Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Llwybrau at Gyflogaeth
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Llwybrau i Gyflogaeth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae'r rhaglen Llwybrau at Gyflogaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n darparu hyfforddiant wedi'i deilwra, ac yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i wella sgiliau cyflogadwyedd yn RhCT.
Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau amrywiol sy'n atgyfeirio pobl at ein rhaglen, ar gyfer pobl sy'n ddi-waith / economaidd anweithgar ar hyn o bryd.
Mae modd i ni ddarparu hyfforddiant wedi'i deilwra'n benodol i'r sector gyda gwarant o gyfweliad.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unrhyw un sy wedi cymryd rhan yn y rhaglen Llwybrau at Gyflogaeth. Mae pob un ohonyn nhw'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar, ac wrthi'n chwilio am waith.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Ffurflen Gofrestru:
- Enw, Cyfeiriad, Rhif Cyswllt a Chyfeiriad E-bost
- Dyddiad Geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Pa fudd-daliadau maen nhw wedi'u hawlio ac am ba hyd
- Lefelau cymwysterau cyfredol
- Ffurflen Gydraddoldeb:
- Rhywedd
- Oedran
- Anabledd
- Crefydd neu Gred
- Grŵp ethnig
- Cyfeiriadedd Rhywiol
- Ffurflen Hunan-ddatgan
- Enw'r cyflogwr, y dyddiad cychwyn a'r oriau maen nhw wedi'u gweithio
- Cofnod presenoldeb hyfforddiant
- Cymwysterau a chanlyniadau
- Adolygiadau monitro
- Asesiadau sgiliau hanfodol
- Manylion cyswllt cyflogwyr, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn a chyfeiriadau cyswllt.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r wybodaeth gychwynnol rydyn ni'n ei derbyn yn gyffredinol yn dod gan atgyfeirwyr. Mae modd i'r rhain gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cymunedau am Waith+ (CaW+), Cymunedau am Waith (CaW), Remploy, Gyrfa Cymru a rhai sefydliadau trydydd sector. Mae gyda ni hefyd nifer o bobl sy'n eu hatgyfeirio eu hunain at ein rhaglen. I ddechrau, mae'r wybodaeth yma yn sylfaenol iawn, ac yn cynnwys enw a manylion cyswllt.
Ar ôl cymryd rhan yn ein rhaglen, bydd yr unigolyn yn llenwi pecynnau cofrestru ac ymrestru.
Pan fydd ein rhaglen wedi'i chwblhau bydd rhaid i'r unigolyn wedyn lenwi ffurflen hunan-ddatgan.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen gofrestru a'r ffurflen hunan-ddatgan ei defnyddio i gofnodi a dilyn taith yr unigolyn trwy hyfforddiant ac i gyflogaeth.
Yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi'n ei darparu, byddwn ni'n trefnu hyfforddiant / cyfweliadau swyddi addas ac ati, a byddwn ni'n monitro'ch cynnydd.
Bydd yr wybodaeth gydraddoldeb sy wedi'i chasglu yn cael ei throsglwyddo i CaW+ (sef y gwasanaeth sy'n ein hariannu ni'n rhannol) sy'n ei defnyddio at ddibenion monitro cydraddoldeb.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i gyflwyno'r Rhaglen Llwybrau at Gyflogaeth yw arfer ein swyddogaethau fel awdurdod cyhoeddus ac i weithredu er budd y cyhoedd, h.y. darparu hyfforddiant a chefnogi pobl i ddod o hyd i waith.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Fel sy wedi'i ddisgrifio uchod, rydyn ni'n gweithio gyda nifer o bartneriaid dibynadwy fel:
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Cymunedau am Waith+ (CaW+)
- Cymunedau am Waith (CaW)
- Remploy
- Gyrfa Cymru
- Sefydliadau trydydd sector - fel Cymorth i Fenywod, Gofal Cymru, Chwarae Teg
Rydyn ni'n adrodd ar gynnydd, canlyniadau cymwysterau a lleoliadau gwaith (wedi'u talu a heb eu talu) i CaW+. Mae CaW+ wedyn yn trosglwyddo hyn i Lywodraeth Cymru.
Wrth drefnu cyfweliadau, rydyn ni'n rhoi eich enw a'ch manylion cyswllt i'r cyflogwr.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Caiff yr wybodaeth ei chadw am 3 blynedd, ac yna caiff ei dinistrio'n ddiogel.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: ceri-ann.sheen@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 744033
Trwy lythyr: Llwybrau at Gyflogaeth, Tŷ Trevithick, Aberpennar, CF45 4UQ.