Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cymorth i Ofalwyr

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynllun Cynnal y Cynhalwyr

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynllun Cynnal y Cynhalwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr yn cynnig cymorth am ddim i gynhalwyr o bob oedran.

Mae modd i'r cymorth rydyn ni'n ei gynnig i Gynhalwyr gynnwys:

  • Grwpiau Cymorth
  • Gwasanaethau Cwnsela
  • Prisiau gostyngol i wasanaethau megis gwasanaethau Hamdden
  • Cymorth Brys
  • Cylchlythyrau, gwybodaeth a chyngor
  • Hyfforddiant ac achlysuron
  • Asesiad a chymorth i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc - rhwng 18 a 25 oed

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'n bosibl bydd yr wybodaeth bersonol byddwn ni'n ei phrosesu er mwyn gweld sut y gallwn ni eich cefnogi chi a'ch teulu orau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt
  • Manylion y rôl gynnal
  • Ar gyfer Cynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc (18-25), byddwn ni,  gyda'ch caniatâd, yn cadw gwybodaeth sy'n ymwneud â chi a'ch sefyllfa deuluol, gan gynnwys gwybodaeth iechyd a lles, i sefydlu pa gymorth byddwn ni'n ei gynnig i chi.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae modd i ni dderbyn eich gwybodaeth oddi wrth amrywiaeth o wahanol ffynonellau, sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Chi'ch hun, er enghraifft, pan fyddwch chi'n dod i un o'n hachlysuron ac yn cofrestru i dderbyn gwybodaeth gennym ni ar gyfer achlysuron eraill.
  • Gweithwyr proffesiynol, fel gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac ati.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau cymorth i Gynhalwyr i chi. Er enghraifft, mae modd i hyn gynnwys: 

Prosesu atgyfeiriad a gawson ni ar eich rhan am gefnogaeth i Gynhalwyr;

  • Creu cofnod electronig o'ch cefnogaeth ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
  • Cadw rhestr bostio ar gyfer cylchlythyr;
  • Rhannu gwybodaeth â chi drwy'r pecyn cynhalwyr;
  • Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner eraill i drefnu'r cymorth sydd eu hangen arnoch.
  • Comisiynu unrhyw wasanaethau trydydd parti a allai fod yn ofynnol, e.e. Gweithredu dros Blant, gwasanaeth cwnsela.
  • Ar gyfer oedolion sy'n gynhalwyr ifainc, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol sydd wedi'i darparu yn eich asesiad i greu'r gwasanaeth cymorth byddwn yn ei ddarparu ar eich cyfer a'i werthuso.

Nodwch ei bod hi'n bosibl i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma i lunio gwybodaeth reoli ac adroddiadau i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn eu rhedeg yn gywir. Fel arfer, bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys ffeithiau a ffigyrau yn hytrach na gwybodaeth sy'n ei gwneud hi'n bosibl eich adnabod. Rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth bersonol i lunio'r ffigyrau hynny.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond pan fo rheswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma er mwyn darparu cymorth i gynhalwyr sy'n oedolion a phlant fel a ganlyn:

Oedolion

Erthygl 6 (a) Cydsyniad - Mae modd i oedolyn gydsynio i dderbyn gwybodaeth gan y Gwasanaeth Cymorth i Gynhalwyr ynghylch newyddion ac achlysuron sydd wedi'u trefnu.

Erthygl 6 (e) - Tasg gyhoeddus. Mae modd cynnal asesiad ar gyfer cynhalwyr sy'n oedolion ifainc er mwyn gweld sut y gallwn eu cefnogi.

Erthygl 6 (c) Rhwymedigaethau cyfreithiol - Darparu gwasanaeth i ddiwallu'r anghenion sydd wedi'u nodi yn y cynllun gofal a chymorth yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Erthygl 9 (g) Budd y cyhoedd - prosesu 'categori arbennig' - mae angen prosesu er mwyn cynnal yr asesiad yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Plant

Erthygl 6 (c) Rhwymedigaethau cyfreithiol - Darparu gwasanaeth i ddiwallu'r anghenion sydd wedi'u nodi yn y cynllun gofal a chymorth yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Erthygl 9 (g) Budd y cyhoedd - prosesu 'categori arbennig' - mae angen prosesu er mwyn cynnal yr asesiad yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Os ydych chi'n gynhaliwr sy'n oedolyn, efallai y byddwn ni'n rhannu'ch manylion cyswllt â gwasanaethau cymorth neu ddarparwyr hyfforddiant eraill, os ydych chi wedi cydsynio i ni wneud hynny.

Os ydych chi'n gynhaliwr sy'n blentyn, a bod angen y gwasanaeth o ganlyniad i asesiad gafodd ei gynnal yn ôl y gyfraith, byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth gyda'r darparwr gwasanaeth perthnasol, h.y. Gweithredu dros Blant, a fydd yn eich cefnogi gyda'r anghenion sydd wedi'u nodi yn eich cynllun gofal a chymorth.

7.    Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Ar gyfer oedolion sy'n gynhaliwr byddwn yn gofyn am eich caniatâd er mwyn eich cofrestru gyda'r prosiect a'ch ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer cylchlythyrau. Mae modd i chi wrthod rhoi eich caniatâd i'r cylchlythyr ar unrhyw adeg a byddwn ni'n darparu gwybodaeth ar sut i ddadgofrestru gyda phob cylchlythyr. Ar ôl i chi ddadgofrestru, byddwn ni'n diweddaru ein cofnodion i sicrhau ein bod yn rheoli eich dewis yn unol â hynny.

Ar gyfer cynhalwyr sy'n oedolion, cynhalwyr sy'n oedolion ifainc a chynhalwyr sy'n blant, rydyn ni'n cadw'r cofnodion am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i ymwneud unigolion â'r gwasanaeth ddod i ben.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: cynnalycynhalwyr@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281463

Cyfeiriad post:

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr

11–12 Heol Gelliwastad

Pontypridd

CF37 5BW