Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned
Rhagarweiniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned.
Er ein bod ni wedi ceisio gwneud yr hysbysiad preifatrwydd yma mor glir a chryno â phosibl, mae'n bosibl y bydd y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar eich anghenion o ran cymorth.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned.
E-bostiwch: AOG@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425765
Drwy'r post: Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned, CBS Rhondda Cynon Taf, Tŷ Elai, Trewiliam, CF40 1NY
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
Mae'r Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned (AOG) yn darparu amrywiaeth o gymhorthion, offer neu addasiadau i helpu defnyddwyr gwasanaeth i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd.
Gwneir cyfeiriadau i’r gwasanaeth gan adrannau mewnol eraill y Cyngor ac asiantaethau trydydd parti rydyn ni'n ymddiried ynddyn nhw.
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r unigolion canlynol i ddarparu ein Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned:
- Defnyddwyr Gwasanaeth (Oedolion a Phlant)
- Rhieni, gwarcheidwaid, cynhalwyr
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categoriau o ddata personol canlynol i ddarparu ein Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned:
Defnyddiwr Gwasanaethau
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion adnabod personol megis eich dyddiad geni, rhif System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
- Enw eich meddyg teulu
- Eich hil neu ethnigrwydd
- Gwybodaeth am eich iechyd i asesu eich anghenion gofal a chymorth
Aelodau o'r teulu / ffrindiau (os ydyn nhw'n ymwneud â'ch gofal o ddydd i ddydd)
- Manylion cyswllt gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
Pam rydyn ni'n prosesu data personol
Rydyn ni'n prosesu'r data personol i ddarparu'r Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Prosesu atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned
- Cwblhau asesiadau arbenigol, i nodi anghenion a darparu argymhellion ar ba addasiadau/offer sydd eu hangen.
- Trefnu a gweithio gyda sefydliadau 3ydd parti i ddarparu addasiadau/offer angenrheidiol neu unrhyw gymorth angenrheidiol.
- Adolygu sut mae'r gwasanaeth wedi diwallu deilliannau/anghenion defnyddwyr er mwyn sicrhau eich bod chi'n fodlon â'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
- Cynnal asesiadau codi a chario ar gais darparwyr gofal neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Comisiynu sefydliadau 3ydd parti i gwblhau adolygiadau gwella gwasanaeth ar ein rhan.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:
- Erthygl 6 (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolydd.
- Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolydd.
- Erthygl 9(2)(h) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer meddyginiaeth alwedigaethol neu ataliol, i asesu gallu aelod o staff i weithio, diagnosis meddygol, darpariaeth gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth neu reolaeth o systemau a gwasanaethau gofal iechyd ar sail Cyfraith Ddomestig neu yn unol â chytundeb â gweithiwr iechyd proffesiynol a'r amodau a threfniadau diogelu sy'n cael eu crybwyll ym mharagraff 3.
- Atodlen 1, Rhan 1, 2, Deddf Diogelu Data 2018 – dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Deddf Safonau Gofal 2000
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
- Deddf Tai ac Adfywio 2008
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:
- Defnyddwyr Gwasanaeth
- Teulu neu ffrindiau
- Rhieni, gwarcheidwaid, cynhalwyr
- Cartrefi Gofal
- Adrannau eraill y Cyngor
- Sefydliadau Trydydd Parti
- Y Bwrdd Iechyd Lleol
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol i ddarparu Gwasanaethau Addasu ac Offer y Gymuned.
Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu. Bydd y math o wybodaeth sy'n cael ei rhannu a'r bobl y mae'n cael ei rhannu â nhw yn dibynnu ar yr anghenion gofal a chymorth.
Pwy
|
Diben
|
Adrannau Mewnol y Cyngor
- Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)
- Un Man Cyswllt
- Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith
- Cwmni Vision Products
- Tai
- Priffyrdd
- Cynllun Adborth Cwsmeriaid
- Ailalluogi
- Gofal Canolraddol
- Gwasanaethau i Blant
- Gofal a Chymorth
- Y Garfan Synhwyraidd
- Trefnu'r gofal a chymorth angenrheidiol
|
|
Darparwyr Tai
- Cymdeithasau Tai
- Landlordiaid preifat
|
- Trefnu'r gofal a chymorth angenrheidiol
- Darparu gwybodaeth am unrhyw addasiadau sydd eu hangen ar gyfer eiddo rhent
|
Darparwyr Gofal
- Gofal yn y Cartref
- Cartrefi Gofal
|
- Trefnu'r gofal a chymorth angenrheidiol, hynny yw, gofal seibiant
|
3ydd Partïon gellir ymddiried ynddyn nhw
- Gofal a Thrwsio
- Canolfan Byw Annibynnol Dewis
|
- Trefnu'r gofal a chymorth angenrheidiol
|
Y Bwrdd Iechyd Lleol
|
- Trefnu’r gofal a chymorth angenrheidiol
|
Proseswyr Data
Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddiben y Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned:
- Darparwyr Systemau TG, ac ati.
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Addasu ac Offer y Gymuned am:
Faint o amser
|
Rheswm
|
Atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned - Unwaith y bydd yr atgyfeiriad wedi'i gwblhau, caiff y cofnod ei gau a'i gadw ar gofnod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru y defnyddiwr gwasanaeth.
|
Bydd cofnodion System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn cael eu cadw yn unol ag anghenion busnes neu unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol.
Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.
E-bostiwch: AOG@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425765
Drwy'r post: Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned, CBS Rhondda Cynon Taf, Tŷ Elai, Trewiliam, CF40 1NY
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk