Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Addysg i Oedolion
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Addysg i Oedolion. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae Gwasanaeth Addysg i Oedolion RhCT yn darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu i Oedolion o fewn yr awdurdod.
Mae nifer o'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig wedi'u hachredu gyda chyrff dyfarnu allanol gan gynnwys Agored Cymru a Qualsafe. Caiff rhai cyrsiau eu darparu ar ran sefydliadau eraill, er enghraifft Coleg y Cymoedd.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unrhyw un sydd wedi mynychu un o'n cyrsiau.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
Ffurflen Gofrestru:
Ffurflen Cydraddoldeb
-
Oedran
-
Anabledd
-
Tras Ethnig
-
Hanes Addysg
Caiff manylion eich cerdyn eu prosesu wrth gymryd taliadau ar gyfer cyrsiau â thâl. Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd (taliadau i'r Cyngor) am ragor o wybodaeth.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r gwasanaeth yn casglu'r wybodaeth yma gan yr unigolyn sy'n cymryd rhan yn y cwrs. Caiff yr wybodaeth yma ei chasglu o'r ffurflen gofrestru sy'n cael ei llenwi ar ddechrau'r cwrs.
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan sefydliadau eraill, neu wasanaethau eraill, gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy (CFW+).
Rydyn ni hefyd yn llunio ein gwybodaeth ein hunain am yr unigolyn tra'i fod yn cymryd rhan yn y cwrs. Mae hyn yn cynnwys manylion unrhyw hyfforddiant a chymorth sy'n cael eu darparu gennym ni yn ogystal ag unrhyw gymwysterau y mae'r unigolyn yn eu cyflawni.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:
-
Prosesu'r cais ar gyfer y cwrs sydd wedi'i ddewis;
-
Monitro presenoldeb a chynnydd;
-
Cysylltu â dysgwyr os yw'r cwrs yn cael ei ganslo/ohirio;
-
Cysylltu â'r berthynas agosaf mewn argyfwng;
-
Paratoi a darparu adroddiadau i Lywodraeth Cymru er mwyn dangos bod y cyrsiau yn cael eu cynnal mewn modd addas ac yn unol ag amodau'r cyllid;
-
Dangos tystiolaeth o'r hyn sydd wedi'i gyflawni i'r cyrff dyfarnu fel bod modd cyflwyno tystysgrifau.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu'r Gwasanaeth Addysg i Oedolion yw arfer ein swyddogaethau fel awdurdod cyhoeddus ac i weithredu er budd y cyhoedd, h.y. darparu cyfleoedd o ran Addysg i Oedolion yn RhCT.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â nifer o sefydliadau partner dibynadwy er mwyn darparu ein gwasanaethau. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth bersonol gyda'r partneriaid yma fel a ganlyn:
-
Llywodraeth Cymru a Choleg Y Cymoedd - er mwyn arddangos bod y cyrsiau yn cael eu cynnal yn addas ac yn unol ag amodau'r cyllid.
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful - caiff portffolios dysgwyr eu trosglwyddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a fydd yn gwirio'r achrediad gyda'r corff dyfarnu, sef Agored Cymru a Qualsafe. Yna, bydd y cyrff dyfarnu yn darparu'r dystysgrif.
-
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda nifer o gwmnïau TGCh sy'n darparu systemau, datrysiadau, cymorth a gwasanaethau cynnal a chadw er enghraifft Tribal (EBS). Er mwyn iddyn nhw ddarparu gwasanaethau i ni, bodloni'u rhwymedigaethau cytundebol ac ateb unrhyw broblemau technegol, efallai bydd angen i'r cwmnïau yma gyrchu systemau lle mae gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Caiff bob ffurflen gofrestru ei chadw am gyfnod o 7 mlynedd.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau"
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: Heulynrees@garth-olwg.cymru
Ffôn: 01443 570075
Trwy lythyr: Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg, Pentre'r Eglwys, Pontypridd, CF38 1RQ
|