Mae'r Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad yn gyfrifol am graffu ar gyflawniad ariannol a gweithredol; trefniadau rheoli'r trysorlys; y broses ymgynghori ar gyfer y gyllideb refeniw flynyddol; gofynion statudol o ran adrodd am gyflawniad, a monitro gweithredu cynllunio ariannol tymor canolig.
Caiff Aelodau nad ydyn nhw'n aelodau o'r pwyllgor ac aelodau o'r cyhoedd gyfrannu yn y cyfarfod ar faterion y cyfarfod er bydd y cais yn ôl doethineb y Cadeirydd. Gofynnwn i chi roi gwybod i Wasanaethau Democrataidd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt, gan gynnwys rhoi gwybod a fyddwch chi'n siarad Cymraeg neu Saesneg.