Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Carfan Datblygu Chwarae

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Chwarae

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Chwarae. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae Carfan Datblygu Chwarae yn comisiynu darpariaeth chwarae yn ystod tymor yr ysgol a gwyliau'r ysgol.

Rydyn ni hefyd yn rhedeg achlysuron yn y gymuned megis diwrnodau hwyl i'r teulu, picnic y tedis a diwrnod chwarae cenedlaethol.

Rydyn ni'n cynnal rhai darpariaeth chwarae yn RhCT ac yn gweinyddu Gwasanaeth Gofal i Chwarae.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am blant sy'n manteisio ar ein gwasanaethau chwarae gyda'u teulu. Byddwn ni'n cadw ac yn prosesu gwybodaeth gan gynnwys:

Gwybodaeth am y plant

  • Enw llawn
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Rhyw
  • Tras Ethnig
  • Iaith gyntaf y teulu
  • Crefydd neu Ddiwylliant
  • Unrhyw alergeddau/gofynion deietegol/cyflyrau meddygol neu anabledd cofrestredig

Gwybodaeth am y rhieni

  • Enwau'r rhiant/rhieni a'u perthynas â'r plentyn
  • Manylion cyswllt – cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol a rhif ffôn cartref a gwaith os oes un ar gael 
  • Cyfeiriad (os yw'n wahanol i gyfeiriad y plentyn).
    • Rydyn ni'n gofyn am enwau a manylion cyswllt y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'rr plentyn.
    • Rydyn ni hefyd yn gofyn am enwau a rhifau ffôn dau oedolyn arall rhag ofn bydd argyfwng.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r holl wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi a'ch plentyn/plant yn dod yn uniongyrchol oddi wrthoch chi ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen gofrestru.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i gynllunio a diwallu anghenion unigol eich plentyn tra ei fod yn y lleoliad.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu digon o gyfleoedd chwarae lle bo'n ymarferol yn unol â Mesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae gwybodaeth ond yn cael ei rhannu â sefydliadau allanol megis darparwyr chwarae ar ôl i chi (y rhiant) gytuno. 

Serch hynny, os oes gan aelod o staff unrhyw bryderon am ddiogelwch neu les plentyn, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â'r asiantaethau perthnasol heb ganiatâd y rhiant.

7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth a fyddwn ni ddim yn ei chadw am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol at y diben y cafodd yr wybodaeth ei chasglu. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn golygu bod gyda chi hawliau pwysig, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi sy'n cael ei chadw gan y gwasanaethau.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: Gail.Beynon@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281437

Trwy lythyr: Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ