Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Garfan lechyd Meddwl yn y gymuned

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd data. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned

Drwy e-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425527 

Drwy'r post: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY. 

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud 

Mae'r Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i oedolion (18 oed neu'n hŷn) sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth. Mae modd i ni ddarparu cefnogaeth sy'n ychwanegol at yr hyn y mae modd i wasanaeth gofal sylfaenol ei gynnig. Caiff y gwasanaeth ei ddarparu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae tair carfan sy'n gweithio yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Taf-Elái. Mae'r carfanau yn cynnwys gweithwyr amrywiol – seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a chynhalwyr. 

Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?

Efallai y byddwn ni'n prosesu data personol sy'n ymwneud â chi, aelodau eich teulu a ffrindiau.

Y categorïau data personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'r wybodaeth rydyn ei chasglu amdanoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i): 

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Manylion adnabod personol megis dyddiad geni, rhif y GIG, cyfeirnod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
  • Enw eich meddyg teulu
  • Manylion am eich anghenion iechyd meddwl a sut mae modd bodloni'r rhain
  • Eich anghenion meddygol
  • Manylion canlyniadau unrhyw asesiadau sydd wedi'u cynnal
  • Manylion ynghylch unrhyw anawsterau efallai rydych chi, eich teulu neu eich staff wedi'u cael wrth fodloni'ch anghenion
  • Eich diddordebau cymdeithasol, anghenion crefyddol a diwylliannol (os yw'n addas) 

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu eich data personol er mwyn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Mae modd i hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw:

  • Cynnal asesiad o'ch anghenion i benderfynu ar y gefnogaeth fwyaf priodol y mae modd i ni ei chynnig
  • Cydlynu â meddygon Adran 12 i drefnu asesiadau meddygol a chael eu hargymhellion proffesiynol
  • Datblygu cynllun gofal a fydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan eich Gweithiwr Cymdeithasol i sicrhau bod y gefnogaeth a gewch chi'n parhau i fod yn briodol, ac i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i gynnal ein gwasanaethau yw:

  • Erthygl 6 (c) – Prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolydd. 
  • Erthygl 6 (e)  – Prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolydd.
  • Erthygl 9(2)(h) – Prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer meddyginiaeth alwedigaethol neu ataliol, i asesu gallu aelod o staff i weithio, diagnosis meddygol, darpariaeth gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth neu reolaeth o systemau a gwasanaethau gofal iechyd ar sail Cyfraith Ddomestig neu yn unol â chytundeb â gweithiwr iechyd proffesiynol a'r amodau a threfniadau diogelu sy'n cael eu crybwyll ym mharagraff 3.
  • Atodlen 1, Rhan 1, 2, Deddf Diogelu Data 2018 – Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983     
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005 

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Chi, aelodau eich teulu a'ch ffrindiau
  • Adrannau gwasanaethau cymdeithasol mewnol eraill
  • Bwrdd Iechyd Lleol
  • Yr Heddlu
  • Prifysgolion a cholegau 

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol i roi cymorth i chi.

Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu. 

Pwy 

Diben

 

Adrannau Mewnol y Cyngor 

 

  • Gwasanaethau i Oedolion
  • Gwasanaethau i Blant

 

  • Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu i gwblhau eich asesiad a rhoi'r gefnogaeth fwyaf addas i chi yn seiliedig ar eich anghenion.

 

3ydd partïon y mae modd ymddiried ynddyn nhw

  • Bwrdd Iechyd Lleol
  • Darparwyr Gofal
  • Yr Heddlu
  • Darparwyr Tai
  • Prifysgolion a cholegau

 

Prosesyddion Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma gategorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion y Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned:

-       Darparwyr Systemau TG 

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol? 

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion am: 

Hyd

Rheswm

 

Caiff Cofnodion Iechyd Meddwl eu cadw am 10 mlynedd o'r dyddiad y daw eich cysylltiad â ni i ben.

 

Gofyniad statudol  

Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau o ran diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.  

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Drwy e-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rctcbc.gov.uk 

Ffôn: 01443 425527 

Drwy'r post: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY. 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://cy.ico.org.uk/