Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd y Learning Curve

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd y Learning Curve.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd y Learning Curve.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael eu prosesu at ddibenion y Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd y Learning Curve.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â chanolfannau Learning Curve y Dwyrain (Y Gadlys) neu Learning Curve y Gorllewin (Llwynypia) 

Ffôn: Learning Curve Y Gadlys – 01685 873647

        : Learning Curve Llwynypia – 01443 436937 

Drwy'r post: Learning Curve Y Gadlys, Teras Maelgwyn, Y Gadlys, Aberdâr, CF44 8AU

                     : Learning Curve Llwynypia, Heol Llwynypia, Tonypandy, Cwm Rhondda, CF40 2JQ 

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud 

Mae Learning Curve yn darparu cyfleoedd yn ystod oriau dydd i oedolion ag anabledd dysgu, gan gynnwys awtistiaeth ac anableddau corfforol, ledled Rhondda Cynon Taf. 

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn nifer o leoliadau, o ganolfannau dydd mawr, i ganolfannau cymunedol bach. Mae gweithgareddau yn cael eu cynnal yn y canolfannau ac yn y gymuned leol

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol sy'n defnyddio'r gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd

  • Defnyddwyr Gwasanaeth
  • Rhieni, gwarcheidwaid, cynhalwyr 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol ar gyfer unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Dynodwyr personol fel dyddiad geni, rhif cyfeirnod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
  • Cofnodion Iechyd gan gynnwys meddyginiaeth ac anghenion gofal a chymorth
  • Data Troseddol 

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu data i gefnogi darpariaeth ein gwasanaethau ac i sicrhau diogelwch a lles unigolion sy'n ymweld â'n canolfannau oriau dydd. Mae'n bosibl y bydd y gwaith prosesu yma'n cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Casglu a storio ffurflenni sy'n cynnwys manylion cyswllt brys sy'n cael eu cwblhau gan rieni/cynhalwyr ac sy'n cynnwys manylion fel enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chofnodion meddygol.  Mae'r ffurflenni yma wedi'u storio'n ddiogel mewn cypyrddau sydd wedi'u cloi yn y canolfannau
  • Cynnal cofnodion dyddiol o weithgareddau, cyfathrebu â rhieni/cynhalwyr neu weithwyr proffesiynol, a chofrestri presenoldeb.
  • Cofnodi pob achos o roi meddyginiaeth, gan gynnwys enw'r feddyginiaeth, y dos a sut caiff y feddyginiaeth ei rhoi
  • Cofnodi unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau sy'n digwydd yn y canolfannau.
  • Derbyn a storio cynlluniau gofal gan weithwyr cymdeithasol, gan gynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i anghenion unigol a threfniadau cymorth
  • Cwblhau a storio unrhyw bryderon o ran diogelu, gan gynnwys euogfarnau troseddol i amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth
    • Prosesu a rheoli cwynion.
    • Prosesu ffurflenni caniatâd lluniau/fideo
    • Cyfeirio defnyddwyr y gwasanaeth at bartneriaid allanol ar gyfer gweithgareddau oriau dydd ychwanegol 

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol gweithgareddau oriau dydd yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol - Erthygl 6(1)(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.  
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (1)(e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Gofal Iechyd neu Gymdeithasol - Erthygl 9(2)(h) - prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer meddyginiaeth alwedigaethol neu ataliol, i asesu gallu aelod o staff i weithio, diagnosis meddygol, darpariaeth gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth neu reolaeth o systemau a gwasanaethau gofal iechyd ar sail Cyfraith Ddomestig neu yn unol â chytundeb â gweithiwr iechyd proffesiynol a'r amodau a threfniadau diogelu sy'n cael eu crybwyll ym mharagraff 3.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9(2)(g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Dibenion Statudol a Llywodraeth - Deddf Diogelu Data 2018 Atodlen 1, Rhan 2(6)

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Perthynas agosaf
  • Enw’r rhiant/gwarcheidwad/cynhaliwr
  • Yn uniongyrchol gan Ddefnyddiwr y Gwasanaeth
  • Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
  • Ysgolion/Colegau 

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau ar gyfer gweithgareddau oriau dydd.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu. 

Pwy 

Diben

Adrannau Mewnol y Cyngor

 

  • Gwasanaethau i Oedolion
  • Diogelu
  • Iechyd a Diogelwch

 

  • Asesu a diweddaru cynlluniau gofal a chymorth
  • Codi pryder sy'n ymwneud â diogelu
  • Rhoi gwybod am unrhyw ddamweiniau sy'n digwydd yn y canolfannau oriau dydd.

 

Partneriaid Allanol a thrydydd partïon dibynadwy

 

  • Ymddiriedolaeth Arts Factory
  • Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian
  • Two Rhythms
  • Cymuned Artis
  • Pobl yn Gyntaf
  • Asiantaeth Elite Supported Employment
  • Forget Me Not Productions

 

  • Cyfeirio defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer cymorth a gweithgareddau ychwanegol yn ystod y dydd

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Morgannwg

  • Ffisiotherapyddion
  • Therapyddion Iaith a Lleferydd
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Nyrsys Anableddau Dysgu

 

  • Asesu defnyddwyr y gwasanaeth a darparu'r gefnogaeth angenrheidiol

Rhieni / Gofalwyr / Perthynas Agosaf

  • Rhoi’r newyddion diweddaraf yn ymwneud â'r gefnogaeth wrth fynychu'r canolfannau

Proseswyr data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categori o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at y dibenion: Gwasanaethau Oriau Dydd

-       Darparwyr Systemau TG, ayyb 

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol? 

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'r cofnodion Oriau Dydd am: 

Hyd

Rheswm

Asesiad o Anghenion –  Diwedd y Gwasanaeth yn ogystal â 3 o flynyddoedd

 

Gofyniad statudol

Cynlluniau Gofal a Chymorth –  Diwedd y Gwasanaeth yn ogystal â 3 o flynyddoedd

 

Gofyniad statudol

Taflenni Atgyfeirio Cyflym –  Diwedd y Gwasanaeth yn ogystal â 3 o flynyddoedd oni bai ei fod wedi'i ddisodli

 

Gofyniad statudol

Taflenni Monitro a Chofnodi Mewnol – Dyddiad y mewnbwn olaf yn ogystal â 3 o flynyddoedd

Gofyniad statudol

 Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.  

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Oriau Dydd Learning Curve yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • Ffoniwch: Learning Curve Y Gadlys – 01685 873647

                         : Learning Curve Llwynypia – 01443 436937 

  • Drwy'r post: Learning Curve Y Gadlys, Teras Maelgwyn, Y Gadlys, Aberdâr, CF44 8AU

                             : Learning Curve Llwynypia, Heol Llwynypia, Tonypandy, Cwm Rhondda, CF40 2JQ 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://cy.ico.org.uk/