Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:
Gwybodaeth am y Polisi
Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y sefydliad) yn defnyddio data ei weithlu. Mae nifer o bolisïau ar waith sy'n gymorth o ran rheoli cytundebau cyflogaeth ein gweithwyr. Mae data gweithwyr yn cael eu prosesu er mwyn sicrhau bod y polisïau'n cael eu dilyn.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn ymwneud â Chynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products. Mae'r Cynllun Swydd dan Hyfforddiant yn darparu cyfle hyfforddi i unigolion ag anableddau yn y gymuned leol. Dyma gynllun 12 mis sy’n gofyn am 16 awr yr wythnos.
Y Rheolwr Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â Vision Products:
E-bost: VisionProductsBusiness@rctcbc.gov.uk
Rhif ffôn: 01443 229988
Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?
Byddwn ni'n prosesu data personol unigolion sy'n cael eu cyfeirio at Gynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products.
Y categorïau data personol rydyn ni'n eu prosesu
Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau data personol canlynol ar gyfer dibenion Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products:
- Enw
- Cyfeiriad a chod post
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Dyddiad Geni
- Hanes Cyflogaeth / Profiad Gwaith
- Cofnodion hyfforddi
- Rhif staff / rhif y gyflogres
- Manylion Aelodaeth gydag Undeb Llafur
- Gwybodaeth Iechyd (h.y. Anableddau, Salwch Hirdymor a.y.b.)
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu data personol at ddibenion y Cynllun Swydd dan Hyfforddiant. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Anfon ffurflenni mynegiant o ddiddordeb at asiantaethau partner ar gyfer atgyfeiriadau neu hunanatgyfeiriadau.
- Llunio rhestr fer, dewis a recriwtio ymgeiswyr addas
- Darparu diweddariadau mewn perthynas â chynnydd swyddi dan hyfforddiant
- Cwblhau adolygiadau cynnydd mewn perthynas â swyddi dan hyfforddiant
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products yw:
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6 (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
- Tasg Gyhoeddus - Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
- Cytundeb - Erthygl 6(b) - Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract y mae testun y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau gweithredu ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract.
- Cyfraith Cyflogaeth, Nawdd Cymdeithasol a Diogelu Cymdeithasol – Erthygl 9 (2)(b) – mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ac arfer hawliau penodol rheolwr neu destun y data ym maes cyfraith cyflogaeth a nawdd cymdeithasol a diogelu cymdeithasol i’r graddau y mae wedi’i awdurdodi gan gyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth neu gytundeb ar y cyd yn unol â chyfraith Aelod-wladwriaeth sy’n darparu mesurau diogelu priodol ar gyfer hawliau a buddiannau sylfaenol testun y data.
- Erthygl 10, Wedi'i awdurdodi gan atodlen 1 rhan 2(6) o Ddeddf Deddf Diogelu Data 2018 – Dibenion Statudol a Llywodraethu
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:
- Yn uniongyrchol gan yr unigolyn drwy Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb
- Atgyfeiriad gan asiantaethau partner drwy Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu data personol gyda'r asiantaethau mewnol canlynol er mwyn darparu Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products.
Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.
|
Pwy
|
Diben
|
|
Adnoddau Dynol / Iechyd Galwedigaethol
|
Cynorthwyo â'r broses recriwtio.
Cyngor a chyfarwyddyd drwy gydol y Cynllun Swydd dan Hyfforddiant.
|
|
Adran y Gyflogres
|
Nodi'r hyfforddai ar system y gyflogres
|
Prosesyddion Data
Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Y categorïau prosesyddion data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion Cynllun Swydd dan Hyfforddiant Vision Products yw:
- Darparwyr Systemau TG
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion ar gyfer y cynllun yma am:
|
Hyd
|
Rheswm
|
|
Ceisiadau aflwyddiannus -
Cais + 3 mis
Ceisiadau llwyddiannus -
Swydd dan Hyfforddiant + 6 mis
|
Arfer Busnes Da
|
Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol rydyn ni'n dal gafael arnyn nhw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.
Eich hawliau'n ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â Vision Products yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.
- E-bost: VisionProductsBusiness@rctcbc.gov.uk
- Rhif ffôn: 01443 229988
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data
Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://cy.ico.org.uk/