Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaethau ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at y ddibenion canlynol:
- Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau -
- Gweithgareddau ymgysylltu â Defnyddwyr y Gwasanaeth
- Cydlynu gwaith Lleihau Niwed
Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Arweiniol o ran cynllunio a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn ardal Cwm Taf. Caiff y gwasanaethau yma eu cyllido gan grant Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â chomisiynu gwasanaethau gan ein parnteriaid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, adrannau eraill Cyngor RhCT a Chyngor Merthyr Tudful, ac asiantaethau'r sector wirfoddol, rydyn ni'n;
- Darparu cyllid ar gyfer lleoliadau
- Cydlynu gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys cynllun lle mae modd i uniglion ennill credydau amser ar gyfer bob awr y maen nhw'n cyfrannu at y gymuned. Mae modd gwario'r credydau amser yma ar weithgareddau gan gynnwys mynd i atyniadau lleol neu fwynhau gweithgareddau hamdden.
- Cydlynu gweithgareddau lleihau niwed ar draws ardal Cwm Taf, gan gynnwys cyflawni gwaith adolygu damweiniau angheuol a damweiniau nad oedden nhw'n angheuol.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unigolion sy'n:
- Cael eu hatgyfeirio ar gyfer Cynllun Adsefydlu Preswyl
- Manteisio ar wasanaethau Adsefydlu Preswyl
- Ymgysylltu â'n Gwasanaethau
Rydyn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth ynglŷn ag unigolion sydd wedi
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
Cynllun Adsefydlu Preswyl
- Manylion cyswllt gan gynnwys enw, cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Manylion y lleoliad h.y. hyd y cynllun adsefydlu
- Manylion y cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y cynllun adsefydlu ac ar ôl y cyfnod yma
Ymgysylltu â Defnyddwyr y Gwasanaeth
- Manylion cyswllt gan gynnwys enw, cyfeiriad
- Manylion y cynnydd a gafodd ei wneud o ganlyniad i ymgysylltu â'n Gwasanaeth
Cydlynu gwaith Lleihau Niwed
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Tras Ethnig
- Dyddiad a Lleoliad y digwyddiad.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae yna sawl ffordd y mae modd i ni gasglu gwybodaeth bersonol, fel sydd wedi'i nodi isod:
- e.e. ar ffurflen gais ar gyfer y rheiny sy'n rhan o raglen Cyfranogiad Defnyddwyr y Gwasanaeth.
- Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan aelod arall o'r cyhoedd e.e. cwyn neu bryder.
- Gwybodaeth atgyfeirio sydd wedi'i rannu gan adrannau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, partneriaid y sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan ni e.e. TEDS a Barod.
- Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn gwybodaeth gan nifer o sefydliadau trydydd parti mewn achosion o, gan gynnwys:
- Heddlu De Cymru,
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf,
- Partneriaid y sector gwirfoddol e.e. TEDS, Barod, Dyfodol
- Gwybodaeth sy'n cael ei chynhyrchu gan y gwasanaeth, e.e. wrth fonitro cynnydd Defnyddwyr y Gwasanaeth yn ystod yr amser a dreulion nhw yn y cynllun adsefydlu, neu o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth.
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Gwybodaeth sy'n ymwneud â:
- Adsefydlu Preswyl: Caiff yr wybodaeth yma ei defnyddio er mwyn monitro lleoliadau, h.y. er mwyn monitor a yw'r unigolyn wedi gwneud cynnydd o ganlyniad i'r lleoliad adsefydlu.
- Manylion Cyfranogiad Defnyddiwr y Gwasanaeth: Caiff yr wybodaeth yma ei defnyddio er mwyn monitro gweithgarwch a chredydau amser. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma ar gyfer gwaith cynllunio a gwerthuso ein gwasanaethau ac i sicrhau ein bod ni'n bodloni anghenion yr unigolion sy'n manteisio ar ein gwasanaethau.
- Lleihau Niwed:
- Caiff wybodaeth sy'n ymwneud â damweiniau angheuol ei defnyddio er mwyn adolygu a nodi'r hyn sydd wedi achosi'r damwain, nodi gwersi sydd wedi'u dysgu a hysbysu darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol.
- Caiff gwybodaeth sy'n ymwneud â damweiniau nad ydyn nhw'n angheuol ei defnyddio er mwyn ymgysylltu ag unigolion a rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â lleihau niwed.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
A ninnau'n Awdurdod Cyhoeddus, mae gyda ni rwymedigaeth cyfreithiol o dan Adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 i gynnal strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â materion camddefnyddio sylweddau. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ni rannu'ch gwybodaeth â phartneriaid dibynadwy o bryd i'w gilydd. Mae'r partneriaid yma'n gweithio gyda ni er mwyn cyflawni'r un nod, h.y. mynd i'r afael â materion camddefnyddio sylweddau yn RhCT.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Caiff gwybodaeth sy'n ymwneud â lleoliadau adsefydlu preswyl ei rhannu â Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth yr unigolion hynny sy'n ymgysylltu â'r rhagle cyfranogiad ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaeth gyda'r Gwasanaeth Credydau Amser er mwyn cyfrifo a dyfarnu credydau amser i unigolion.
Caiff gwybodaeth sy'n ymwneud ag achosion o wenwyno damweiniol o ganlyniad i gyffuriau ei rhannu â sefydliaidau partner eraill gan gynnwys;
- Heddlu De Cymru,
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf,
- Partneriaid y sector gwirfoddol e.e. TEDS, Barod, Dyfodol
Caiff manylion eu cofnodi ar gronfa ddata ganolog at ddibenion monitro.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnom ei hangen e.e. er mwyn monitro'r gronfa grantiau.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Edrychwch ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : contact@substancemisuserct.co.uk
Ffôn : 01443 425612
Trwy lythyr : Swyddog Arweiniol Bwrdd Cynllunio Ardal Cwm Taf (Camddefnyddio Sylweddau), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy CF40 1NY