Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd (Lifeline)

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi'n cysylltu â'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr y Cyngor. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr y Cyngor yn ymateb i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol ar draws Rhondda Cynon Taf.    

Bydd galwadau sy'n cael eu trin gan y gwasanaeth monitro yn cynnwys galwadau argyfwng sy'n cael eu hanfon i'r gwasanaethau brys ar gyfer ymateb brys, ceisiadau am ymatebwyr allweddol (perthynas agosaf, aelodau o'r teulu ac ati) i helpu defnyddwyr y gwasanaeth ac i wneud galwadau lles bob dydd. Mae'r gwasanaeth yn ymateb i alwadau o larymau perifferol fel larwm crog, synwyryddion cwympo, synwyryddion mwg, synwyryddion llifogydd, synwyryddion carbon monocsid, synwyryddion epilepsi ac ystod eang o ddyfeisiau eraill.

Caiff galwadau eu derbyn drwy'r system dderbyn larwm PNC7, sydd hefyd yn storio a phrosesu gwybodaeth allweddol am bwnc y data. Mae'r system weithredu hon yn galluogi gweithredwyr i dderbyn ac ymateb i alwadau'n effeithlon ac yn effeithiol a darparu'r ymateb cywir i'n cwsmeriaid, gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd wedi'i darparu yn ystod yr alwad a'r wybodaeth allweddol sydd wedi'i chofnodi ynglŷn â phwnc y data. 

 2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Bydd cwsmeriaid sy'n dewis cael technoleg gynorthwyol wedi'i gosod (sy'n cael ei hateb gan y gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd) yn darparu gwybodaeth rydyn ni'n ei chofnodi a'i phrosesu. Efallai byddwn yn rhannu'r wybodaeth â meysydd gwasanaeth perthnasol eraill a sefydliadau ehangach sy'n ymwneud â gofal a buddiannau gorau'r cwsmer.

Bydd y math o wybodaeth sydd angen ei gofnodi yn amrywio yn dibynnu ar eich anghenion ac fel arfer mae'n cynnwys: 

  • Manylion cyswllt a manylion personol megis enw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif ffôn
  • Eich manylion a'ch hanes meddygol
  • Manylion cyswllt 'ymatebwyr' i'ch cefnogi chi gan gynnwys Meddyg Teulu, aelodau o'r teulu, cymdogion, ffrindiau ac ati
  • Manylion am eich cartref a allai fod yn berthnasol wrth ymateb i argyfyngau, fel math o dŷ, lle rydych chi'n cysgu, mynediad i'r tŷ (os oes sêff allwedd wedi'i gosod, mynediad trwy ddrws cefn ac ati)

 3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

 Ar y cyfan, caiff yr wybodaeth bersonol ei chasglu trwy gyfrwng ffurflen gais / asesu cyn gosod a monitro offer technoleg gynorthwyol, ond mae modd ei diweddaru'n ddiweddarach drwy alwad ffôn neu drwy ysgrifennu aton ni. Gall ffynonellau gwybodaeth bersonol gynnwys: 

  • Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol wrth ofyn am y gwasanaeth
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan eich cynrychiolydd (e.e. aelod o'r teulu, gŵr/gwraig, partner, plentyn, eiriolwr)
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan aelod arall o'r cyhoedd (e.e. cwyn neu bryder)
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan Gynghorydd etholedig ar ran ei etholwr.
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan swyddogion y Cyngor/gwasanaethau eraill sy'n cysylltu â'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd er mwyn helpu ei gwsmeriaid, neu'r Cyngor ei hun
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan sefydliadau eraill (e.e. Gwasanaethau Brys, Landlordiaid Cymdeithasol) am unigolyn.

Lle rydych chi wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, fel aelodau o'r teulu, cymdogion, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn effro i'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad yma.

 4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

I sicrhau bod y Cyngor yn darparu gwasanaeth diogel i chi bydd gwybodaeth bersonol amdanoch chi ac ymatebwyr allweddol yn cael ei defnyddio i drefnu cefnogaeth pe bai digwyddiad / larwm yn cael ei sbarduno.

Bydd yr wybodaeth byddwn yn ei rhannu, a'r bobl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda nhw, yn amrywio yn ôl eich amgylchiadau fel sy'n cael ei nodi pan fyddwch chi'n cysylltu â ni.  

 5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cofnodi a phrosesu data personol yn diogelu buddiannau'r unigolyn a'r Cyngor wrth fodloni:   

  • Cytundeb  - mae angen cofnodi a phrosesu data personol i gyflawni'r contract  rhwng yr unigolyn/unigolion a'r Cyngor        
  •  Buddiannau Hanfodol  - mewn amgylchiadau eithriadol, sy'n gallu ymestyn y tu hwnt i ofyniad y cytundeb. 

 6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â Monitro Gwifren Achub Bywyd, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor, yn bennaf:  

  • Gwasanaethau Cymunedol a Phlant (e.e. Gwasanaeth Cefnogi yn y Cartref, Gweithiwr Cymdeithasol perthnasol ac ati)

Sefydliadau / Unigolion Eraill yn cynnwys:  

  • Yr Heddlu
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru  
  • Y Gwasanaeth Tân  
  • Bwrdd Iechyd Lleol  
  • Landlordiaid Cymdeithasol (os yw'n berthnasol)

 7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Mae gwybodaeth yn cael ei chadw ar ein cronfa ddata cyn belled â'ch bod chi'n derbyn y gwasanaeth. Ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben, bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu o'r gronfa ddata.

Caiff cofnodion papur eu cadw ar eich cyfer am y cyfnod rydych yn derbyn y gwasanaeth hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol ddilynol (uchafswm o 24 mis) yn bennaf ar gyfer ymholiadau bilio.

 8. Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Edrychwch ar fanylion pellach ar eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw  

 9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Ebostgwasanaethau.cwsmeriaid@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425005

Drwy lythyr: Pennaeth Gofal Cwsmer, CBSRhCT, Swyddfeydd Tŷ Elái,Trewiliam, Rhondda CF40 1NY