Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Un Pwynt Mynediad RhCT (Gwasanaethau i Oedolion)

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (Gwasanaethau i Oedolion) RhCT

 Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT.

Dylech chi ddarllen yr isod ynghyd â'r hysbysiad yma:

 Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolwr data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

 Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT:

Drwy e-bost: unpwyntmynediad@rctcbc.gov.uk

 Drwy ffonio: 01443 425527

 Drwy'r post: Un Pwynt Mynediad RhCT, Gwasanaethau i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY

 Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

 Mae gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn rhan annatod o'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i Oedolion, sy'n cynorthwyo'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Gan amlaf, mae pobl yn dod aton ni am gymorth ychwanegol oherwydd eu bod yn ei chael hi'n anodd rheoli eu gofal o ganlyniad i anabledd, salwch, bregusrwydd, neu'r effeithiau sy'n deillio o fynd yn hŷn.

 Atgyfeiriadau:

  • MEWN YSBYTAI – yn sgrinio pob llwybr Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA) 1 ac atgyfeiriadau ysbyty, ac yn eu cyfeirio at y gwasanaethau gofal a chymorth mwyaf priodol
  • YN Y GYMUNED – ar gyfer unigolion yn y gymuned caiff asesiad cymesur ei gynnal, gan annog annibyniaeth a deilliannau cadarnhaol wrth gyfeirio pobl at wasanaethau addas neu drefnu cymorth. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr hyn y mae unigolion yn dymuno ei gyflawni, rydyn ni'n cynnal sgyrsiau “Beth sy’n Bwysig” â’r person y mae angen cymorth arnyn nhw, eu teulu, cynhalwyr ac aseswyr eraill. Mae hyn yn ein helpu i gyfeirio neu drefnu'r gwasanaethau mwyaf priodol, gan flaenoriaethu annibyniaeth yr unigolyn bob amser. Mae modd i bobl gysylltu â ni'n uniongyrchol, neu mae modd i rywun sy'n agos atyn nhw, megis aelod o'r teulu, cynhaliwr, neu ffrind, gysylltu â ni ar eu rhan. Mae modd i weithwyr proffesiynol megis nyrsys ardal neu feddygon teulu gysylltu hefyd os ydyn nhw o'r farn bod angen cymorth ychwanegol ar rywun yn eu bywyd bob dydd

Mae ein hasesiadau cymesur yn dilyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, ac yn ystyried y canlynol o ran yr unigolyn:

  • Amgylchiadau
  • Y deilliannau mae'r unigolyn yn dymuno eu cyflawni
  • Rhwystrau sy'n atal y deilliannau hynny
  • Risgiau iddyn nhw eu hunain neu i eraill os na chaiff y deilliannau eu cyflawni
  • Cryfderau a galluoedd, gan gynnwys yr adnoddau sydd ar gael 

Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol er mwyn darparu gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT:

  • Defnyddwyr gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT
  • Aelodau o deuluoedd defnyddwyr y gwasanaeth

 Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i ddarparu gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT:

  • Manylion personol – enw, dyddiad geni
  • Manylion cyswllt – cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol

 Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol er mwyn darparu gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw:

  • Sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiogel ac yn brydlon
  • Darparu asesiad cymesur i unigolion yn y gymuned
  • Gofyn am asesiad mwy arbenigol
    • Comisiynu gwasanaethau priodol

 Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol er mwyn darparu Data Categori Arbennig yw:

  • Rhwymedigaeth gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr
  • Tasg gyhoeddus –Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd  – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth a fydd yn gymesur â'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion testun y data.

Mae'r isod, ond nid y rhain yn unig, ymhlith y prif ddeddfwriaethau, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Safonau Gofal 2000
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Eich galwad gychwynnol chi neu'ch teulu, cynhaliwr neu ffrindiau ac unrhyw gyswllt dilynol
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys gwasanaethau gofal cynradd
  • Gofal yn y cartref neu ddarparwyr gwasanaethau eraill
  • Gwasanaethau eraill y Cyngor fel y Garfan Ymateb ar Unwaith, Materion Tai, ac ati

 Byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth o atgyfeiriadau ysbytai, a gallwn ni gynnwys adroddiadau therapi, ein trafodaethau â chi ac eraill sy'n eich cynorthwyo, asesiadau cymesur a'r deilliannau rydyn ni wedi eich helpu i'w cyflawni, a chofnod o'r pethau y gallech chi fod wedi gofyn i ni amdanyn nhw, megis:           

  • ceisiadau am wybodaeth a chyngor
  • ceisiadau am ofal ychwanegol a chymorth
  • canmoliaeth a chwynion.

 Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol gyda'r sefydliadau allweddol canlynol er mwyn darparu gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu. 

Pwy 

Nod

Gwasanaeth Adsefydlu Tymor Byr

Er mwyn caniatáu i unigolion gael y cyfle i gynnal ac adennill sgiliau, trefn arferol, a chyflawni annibyniaeth gyda chefnogaeth rhaglen ymyraethau wedi'i theilwra.

Darparwr Gofal Hirdymor

Er mwyn caniatáu i unigolion gael y pecyn gofal a chymorth parhaus cywir.

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol 

Er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael y gefnogaeth orau.

Adrannau eraill y Cyngor

Er mwyn cynnal asesiadau effeithiol.

Er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael y gefnogaeth orau.

 Proseswyr Data

Proseswr data yw cwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddyd ni mae ein proseswyr data yn gweithredu. Does dim hawl iddyn nhw wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n eu cadw'n ddiogel am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Y categori o broseswyr data rydyn ni'n ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth Un Pwynt Mynediad RhCT yw:

-       Darparwyr Systemau TG, ac ati

 Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?  

Byddwn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Un Pwynt Mynediad RhCT am:

Hyd

Rheswm

7 mlynedd ers dyddiad ymwneud diwethaf â'r gwasanaeth

Angen y gwasanaeth

 Er mwyn dilyn egwyddor storio data'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Ni chaiff yr holl ddata personol eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan. Mae gwybodaeth nad oes iddi werth hirdymor neu dystiolaethol yn cael ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau o ran diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

 Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

 Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Un Pwynt Mynediad yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost:

Drwy e-bost: unpwyntmynediad@rctcbc.gov.uk

 Drwy ffonio: 01443 425527

 Drwy'r post: Un Pwynt Mynediad RhCT, Gwasanaethau i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY

 Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (gwneud sylw, rhoi canmoliaeth neu wneud cŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

 Eich hawl i gyflwyno cwyn am ddiogelu data i'r ICO

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data.  Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: http://www.ico.org.uk