Mae'r Pwyllgor Craffu - Iechyd a Lles yn gyfrifol am graffu ar wasanaethau sy'n cefnogi Iechyd a Lles ein cymunedau. Bydd y Pwyllgor yn ystyried gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ogystal â'r holl ffactorau eraill sy'n cyfrannu at Iechyd a Lles y Fwrdeistref Sirol, megis Gwasanaethau Hamdden a Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd.
Caiff Aelodau nad ydyn nhw'n aelodau o'r pwyllgor ac aelodau o'r cyhoedd gyfrannu yn y cyfarfod ar faterion y cyfarfod er bydd y cais yn ôl doethineb y Cadeirydd. Gofynnwn i chi roi gwybod i Wasanaethau Democrataidd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt, gan gynnwys rhoi gwybod a fyddwch chi'n siarad Cymraeg neu Saesneg.