dangos o ddydd i ddydd yn gaffaeliad gwych yn y rôl.

“Rwyf am ddiolch i bawb yn y gymuned am ymddiried ynof i’w cynrychioli, a bydda i'n Faer i bawb ledled Rhondda Cynon Taf.”

Elusennau'r Maer ar gyfer eleni yw: Ysgol Farchogaeth i Bobl Anabl Green Meadow, 2 Wish Cymru Llantrisant, Clwb Nofio i Bobl Anabl Rhondda Polar BearsCymdeithas Dementia ac Alzheimer's, a bydd y Maer hefyd yn cefnogi Cyn-filwyr Taf-elái yn Rhydfelen.

Cafodd y Cynghorydd Sheryl Evans, yr Aelod Etholedig ar gyfer Ward Aberaman, ei phenodi'n Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher, 8 Mai.

Gwneud rhodd ar-lein i Apêl Elusennau'r Maer.

Sut mae cysylltu â'r Maer?

Cafodd y Cynghorydd Emma Watts, yr Aelod Etholedig ar gyfer ward Ystrad, ei phenodi'n Ddirprwy Faer yn ystod y cyfarfod ar ddydd Mercher, 12 Chwefror.

Swyddfa'r Maer   

Swyddfa’r Cabinet

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf,

Pontypridd,

CF37 4TH

Rhif Ffôn: 01443 424199
Tudalennau Perthnasol