Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Y Cynllun Bathodyn Glas

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Y Cynllun Bathodyn Glas

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Cynllun Bathodyn Glas.

Er ein bod ni wedi ceisio gwneud yr hysbysiad preifatrwydd yma mor glir a chryno â phosibl, mae'n bosibl y bydd y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar y dystiolaeth rydych chi'n ei chyflwyno'n rhan o'ch cais. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi yn ymwneud â'r Cynllun Bathodyn Glas, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Dylech chi ddarllen yr isod ynghyd â'r hysbysiad yma:

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y Cynllun Bathodyn Glas.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolydd data â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100. 

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â:

E-bostiwch: CarfanYmatebArUnwaith@rctcbc.gov.uk 

Ffôn: 01443 425003 

Drwy'r post: Y Garfan Ymateb Ar Unwaith, Tŷ Elái, Trewiliam, CF40 1NY 

Dyma pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud 

Mae Parcio Bathodyn Glas yn cael ei reoli gan ein hadran Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu i fod yn gymorth i bobl sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar eu symudedd o ran parcio'n agosach at eu cyrchfan, pan fyddan nhw'n arddangos eu Trwydded Parcio Bathodyn Glas. 

Mae modd i chi wneud cais am drwydded Bathodyn Glas ar-lein ar wefan Gov.uk, neu drwy wneud apwyntiad mewn Canolfan IBobUn.

Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?

Rydyn ni'n prosesu data personol sy'n ymwneud a phobl sy'n gwneud cais am Fathodyn Glas neu'r bobl sy'n gwneud cais ar eu rhan.

Y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol er mwyn darparu Bathodyn Glas.

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Eich dyddiad geni chi a'ch rhif yswiriant gwladol.
  • Tystiolaeth o'ch hunaniaeth megis tystysgrif geni, pasbort neu yswiriant gyrru.
  • Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys ynghylch y budd-daliadau rydych chi'n eu cael.
  • Gwybodaeth ynghylch iechyd y sawl sy'n gwneud cais, a'u manylion meddygol.
  • Manylion eich Bathodyn Glas presennol os ydych chi'n ail-wneud cais.
  • Delwedd ohonoch chi, i gael ei gyhoeddi ar eich Bathodyn Glas. 

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu data personol er mwyn darparu Bathodynnau Glas. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Prosesu eich cais a gwirio eich cymhwysedd o ran cael Bathodyn Glas.
  • Trefnu i therapydd galwedigaethol adolygu eich cais os bydd gofyn gwneud hynny.
  • Adolygu unrhyw dystiolaeth sydd wedi'i chyflwyno gan eich Meddyg Teulu / Gweithiwr Proffesiynol sy'n ategu'ch cais.
  • Ar gyfer ceisiadau llwyddiannus, cyflwyno'r Bathodyn Glas i chi. 

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6(1)(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (1)(e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Cyfraith Cyflogaeth, Nawdd Cymdeithasol a Diogelu Cymdeithasol – Erthygl 9 (2)(b) – Mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ac arfer hawliau penodol y rheolydd neu destun y data ym maes cyfraith cyflogaeth a nawdd cymdeithasol a diogelu cymdeithasol i’r graddau y mae wedi’i awdurdodi gan gyfraith ddomestig neu gytundeb ar y cyd yn unol â chyfraith ddomestig sy’n darparu mesurau diogelu priodol ar gyfer hawliau a buddiannau sylfaenol testun y data. 

Mae'r isod, ond nid y rhain yn unig, ymhlith y prif ddeddfwriaethau, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn:

  • Deddf Bathodynnau Parcio ar Gyfer Pobl sy'n Anabl 2013
  • Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, Adran 21
  • Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000

Gan bwy rydyn ni'n cael data personol, neu o ble?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Yn uniongyrchol gennych chi’r person sy'n gwneud cais, neu berson sy'n gweithredu ar eich rhan
  • Adrannau Mewnol Eraill yn y Cyngor
  • Eich Meddyg Teulu / Bwrdd Iechyd Lleol
  • Therapyddion Galwedigaethol sy'n gweithredu ar ein rhan
  • Adran Gwaith a Phensiynau

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol.

Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu. 

Pwy 

Diben

Adrannau Mewnol y Cyngor 

 

  • Twyll
  • Gweithredu'r Gyfraith
  • Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gwirio cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas

Y Bwrdd Iechyd Lleol / Meddyg Teulu

Er mwyn gwirio tystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno'n rhan o'ch cais

Valtech Ltd

Er mwyn argraffu Bathodyn Glas

Adran Gwaith a Phensiynau 

Er mwyn cadarnhau eich bod yn gymwys i gael y budd yma.

Y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol

Asesu'r ceisiadau

Prosesyddion Data

Mae prosesyddion data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Dim ond yn unol â’n cyfarwyddyd ni mae ein prosesyddion data yn gweithredu. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n cadw'r data yn ddiogel ac yn dal gafael arnyn nhw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny. 

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddiben y Bathodyn Glas:

Darparwyr Systemau TG, ac ati. 

Am ba mor hir y byddwn ni'n dal gafael ar y data personol?   

Rydyn ni'n dal gafael ar y data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Bathodyn Glas am: 

Hyd

Rheswm

Ceisiadau a dogfennau cysylltiedig – 3 mlynedd

Gofynion busnes

Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydyn ni ddim yn dal gafael ar y data yn eu cyfanrwydd. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau'n ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.  

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â Charfan y Bathodyn Glas yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost:

E-bostiwch: CarfanYmatebArUnwaith@rctcbc.gov.uk 

Ffôn: 01443 425003 

Drwy'r post: Y Garfan Ymateb Ar Unwaith, Tŷ Elái, Trewiliam, CF40 1NY 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, rhoi canmoliaeth neu wneud cŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i gysylltu â charfan SCG i godi cwyn ynghylch diogelu data

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk