Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gorff Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Gorff Goruchwylio Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) sy'n gyfrifol am sicrhau bod Hawliau Dynol oedolion sydd heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am ble maen nhw'n byw a sut maen nhw'n cael gofal a chymorth, ac sy'n byw, neu fydd yn byw, mewn cartrefi gofal cofrestredig, yn cael eu hamddiffyn yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Rydyn ni'n gwneud hyn trwy gynnal asesiadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith fel sydd wedi'i nodi yn Atodlen 1A ac A1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (DoLS) i benderfynu a ddylai'r Cyngor, yn ei rôl fel Corff Goruchwylio, gyflwyno Awdurdodiad Safonol. Mae'r Awdurdodiad Safonol yn rhoi awdurdod cyfreithiol i'r cartref gofal ofalu am bobl, hyd yn oed pan nad oes modd iddyn nhw gydsynio i'w trefniadau gofal, ac mae'r trefniadau hynny'n arwain at golli eu rhyddid. 

2.     Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae Carfan Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr presennol a blaenorol y gwasanaeth rydyn ni wedi'u hasesu.

Mae'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i ni allu cynnal asesiad yn cynnwys:

Yr unigolyn / defnyddiwr y gwasanaeth

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth o ran iechyd
  • Gwybodaeth sydd ar y cynllun gofal
  • Gwybodaeth ariannol
  • Hil
  • Tarddiad Ethnig
  • Cred Grefyddol
  • Cyfeiriadedd Rhywiol

Teulu defnyddiwr y gwasanaeth

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Unrhyw farn y teulu a/neu ffrindiau am les gorau defnyddiwr y gwasanaeth

Y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda defnyddiwr y gwasanaeth

  • Manylion rheolwr y cartref gofal e.e. enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Ymarferwyr meddygol
  • Nyrsys
  • Eiriolwyr

Nodwch – does gan unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda defnyddiwr y gwasanaeth ddim hawl i aros yn ddienw.

3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael y rhan fwyaf o wybodaeth am ddefnyddiwr y gwasanaeth gan y cartref gofal lle mae'r unigolyn yn byw ac o'i gofnodion Gofal Cymdeithasol. Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth gan ffynonellau eraill yn rhan o gynnal asesiad, er enghraifft aelodau'r teulu, gweithwyr proffesiynol meddygol, gweithiwr cymdeithasol. 

Beth fydd yn digwydd gyda gwybodaeth rydw i'n ei rhoi am aelod o fy nheulu sy'n byw mewn cartref gofal?

Oni bai eich bod chi'n gofyn i beidio â chofnodi gwybodaeth benodol, bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei chofnodi ar asesiad DoLS yr aelod o'ch teulu, sef Asesiad Lles Gorau.

Os ydych chi wedi nodi pryderon, mae'n bosibl y bydd raid i ni rannu hyn gyda'r preswylydd a'r cartref gofal. Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu unrhyw ohebiaeth rydyn ni'n ei hanfon atoch chi gyda'r aelod o'ch teulu a'r cartref gofal.

4.     Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

A ninnau'n Gorff Goruchwylio, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i wneud y canlynol:

  • Cynnal asesiadau i benderfynu a yw'r trefniadau sydd wedi'u rhoi ar waith gan y cartref gofal yn briodol ac er lles gorau defnyddiwr y gwasanaeth yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Hawliau Dynol 1998.
  • Rhoi awdurdodiad swyddogol i'r cartref gofal i gadarnhau bod y trefniadau sydd wedi'u rhoi ar waith ar gyfer defnyddiwr y gwasanaeth yn briodol.

5.     Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sail gyfreithiol ni ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn bodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1.(c),(e) - i fodloni ein rhwymedigaeth gyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2.(g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

6.     Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Byddwn ni dim ond yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol lle bydd angen gwneud hynny a bydd yr wybodaeth o fudd er mwyn amddiffyn person sy'n agored i niwed. Mae enghreifftiau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, allai fod yn Wasanaethau'r Cyngor, yn ogystal â gwasanaethau allanol, er enghraifft Gweithiwr Cymdeithasol, Meddyg, Nyrs, Rheolwr y Cartref Gofal.
  • Asiantaethau Trydydd Parti, e.e. gwasanaethau eiriolaeth proffesiynol.

Rydyn ni hefyd wedi gwneud contract gyda chwmni o'r enw ID Medical sy'n helpu'r Cyngor i gwblhau ein hasesiadau. Bydd staff ID Medical yn dilyn yr un prosesau â staff y Cyngor er mwyn cwblhau'r asesiadau hynny. Byddan nhw'n cysylltu'n uniongyrchol â defnyddiwr y gwasanaeth ac yn casglu gwybodaeth berthnasol am yr unigolyn gan ystod o ffynonellau, gan gynnwys aelodau'r teulu. 

7.   Am faint o amser byddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n cadw cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben, at ddibenion gweinyddol.  Caiff cofnodion ynghylch anghenion iechyd eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

8.     Beth ydy fy hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth rydych chi'n ei chadw amdanaf i?

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.   Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bostiwch: GwasanaethDoLS@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 425410

Anfonwch lythyr:

Carfan DoLS RhCT

Tŷ Elái

Dwyrain Dinas Isaf

Trewiliam

Tonypandy, CF40 1NY