Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Profedigaethau

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Profedigaethau.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaethau Profedigaethau. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.          

Mae'r Gwasanaethau Profedigaethau yn darparu gwasanaethau claddu ac amlosgi ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn 14 mynwentydd a 2 amlosgfa.

Mae'r Gwasanaethau Profedigaethau yn darparu gwasanaeth angladd urddasol ac ystyrlon ar gyfer pobl sydd wedi cael profedigaeth.       

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?         

Er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau statudol, mae gofyn i ni gasglu gwybodaeth bersonol am y person sy'n trefnu'r angladd. Gan amlaf, aelod o'r teulu neu ffrind agos yw'r person yma. Mae gofyn i ni gasglu'r wybodaeth yma yn ôl y gyfraith, 'Amlosgiad (1) - Ffurflen gwneud cais am amlosgiad  wedi'i chyhoeddi gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu yn cynnwys:

  • Enw'r person sy'n trefnu'r angladd  
  • Cyfeiriad y person  
  • Manylion cyswllt, megis rhif ffôn/cyfeiriad e-bost
  • Perthynas â'r unigolyn sydd wedi marw  
  • Swydd y person sy'n trefnu'r angladd

Bydd yr wybodaeth yma'n rhan o gofrestr gyhoeddus statudol, gwiriadau statudol ac yn rhywbeth i gyfeirio ato er mwyn coffáú.   

Rydyn ni hefyd yn cadw gwybodaeth feddygol y person sydd wedi marw. Mewn rhai amgylchiadau, bydd modd i berson enwebedig wneud cais i weld yr wybodaeth yma. Fodd bynnag, dyw'r wybodaeth yma ddim yn cael ei thrafod yn rhan o'r hysbysiad preifatrwydd yma, gan fod y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ond yn berthnasol i unigolion byw.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Caiff yr wybodaeth yma ei darparu gan y   person sy'n trefnu'r angladd. Fel arfer, caiff yr wybodaeth ei throsglwyddo i Drefnydd yr Angladd.       

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n cofnodi'ch gwybodaeth ar ffurf ddigidol yn rhan o'r Gofrestr Amlosgi, yn unol â'r Ddeddf Amlosgi berthnasol. Caiff y gofrestr yma ei chynnal yn fytholbarhaus ac mae'n gofnod cyhoeddus.   

Bydd y ffurflen gais ar bapur yn cael ei chadw am gyfnod o 15 mlynedd, yn unol â Rheoliadau Amlosgiad. Yna, byddwn ni'n cael gwared ar y cais          

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?         

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'r wybodaeth yw Deddf Amlosgi 1902, Rheoliadau Amlosgi 2006 a Gorchymyn Amlosgfeydd Awdurdodau Lleol 1977.       

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?    

Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â sefydliadau partner dibynadwy er mwyn darparu ein gwasanaethau. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth bersonol gyda'r partneriaid isod:

  • Seiri Meini Coffa a Threfnwyr Angladdau - caiff manylion yr ymgeiswyr eu rhannu er mwyn darparu gwasanaeth angladd;

Rydyn ni hefyd yn defnyddio System Gweinyddu Trefniadau Claddu ac Amlosgiad (BACAS) er mwyn rheoli ein gwasanaethau. Caiff yr wybodaeth sydd wedi'i nodi ar system BACAS ei chasglu i gofrestr gyhoeddus, sy'n ofyniad statudol.

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?         

Mae eich gwybodaeth chi'n rhan o gofrestrau statudol, felly, bydd yr wybodaeth yma'n cael ei chynnal a'i chadw yn fytholbarhaus. Fodd bynnag, byddwn ni'n cael gwared ar gopïau papur yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.       

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.   

Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut mae'u defnyddio nhw.

9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost :  GlyntaffCrematorium@rctcbc.gov.uk 

Ffôn : 01443 40281

Trwy lythyr : Swyddfeydd y Fynwent a'r Amlosgfa, Crematorium Road, Glyn-taf, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4BE