Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?
Rôl Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf yw:
- Casglu ynghyd ac ystyried data'r gweithlu i lywio'r gwaith o gynllunio'r gweithlu
- Gweithio ar y cyd i ystyried y gofynion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i lywio, blaenoriaethu a thargedu anghenion datblygu'r gweithlu
- Darparu cyfleoedd datblygu'r gweithlu trwy gynnig:
- Rhaglen datblygu gweithlu wedi'i hariannu gan grant sydd ar gael i ddarparwyr gofal cymdeithasol yn ardal Cwm Taf
- Rhaglen flynyddol o achlysuron hyfforddi a datblygu
- Datblygu dulliau hyblyg o gyflwyno hyfforddiant
- Mynediad i achlysuron cynadledda a rhwydweithio
- Fframweithiau cymwysterau a chymwyseddau newydd
- Cyfleoedd i gymhwyso, ôl-gymhwyso a DPP/Gofynion Hyfforddiant a Dysgu Ôl-Gofrestru (PRTL) ar gyfer gweithwyr cofrestredig cymwys
- Cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus
- Ystod eang o gyfathrebu a gwybodaeth – e.e. cylchlythyrau a bwletinau
- Gwerthuso effaith cynlluniau dysgu a datblygu rhanbarthol ar wasanaethau ac ar y gweithlu
- Cyflogwyr sy’n bennaf gyfrifol o hyd am ddarparu hyfforddiant, datblygiad a chymwysterau effeithiol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Bwriad y grant RhDGGCC yw ychwanegu’n sylweddol at yr adnoddau sy'n cael eu darparu gan gyflogwyr.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae'r mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu, fel arfer, yn cynnwys:
- Gwybodaeth am yr hyfforddai gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, lleoliad cyflogaeth (maes gwasanaeth, cwmni ac ati), rheolwr llinell
- Cofnod hyfforddi – y cwrs mae wedi'i wneud, dyddiadau, lleoliad, gradd ac ati
- Cymwysterau wedi'u hennill – dyddiadau cwblhau, darparwyr, graddau ac ati.
- Gwerthuso hyfforddiant – llenwi taflenni adborth, gan gynnwys sylwadau am hyfforddiant. Gall hyn gynnwys enw, dynodiad (ac ati) lle cafodd yr hyfforddiant ei gwblhau (ddim yn orfodol)
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Ar gyfer gweithwyr RhCT bydd yr wybodaeth yn cael ei darparu gan:
- Gwybodaeth sy'n cael ei darparu'n uniongyrchol gan yr unigolyn, rheolwr llinell, e.e. ar ffurflen gais
- Adnoddau Dynol Mewnol
- Llenwi ffurflenni gwerthuso ar ôl cyrsiau
Ar gyfer y rheiny sydd ddim yn weithwyr RhCT, bydd yr wybodaeth yn cael ei darparu gan:
- Gwybodaeth wedi'i darparu'n uniongyrchol gan yr unigolyn, rheolwr llinell neu'r cyflogwr, e.e. ar ffurflen gais
- Llenwi ffurflenni gwerthuso ar ôl cyrsiau
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn:
- Trefnu a darparu hyfforddiant priodol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid
- Cadw cofnod o'r hyfforddiant hwnnw
- Defnyddio'ch adborth i wella ein rhaglen hyfforddiant ymhellach
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol yn rhan o'n swyddogaeth yn gorff cyhoeddus o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Yn achos gweithwyr y Cyngor, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gyda:
- Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant – mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gadw cofnodion o'r hyfforddiant
- Rheolwr Llinell – e.e. i gadarnhau presenoldeb / cwblhau'r cwrs
- Darparwyr arholwr / hyfforddiant – City & Guilds, ac ati, i wirio'r cofnodion arholiadau a hyfforddiant.
Ar gyfer hyfforddeion allanol byddwn ni'n rhannu gwybodaeth gyda'r:
- Cyflogwr – e.e. i gadarnhau presenoldeb / cwblhau'r cwrs
- Arholwyr / darparwyr hyfforddiant - City & Guilds, ac ati, i wirio'r cofnodion arholiadau a hyfforddiant
7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?
Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnom ei hangen, yn dibynnu ar natur y wybodaeth ac unrhyw ofynion cyfreithiol.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gyfnodau cadw penodol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma Eich Hawliau am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
Drwy e-bost: hyfforddiantgofalcymdeithasol@rctcbc.gov.uk
Drwy ffonio: 01443 281444
Drwy lythyr: Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf, Rock Grounds, Stryd Fawr, Aberdâr CF44 7AE