Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Hyfforddiant Cyflawni Gofal Plant

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion hyfforddiant Cyflawni Gofal Plant

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion cynnig hyfforddiant gan y Garfan Cyflawni Gofal Plant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Garfan Cyflawni Gofal Plant yn goruchwylio safon lleoliadau gofal plant ar gyfer lleoliadau a reolir gan y Cyngor a lleoliadau sydd wedi'u comisiynu (allanol). 

Rydyn ni hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi ar gyfer lleoliadau gofal plant wedi'u comisiynu a sesiynau hyfforddi mewnol ar ffurf ystod o sesiynau hyfforddi a gweithdai.  Mae sefydliadau mewnol ac allanol yn cyflwyno'r rhain.

Sylwch: mae'r gair 'lleoliad' yn ymwneud â darparwr gofal plant sy'n gweithredu o dan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) i ddarparu gofal plant ar ffurf meithrinfa ddydd, gofal plant sesiynol neu warchod plant.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am y staff mewn lleoliad. Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enwau llawn staff y lleoliad
  • Y lleoliad maen nhw'n gweithio ynddo a'r cyfeiriad / manylion cyswllt
  • Eich gwybodaeth bersonol fel aelod o staff; enw, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. 
  • Rydyn ni'n cadw cofnod o ddewisiadau staff unigol a'u sgiliau cyfathrebu o ran y Gymraeg .

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r garfan yn cynnal archwiliadau hyfforddi bob tymor ar bob lleoliad a'r hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer ei aelodau staff yn unol â'r matrics Hyfforddiant Dechrau'n Deg a nodwyd i gefnogi cynllunio cyrsiau hyfforddi i'w darparu gan y gwasanaeth yn y dyfodol.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gyda'r darparwr hyfforddiant perthnasol a thiwtor y cwrs.

Byddwn ni'n cadw cofnod o'r hyfforddiant rydych chi'n ei fynychu.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

Mae'n rhan o dasg gyhoeddus y Cyngor i weithio gyda'r lleoliadau gofal plant a chynorthwyo i nodi'r hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer ei staff. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Byddwn ni ond yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r darparwr hyfforddiant perthnasol.

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd eich cofnod hyfforddiant yn cael ei gadw am 6 blynedd yn unol â gofynion Dechrau'n Deg.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Mae modd gweld rhagor o fanylion am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w harfer yma.

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

  • Drwy e-bostio: Rachael.ceshion@rctcbc.gov.uk
  • Drwy ffonio: 01443 281437
  • Drwy lythyr: Rheolwr y Garfan Cyflawni Gofal Plant, Tŷ Trevithick, Abercynon, RhCT, CF45 4UQ