Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer y Garfan Arbenigol Ymyriadau Dementia
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw'n bwriad ni o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Arbenigol Ymyriadau Dementia. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.
Mae'r Garfan Arbenigol Ymyriadau Dementia yn gweithio ar y cyd â'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Nod y gwasanaeth yma yw darparu ymateb amgen i feddyginiaeth ar gyfer ymddygiad heriol, a mynd ati i archwilio'r rhesymau posibl pam fod unigolyn mewn trallod neu'n ymddwyn mewn ffordd a allai fod yn heriol i staff a theuluoedd.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Byddwn yn prosesu gwybodaeth yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth ac o bosibl aelodau o'u teulu a'u cynhalwyr. Mae'r math o wybodaeth fydd yn cael ei phrosesu yn rhan o gynnal asesiad a llunio cynllun gofal yn debygol o gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt
- Gwybodaeth am iechyd
- Unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn achosi trallod i'r defnyddiwr gwasanaeth, er enghraifft, gwybodaeth am ei grefydd, hil, tarddiad ethnig, cyfeiriadedd rhywiol ac ati.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan nifer o wahanol ffynonellau, gan gynnwys:
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Darparwyr (Cartref Gofal)
- Aelod o'r teulu
- Meddygon Teulu
- Nyrsys Seiciatrig Cymunedol
- Seiciatrydd
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydyn ni wedi'i chasglu i gynnal asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth, ac i lunio cynllun gofal unigol.
Byddwn hefyd yn monitro datblygiad defnyddiwr gwasanaeth trwy gydol ei gysylltiad â'r Gwasanaeth, ac yn diwygio / diweddaru cynlluniau gofal lle bo hynny'n briodol.
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chofnodi ar ein cronfa ddata Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cronfa, sef System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS).
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond pan fo rheswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sylfaen gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth bersonol ar gyfer y Garfan Arbenigol Ymyriadau Dementia er mwyn cwrdd â gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yw:
Gwybodaeth Bersonol:
Erthygl 6 1. (c), (e) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:
- Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Cydweithrediad a phartneriaeth. Mae pwynt 162 yn ymwneud â 'Threfniadau i hyrwyddo cydweithredu: oedolion ag anghenion am ofal a chefnogaeth a gofalwyr'.
Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):
Erthygl 9 2. (g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:
- Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Cydweithrediad a phartneriaeth. Mae pwynt 162 yn ymwneud â 'Threfniadau i hyrwyddo cydweithredu: oedolion ag anghenion am ofal a chefnogaeth a gofalwyr'.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r defnyddiwr gwasanaeth, at ddibenion cynnal yr asesiad cychwynnol, llunio a monitro'r cynllun gofal unigol. Er enghraifft:
- Meddygon Teulu
- Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill, e.e. staff yn y Clinig Cof
- Darparwyr cartrefi gofal a gofal yn y cartref
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth defnyddiwr gwasanaeth â'i deulu / cynhalwyr os tybir bod gwneud angen hynny.
7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?
Mae cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion yn cael eu cadw am resymau gweinyddol o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. Mae cofnodion am anghenion iechyd unigolyn yn cael eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'w gysylltiad ag unrhyw wasanaeth iechyd ddod i ben.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:
Trwy ffonio: 01443 714074
Yn ysgrifenedig: Ysbyty Cwm Cynon, New Road, Mountain Ash, CF45 4BZ