Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Kickstart

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion rhaglen Kickstart

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae'r gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion rhaglen Kickstart. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma ar y cyd â hysbysiadau preifatrwydd corfforaethol y Cyngor a'r Adran Gwaith a Phensiynau y mae modd i chi eu darllen yma.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r comisiynydd sy'n gyfrifol am gynllun Kickstart ac mae gan y Cyngor, ac yntau'n borth cymeradwy, gyfrifoldeb am gasglu gwybodaeth yn unol â dibenion nodau ac amcanion rhaglen Kickstart, er mwyn sicrhau bod modd i ni gyflwyno'r cynllun yn effeithiol. Cyfeiriwch at Ganllawiau Grant Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Pyrth a Chyflogwyr (Saesneg yn unig) yma.

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud? 

Mae rhaglen ariannu trwy grant Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhaglen a ariennir gan y Llywodraeth Ganolog ar gyfer pobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sy'n hawlio credyd cynhwysol. Mae'n cynnig lleoliad gwaith â thâl am chwe mis â chyflogwyr lleol i wella sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Ac yntau'n Borth, bydd y Cyngor yn cynnig gwasanaeth cofleidiol i gyflogwyr sy'n ceisio am arian Kickstart trwom ni.  Mae'r gwasanaeth yma'n un dewisol y mae'n rhaid cytuno arno gyda'r cyflogwr cyn gwneud cais am y cyllid grant.  Os bydd cytundeb, yna byddwn ni'n darparu rhaglen wedi'i theilwra o gefnogaeth a hyfforddiant, gan weithio gyda chyflogwyr lleol i wella sgiliau cyflogadwyedd y bobl ifainc yma yn y lleoliadau gwaith hynny.

Gan weithio gydag amrywiol sefydliadau hyfforddi byddwn ni hefyd yn darparu hyfforddiant wedi'i deilwra ac yn benodol i'r sector, os bydd angen.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am gyflogwyr sy'n gwneud cais am y cynllun, yn ogystal â gweithwyr sy'n mynychu hyfforddiant sy'n cael ei drefnu gan y Cyngor ar ran y cyflogwr yn rhan o'r ddarpariaeth cymorth cofleidiol y cytunwyd arni.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu am weithwyr fel arfer yn cynnwys y canlynol:

  • Gwybodaeth gan gynnwys e-byst, rhifau ffôn, manylion banc, gwybodaeth fusnes berthnasol a chyfeiriadau

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu am gyflogwyr fel arfer yn cynnwys y canlynol:

  • Manylion cyswllt pobl ifainc sydd mewn lleoliad gwaith, gan gynnwys enwau, cyfeiriadau, rhifau cyswllt, cyfeiriadau e-bost, dyddiadau geni neu oedran, Rhifau Yswiriant Gwladol, a lefel y cymwysterau cyfredol.
  • Anableddau neu gyflyrrau sy'n cyfyngu ar gyflwr iechyd (at ddibenion mynediad).
  • Gwybodaeth am y llyfr gwaith: byddwn ni'n cadw cofnod o gynnydd ar gyfer pob person ifanc sydd mewn lleoliad gwaith ac sy'n derbyn ein cymorth cofleidiol a fydd yn cynnwys:
  • Enw'r cyflogwr, y dyddiad cychwyn a'r oriau gwaith
  • Cofnod presenoldeb ar gyfer yr hyfforddiant
  • Cymwysterau a chanlyniadau
  • Adolygiadau monitro
  • Asesiadau sgiliau hanfodol
  • Chwiliadau swyddi a chysylltiadau â chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol
  • Hunan-ddatgan unrhyw gymorth sy'n cael ei dderbyn

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Cyflogwr

Gan y cyflogwr ei hun

Gweithiwr Cyflogedig

Daw'r wybodaeth rydyn ni'n ei derbyn gan yr hyfforddwr gwaith o'r Adran Gwaith a Phensiynau neu'r cyflogwr sy'n cynnig y lleoliad gwaith ac yn derbyn cyllid grant Kickstart trwy'r Cyngor, ac yntau'n 'Borth'.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Cyflogwr

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i brosesu'ch cais a'ch cynorthwyo gyda'r cynllun.

Gweithiwr Cyflogedig

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw yn y llyfr gwaith i gofnodi ac olrhain taith cyfranogwr trwy'r broses hyfforddi tra bydd mewn cyflogaeth trwy'r cynllun Kickstart.

Yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych wedi'i darparu i ni, byddwn ni'n trefnu hyfforddiant addas ac yn monitro'ch cynnydd. 

Bydd yr wybodaeth fydd yn cael ei chasglu am gydraddoldeb yn cael ei defnyddio i sicrhau bod yr amodau cywir ar waith i chi fynychu cyrsiau hyfforddi a'ch cynorthwyo wrth i chi chwilio am swydd, os yw hynny'n briodol.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu rhaglen gofleidiol Kickstart yw arfer ein swyddogaethau fel awdurdod cyhoeddus ac er budd y cyhoedd, h.y. darparu hyfforddiant a chynorthwyo pobl i ddod o hyd i gyflogaeth o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?


Cyflogwyr

  • Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh)

Gweithwyr

Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag Adrannau eraill y Cyngor a phartneriaid hyfforddi allanol er mwyn darparu'r rhaglen o gyrsiau cymorth a hyfforddi cofleidiol, er enghraifft:

  • Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh)
  • Adran Addysg i Oedolion
  • Cymunedau am Waith+ (CaW+)
  • Cymunedau am Waith (CaW)
  • Darparwyr Hyfforddiant Allanol a chyrff swyddogol fel Agored Cymru, Academi ARC a Rubicon

Rydyn ni'n adrodd ar unrhyw gynnydd a chanlyniadau cymwysterau i'r cyflogwr perthnasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, os oes cais amdanyn nhw, a rhaglenni cymorth cyflogaeth os ydych chi'n derbyn cymorth mentora  rydych chi yn y lleoliad gwaith.  

7.    Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am y cyfnod sy'n ofynnol gan gynllun grant Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yna'n cael ei dinistrio'n ddiogel. 

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Mae modd gweld rhagor o fanylion am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w harfer yma.

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

Drwy e-bostio: Employer.Support@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 444586

Drwy lythyr: Cymorth Cofleidiol Kickstart, Tŷ Elai, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY.