Skip to main content

HAWL I GYWIRO GWYBODAETH ANGHYWIR

Pa hawliau sydd gen i?

Os byddwch chi o'r farn bod y Cyngor yn prosesu gwybodaeth anghywir amdanoch chi, yna mae modd i chi ofyn i ni ei gywiro cyn gynted ag y bo modd. Yn yr un modd, os bydd gyda ni wybodaeth anghyflawn amdanoch chi, mae modd i chi ofyn i ni ychwanegu'r hyn sydd ar goll at ein cofnodion.

Sut mae modd gofyn i'r Cyngor gywiro'r wybodaeth amdanaf fi?

Y ffordd hawsaf o sicrhau bod yr wybodaeth amdanoch chi'n cael ei chywiro yw drwy gysylltu â'r gwasanaeth perthnasol. Mae modd cywiro'r rhan fwyaf o wybodaeth yn gymharol gyflym, a hynny drwy alwad ffôn neu neges e-bost syml.

 Cliciwch yma er mwyn gweld sut i gael gafael ar y Cyngor.

 Os yw eich cais yn fwy cymhleth, neu pe hoffech chi wneud cais mwy ffurfiol am gywiro gwybodaeth, cysylltwch â'r Garfan Rheoli Gwybodaeth:

 Email icon    rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk                                                                                    

Wrth wneud cais, pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu?

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn eich adnabod chi:

  • Enw llawn (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
  • Cyfeiriad (eich cyfeiriad blaenorol os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu os yw'r cofnod sydd angen ei gywiro yn ymwneud â chyfeiriad arall)
  • Dyddiad geni

 Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn canfod yr wybodaeth yr hoffech chi i ni ei chywiro:

  •  Gwasanaeth y Cyngor a/neu'r adran y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi.
  • Unrhyw rifau cyfeirnod perthnasol
  • Enwau unrhyw swyddogion sy'n gysylltiedig â'r achos
  • Copi neu ddisgrifiad o'r wybodaeth anghywir
  • Manylion yr wybodaeth gywir.

A fydd y Cyngor yn cydnabod fy nghais?

Os byddwch chi'n gwneud cais ffurfiol i'r Garfan Rheoli Gwybodaeth, caiff e ei gydnabod yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn ni hefyd yn dweud wrthych chi erbyn pa ddyddiad y bydd angen i'r Cyngor ymateb i'ch cais.

Faint o amser sydd gan y Cyngor i gydymffurfio â fy nghais?

Rhaid i'r Cyngor ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl, a ddim hwyrach na mis ar ôl i'r cais ddod i law. Os bydd y cais yn gymhleth neu'n niferus, efallai y caiff estyniad o ddeufis ei ganiatáu. Os bydd angen caniatáu estyniad, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn egluro pam fod angen gwneud hynny

A fydd y Cyngor yn cyfyngu ar y gwaith o brosesu fy ngwybodaeth bersonol tra ei fod yn ystyried fy nghais?

Bydd. Yn unol â'ch hawl i gyfyngu ar sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio, bydd y Cyngor yn rhoi'r gorau i brosesu eich gwybodaeth nes bod modd sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir

Os bydd y Cyngor wedi rhannu gwybodaeth anghywir amdanaf fi gyda sefydliad arall, oes rhaid i'r Cyngor ddweud wrth y sefydliad hwnnw bod yr wybodaeth yn anghywir?

Os bydd y Cyngor wedi rhannu gwybodaeth anghywir amdanoch chi gyda sefydliad arall neu drydydd parti, bydd y Cyngor yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi derbyn yr wybodaeth, lle y bo hynny'n briodol, er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am yr anghywirdeb a gofyn iddyn nhw gywiro'u cofnodion

Oes modd i'r Cyngor wrthod cywiro'r wybodaeth amdanaf fi?

Efallai y bydd achlysuron yn codi lle fydd dim modd cydymffurfio â'ch cais i gywiro eich gwybodaeth bersonol, er enghraifft, os bydd yr wybodaeth yn deillio o farn gweithiwr proffesiynol (e.e. gweithiwr cymdeithasol).  Os fydd dim modd i'r Cyngor gywiro eich gwybodaeth, byddwn ni'n egluro i chi pam fod dim modd i ni wneud hyn.

Os byddwn ni o'r farn bod ein cofnodion yn gywir neu os fydd dim modd i ni gydymffurfio â'ch cais chi i gywiro'r wybodaeth, byddwn ni'n cadw copi o'r cais ar y cofnod perthnasol er mwyn dangos eich bod wedi gwneud cais, yn ogystal â nodi'ch rhesymau dros honni bod yr wybodaeth yn anghywir. 

Beth os ydw i'n anfodlon ar benderfyniad y Cyngor i beidio â chywiro'r wybodaeth amdanaf fi? 

Os byddwch chi'n anfodlon ar benderfyniad y Cyngor a'r eglurhad a gawsoch chi ynglŷn â pham bod dim modd i ni gywiro'r wybodaeth, mae gyda chi hawl i wneud cwyn neu geisio rhagor o gyngor.  Cliciwch yma am ragor o wybodaeth