Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd gwasanaeth 'Y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau' i breswylwyr

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol' neu 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion gwasanaeth 'Y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau' i breswylwyr.

Ynglŷn â gwasanaeth 'Y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau' i breswylwyr

Mae gwasanaeth newyddion diweddaraf newydd y Cyngor i breswylwyr yn wasanaeth sy'n anfon e-byst a negeseuon testun at breswylwyr ar ystod o faterion y Cyngor sydd efallai o ddiddordeb i chi. Efallai bydd y rhain yn cynnwys nodiadau atgoffa, rhybuddion a gwybodaeth am faterion megis newidiadau i ddiwrnodau casglu biniau a hysbysiadau gwastraff heb ei gasglu yn eich ardal chi. Bydd y rhestr o faterion yn cynyddu gydag amser a bydd modd i chi ddewis derbyn y newyddion diweddaraf ar y materion rydych chi wedi'u dewis. . 

Gan fod hwn yn wasanaeth newydd, bydd yr hysbysiad preifatrwydd yma'n cael ei adolygu a'i ddiweddaru o bryd i'w gilydd wrth i'r gwasanaeth ddatblygu.

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y gwasanaeth.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, e-bostiwch GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu data personol unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn symudol

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol er mwyn rheoli eich tanysgrifiad chi i wasanaeth 'Y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau'. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Gweinyddu eich cyfrif yn gyffredinol
  • Rheoli eich tanysgrifiad
  • Rheoli eich dewisiadau cyfathrebu
  • Anfon negeseuon atoch chi

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

Cyfathrebiadau yn ymwneud â newidiadau i wasanaethau, y newyddion diweddaraf ac ati.

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol i anfon negeseuon atoch chi yn ymwneud â newidiadau i wasanaethau ac ati yw;

  • Tasg Gyhoeddus - Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Cyfathrebiadau marchnata

Wrth i'r gwasanaeth gael ei ddatblygu, efallai y caiff ei ddefnyddio i anfon cyfathrebiadau marchnata atoch chi yn y dyfodol.

Pan fyddwn ni'n prosesu eich data personol i anfon cyfathrebiadau marchnata atoch chi drwy wasanaeth 'Y Newyddion Diweddaraf ar Wasanaethau', ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r data fydd:

  • Caniatâd - Erthygl 6 (a) – mae gwrthrych y data wedi cydsynio i brosesu ei ddata/data personol at un neu ragor o ddibenion penodol.

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Rydyn ni'n derbyn y data personol yn uniongyrchol oddi wrthych chi pan fyddwch chi'n cofrestru, defnyddio a rheoli eich tanysgrifiad i'r gwasanaeth.Rydyn ni'n derbyn y data personol yn uniongyrchol oddi wrthych chi pan fyddwch chi'n cofrestru, defnyddio a rheoli eich tanysgrifiad i'r gwasanaeth.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol

Fyddwn ni ddim yn rhannu eich data ag unrhyw sefydliad neu asiantaeth arall y tu allan i'r Cyngor.

Proseswyr data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio i ddarparu’r gwasanaeth:

  • Darparwyr systemau'r gwasanaeth
  • Darparwyr system cyfathrebu

Am ba mor hir byddwn ni'n cadw'r data personol?

Unwaith y byddwch chi'n dad-danysgrifio o'r gwasanaeth bydd eich cyfrif yn cael ei ddileu. Fodd bynnag, bydd olion archwilio yn cael eu cynnal am gyfnod o chwe mis, rhag ofn y bydd ymholiadau.

Eich hawliau diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.

Pe hoffech chi ddad-danysgrifio o'r gwasanaeth, mae modd i chi wneud hynny unrhyw bryd drwy ddilyn y camau canlynol:

  • Cliciwch ar y ddolen 'dad-danysgrifio' mewn unrhyw e-bost rydyn ni'n eu hanfon atoch chi drwy'r gwasanaeth yma
  • Gan ddefnyddio'r ddolen 'dad-danysgrifio' yn yr adran 'Y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau' ar ein gwefan.

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data 

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.  Mae modd i chi wneud hyn drwy e-bostio GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk.  Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy anfon e-bost.  

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data 

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:            

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://cy.ico.org.uk