Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Taliadau Uniongyrchol
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Taliadau Uniongyrchol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?
Mae modd gwneud taliad uniongyrchol i unigolyn (oedolyn neu blentyn) os yw Gwasanaethau Cymdeithasol RhCT wedi cynnal asesiad o anghenion.
Mae taliadau uniongyrchol yn symiau ariannol sydd ar gael gan Wasanaethau Cymdeithasol RhCT i unigolion, neu eu cynrychiolydd, i’w galluogi i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Mae modd i unigolion ddefnyddio'r taliad i brynu amrywiaeth o wasanaethau naill ai drwy gyflogi cynorthwy-ydd personol ar gyfer anghenion gofal neu drwy dalu asiantaeth gofal i ddarparu'r cymorth gofynnol. Mae taliadau uniongyrchol hefyd yn galluogi unigolion i brynu amrywiaeth o wasanaethau, offer a gweithgareddau
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Os yw eich Ymarferydd Gofal Cymdeithasol wedi nodi eich bod chi'n addas i dderbyn taliadau uniongyrchol i ddiwallu eich anghenion, byddwn ni'n prosesu gwybodaeth sy'n ymwneud â chi fel rhywun sy'n derbyn y taliad uniongyrchol, eich cynrychiolydd 3ydd parti ac unrhyw un rydych chi'n ei gyflogi fel cynorthwy-ydd personol neu gynhaliwr (gofalwr).
Y Sawl sy'n Derbyn Taliad Uniongyrchol
- Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, cod post a chyfeiriad e-bost.
- Eich dyddiad geni
- Gwybodaeth Ariannol i weinyddu eich taliad
- Gwybodaeth am eich iechyd i asesu eich anghenion gofal a chymorth
Cynrychiolydd 3ydd Parti
- Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, cod post a chyfeiriad e-bost
- Statws eich perthynas â'r sawl sy'n derbyn y taliad uniongyrchol
Cynorthwy-ydd Personol neu Gynhaliwr
- Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, cod post a chyfeiriad e-bost.
- Eich dyddiad geni
- Euogfarnau Troseddol wedi'u nodi yn rhan o'ch Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Bydd yn cael yr wybodaeth:
- Gennych chi, pan fyddwch chi'n gwneud cais i gael taliad uniongyrchol.
- Gan gynrychiolydd 3ydd parti a fydd o bosib yn cynorthwyo unigolion i wneud cais i dderbyn taliad uniongyrchol, h.y. Gweithiwr Cymdeithasol, aelod o'r teulu neu ffrind.
- Gan aelod o garfan Adnoddau Dynol RhCT pan fydd gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi nodi euogfarnau troseddol
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Y Sawl sy'n Derbyn Taliad Uniongyrchol
Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth i weinyddu a phrosesu eich taliad uniongyrchol.
Cynrychiolydd 3ydd Parti
Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth i weinyddu a phrosesu’r taliad uniongyrchol i’r person yr ydych yn gweithredu ar ei ran.
Cynorthwy-ydd Personol neu Gynhaliwr
Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth i benderfynu ar eich penodiad os oes unrhyw euogfarnau troseddol wedi dod i’r amlwg yn rhan o’ch gwiriad gorfodol gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae angen inni wneud y penderfyniad yma er mwyn diogelu'r sawl sy'n derbyn y taliad uniongyrchol.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol yw cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol a thasg gyhoeddus dan y deddfau canlynol:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill y Cyngor neu sefydliadau allanol i weinyddu'ch taliadau uniongyrchol fel a ganlyn;
Mewnol
- Adran Ariannol er mwyn rhoi'r taliad i chi
- Adran Adnoddau Dynol er mwyn prosesu gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Allanol
- Canolfan Byw’n Annibynnol DEWIS i roi’r canllawiau a’r cymorth angenrheidiol i chi reoli eich taliad uniongyrchol a chyflogi cynorthwy-ydd personol neu gynhaliwr.
7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?
Bydd gwybodaeth mewn perthynas â’r cais am daliad uniongyrchol yn cael ei chadw am 7 mlynedd.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
Ffôn: 01443 425003
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Trwy lythyr: Gwasanaethau Cymdeithasol, Tŷ Elái, Uned B1, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY