Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer y Garfan Cadw'n Iach Gartref. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Gwasanaeth 7 niwrnod yr wythnos sy'n cael ei ddarparu yn rhan o bartneriaeth rhwng CBS Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) CBS Merthyr Tudful (CBSMT), Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Age Connects Morgannwg (ACM), sy'n darparu cymorth amlasiantaeth i bobl sy'n byw ym mhob rhan o ranbarth Cwm Taf. Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer pobl sy'n mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ac sydd angen cymorth iechyd yn y gymuned a/neu gymorth gofal cymdeithasol ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Bwriad y gwasanaeth yma yw osgoi derbyniadau i'r ysbyty neu leihau'r cyfnod aros ar gyfer yr unigolion hynny sydd ddim angen aros mewn amgylchedd ysbyty acíwt ond sydd angen gwasanaeth gofal iechyd neu wasanaeth gofal cymdeithasol yn y cartref.
Y prif bwynt mynediad i'r gwasanaeth yw trwy'r carfanau Cadw'n Iach Gartref sydd wedi'u lleoli yn un o'r safleoedd ysbyty acíwt, sef Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty'r Tywysog Siarl.
Mae modd i weithwyr proffesiynol gysylltu â'r garfan Cadw'n Iach Gartref er mwyn cynnal asesiad cymorth cartref ar gyfer unigolion trwy:
- fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn dilyn asesiad meddygol cychwynnol;
- yn dilyn arhosiad byr yn yr Uned Feddygol Acíwt/Uned Penderfyniadau Clinigol ar gyfer triniaeth/asesiad meddygol pellach;
- asesiad integredig gan ward ysbyty;
Yn dilyn asesiad meddygol gan staff yr ysbyty, os yw claf yn cael ei ystyried yn feddygol iach ond mae angen cymorth gofal iechyd/gofal cymdeithasol yn y cartref arno, bydd atgyfeiriad i'r garfan Cadw'n Iach Gartref sydd wedi'i lleoli yn yr ysbyty yn cael ei gwblhau.
Yna bydd staff y garfan Cadw'n Iach Gartref yn cwblhau asesiad cyfatebol i bennu a yw'r claf yn addas i dderbyn y gwasanaeth ac os felly, pa wasanaeth fyddai'n fwyaf addas.
Mae modd i hyn gynnwys:
- Gwybodaeth ac arwyddbostio i wasanaethau cymuned.
- Myenediad uniongyrchol i naill ai Gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref CBSRhCT neu Wasanaeth Ymateb Cychwynnol CBSMT - cymorth yn y cartref, gan gynnwys cymorth gofal personol h.y. gwisgo/dadwisgo. Os oes angen, bydd modd i unigolion dderbyn cymorth gan y gwasanaeth Gofal Canolraddol a'r Gwasanaeth Ailalluogi sy'n darparu gwasanaeth ailsefydlu tymor byr.
- Mynediad i gymhorthion ac addasiadau a gwasanaethau gosod yn y cartref (trwy'r asiantaeth Gofal a Thrwsio).
- Mynediad uniongyrchol i wasanaeth nyrsio cartref Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn darparu gofal nyrsio cymunedol yn y cartref.
- Mynediad uniongyrchol i wasanaeth Eich Meddyginiaeth yn y Cartref i roi cyngor a chymorth mewn perthynas; darparu a gweinyddu meddyginiaeth.
- Cymorth â chludiant i'r cartref a gwasanaeth ymgartrefu wedi'i darparu gan Age Connects Morgannwg.
- Bydd unrhyw unigolion sy'n derbyn gwasanaeth trwy'r Garfan Cadw'n Iach Gartref yn destun adolygiad o'u hanghenion, a fydd yn cael ei gynnal o fewn pythefnos ar ôl i'r gwasanaeth gychwyn.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Byddwn ni'n cadw gwybodaeth am y bobl sy'n manteisio ar ein gwasanaeth ac efallai bydd hyn yn cynnwys manylion aelodau'r teulu/cynhalwyr sy'n cefnogi'r unigolyn. Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chadw a'i phrosesu fel arfer yn cynnwys:
- Enw
- Dyddiad geni
- Manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad, tarddiad ethnig, statws priodasol, cenedligrwydd, crefydd ac unrhyw anableddau.
- Rhif M (Iechyd)
- Rhif System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (ALl)
- Rhif GIGManylion personol aelodau'r teulu/cynhaliwr sy'n rhoi cymorth i'r claf, gan gynnwys enw, perthynas â'r unigolyn, manylion cyswllt.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae yna nifer o wahanol ffyrdd y mae modd i ni ddod o hyd i wybodaeth amdanoch chi.
Er enghraifft:
- Asesiad wedi'i gwblhhau gan aelod o staff y garfan Cadw'n Iach Gartref;
- Asesiad wedi'i gwblhau gan weithwyr iechyd ar ôl cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys;
- Ffeiliau meddygol wedi'u lleoli ar wardiau'r ysbyty;
- Mynediad i unrhyw gofnodion gofal cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli yn system TG yr ALl (System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru);
- Mynediad i gofnodion meddygol wedi'u cadw ar system TG Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth uchod er mwyn:
- Ennill dealltwriaeth well o ofynion unigol y bobl ac os ydyn nhw angen ein gwasanaeth
- Gwneud asesiad o anghenion
- Gwneud atgyfeiriad i wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliad partner trydydd parti dibynadwy er mwyn darparu cymorth.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth at ddibenion y gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref yw er mwyn cydymffurfio â'r goblygiad cyfreithiol o dan Adran 9 (Cydweithrediad a Threfniadau Partneriaeth) ac Adran 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Ydy, byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth gyda'r partneriaid / sefydliadau perthnasol. Mae hyn yn dibynnu ar eich anghenion, o'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen gyfeirio, e.e.
- Age Connects Morgannwg
- Gofal a Thrwsio
- Awdurdodau Lleol eraill
- Rydyn ni hefyd yn rhannu data di-enw at bwrpas ystadegol ac ymchwil lle mae'n briodol gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru.
7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?
7 blynedd ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Gweld rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:
- E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
- Ffôn: 01443 425003
- Trwy lythyr: Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Ystad Dinas Isaf, Trewiliam, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY