Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaethau Mabwysiadu
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yna, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaethau Mabwysiadu. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni? Beth rydyn ni'n ei wneud?
Yn bennaf, mae gwasanaethau mabwysiadu yn RhCT yn cael eu darparu ar ran y Cyngor gan Wasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Mae'r gwasanaeth yma'n recriwtio ac asesu darpar fabwysiadwyr, canfod teuluoedd a pharu plant â mabwysiadwyr. Maen nhw hefyd yn darparu cymorth ôl-fabwysiadu ar gyfer plant sydd wedi’u mabwysiadu a theuluoedd sy’n mabwsyiadu. Mae hyn yn cynnwys hwyluso cyswllt anuniongyrchol i blant a theuluoedd naturiol trwy'r cynllun blwch llythyrau.
Mewn rhai amgylchiadau, gall y cymorth gynnwys cymorth ymarferol ac emosiynol llesiant a lwfansau mabwysiadu. Mae'r gwasanaethau yma'n cael eu cyflwyno a'u hadolygu trwy'r Gwasanaethau i Blant.
Ochr yn ochr â hyn, mae carfanau gwaith cymdeithasol sy'n rhan o'r Gwasanaethau i Blant â chyfrifoldeb am hwyluso achosion cyfreithiol mewn perthynas ag achos mabwysiadu, a pharu a lleoli plentyn gyda theulu sy’n mabwysiadu yn llwyddiannus.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae'r gwasanaethau mabwysiadu yn cadw gwybodaeth am yr holl bobl sy'n rhan o'r broses, o dderbyn cais hyd at leoli plentyn gyda theulu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddarpar fabwysiadwyr, teuluoedd naturiol a'r plentyn.
Y teulu naturiol
- Enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt rhieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau ac ati.
- Gwybodaeth am iechyd
- Gwybodaeth am aelodau'r teulu at ddibenion taith bywyd.
- Gwybodaeth am addysg a chyflogaeth
Y rhieni sy’n mabwysiadu
- Enwau, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt
- Gwybodaeth am iechyd
- Gwybodaeth am addysg a chyflogaeth
- Gwybodaeth am y teulu a ffrindiau, sy'n darparu geirdaon ar gyfer y broses asesu.
Ti- y plentyn
- Dy Enw, cyfeiriad a dyddiad geni
- Gwybodaeth iechyd qac addysg
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rhieni naturiol
Rydyn ni'n deall bod nifer o resymau pam efallai na fyddwch chi'n gallu gofalu am eich plentyn/plant. Os yw cynllun mabwysiadu yn cael ei ystyried, yna bydd hyn oherwydd nad yw'r asesiadau sydd wedi'u cynnal gan y Gwasanaethau i Blant trwy gydol eu hymgysylltiad â chi a'ch teulu, yn argymell y dylai eich plentyn/plant fyw gyda chi neu aelod o'r teulu. Mae enghreifftiau o asesiadau yn cynnwys; asesiadau rhianta, asesiadau a orchmynnwyd gan y llys megis profion cyffuriau ac alcohol, asesiadau ‘gofal gan berthnasau’.
Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i fod yn gefn i'ch plentyn/plant trwy'r broses fabwysiadu a sicrhau eu bod yn cynnal gwybodaeth am etifeddiaeth a diwylliant eu teulu naturiol. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda chi i gynnal lefel o gyswllt ar ôl iddyn nhw gael eu lleoli gyda rhieni sy’n mabwysiadu.
Rhieni sy’n mabwysiadu – ar adeg eich cais
Byddwn ni'n derbyn eich gwybodaeth gan yr asiantaeth fabwysiadu a'ch cymeradwyodd fel darpar fabwysiadwyr e.e. Gwasanaeth Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i'ch paru â phlentyn/plant i ddod yn rhieni sy’n mabwysiadu.
Ti – y plentyn
Byddwn ni'n cael dy wybodaeth gan dy rieni, aelodau o'th deulu naturiol, rhieni maeth a gweithwyr cymdeithasol. Efallai y byddwn ni hefyd yn cael gwybodaeth gan bobl eraill megis meddygon, ymwelwyr iechyd, athrawon ac unrhyw un arall sy'n ymwneud â'ch gofal neu'r broses fabwysiadu. Os wyt ti'n ddigon hen i roi gwybodaeth i ni, yna, byddwn ni'n cael yr wybodaeth gennyt ti.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Rhieni naturiol
Pan fyddwch chi'n dechrau ymwneud â'r Gwasanaethau i Blant, bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn cael ei defnyddio i gynorthwyo'ch plentyn/plant yn ystod y broses fabwysiadu a sicrhau eu bod nhw'n cynnal gwybodaeth ynglŷn â threftadaeth a diwylliant eu teulu naturiol. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda chi i gynnal lefel o gyswllt gyda'ch plentyn/plant ar ôl iddyn nhw gael eu lleoli gyda rhieni sy’n mabwysiadu.
Rhieni sy’n mabwysiadu – ar adeg eich cais
Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i wneud penderfyniad ynghylch a oes modd i chi ddarparu lleoliad addas ar gyfer plentyn/plant. Os bydd y lleoliad yn cael ei gymeradwyo, ac rydych chi'n mabwysiadu plentyn/plant, byddwn ni'n dilyn deddfwriaeth, rheoliadau a phrosesau mabwysiadu hyd nes i'r llysoedd roi gorchymyn mabwysiadu ac i'r Gwasanaethau i Blant gau'r achos.
Ti – y plentyn
Byddwn ni'n defnyddio dy wybodaeth i'th baru â rhieni sy’n mabwysiadu. Bydd dy wybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio i ddarparu llyfr taith bywyd a llythyr diweddarach mewn bywyd sy'n rhoi gwybodaeth i ti am dy rieni a'th deulu naturiol a'r rhesymau pam nad oedd modd i ti fyw gyda nhw.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol yw cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol dan y deddfau canlynol:
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
- Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
- Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005
- Deddf Plant 1989
- Deddf Plant 2004
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Ydy, ac er mwyn darparu gwasanaethau mabwysiadu rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda nifer o sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys (ymhlith eraill):
Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd,
Gwasanaethau iechyd fel meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, ysbytai gan gynnwys pediatregwyr/arbenigwyr
Addysg, megis Ysgolion, adran Addysg y Cyngor
Unrhyw wasanaethau arbenigol sy'n cael eu hystyried i fod yn angenrheidiol yn y broses fabwysiadu.
7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?
Bydd hyn yn dibynnu ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu i chi. Er enghraifft:
Rhieni naturiol
Byddwn ni'n cadw’ch gofnodion am 100 mlynedd.
Rhieni sy’n mabwysiadu
Byddwn ni'n cadw'ch cofnodion am 100 mlynedd.
Ti – y plentyn
Byddwn ni'n cadw dy gofnodion am 100 mlynedd.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
E-Bost: GwasanaethauCymorthMabwysiadu@rctcbc.gov.uk
Ffôn: (01443) 425006
Anfon llythyr: Gwasanaeth Cymorth Mabwysiadu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ