Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd – Cynhalwyr Ifanc

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion cynnal Cynhalwyr Ifainc

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae'r gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion cynnal cynhalwyr ifainc. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Ifainc yn cynnig cymorth am ddim i gynhalwyr o dan 18 oed.

Mae'r cymorth rydyn ni'n ei gynnig i gynhalwyr ifainc yn cynnwys:

  • Cyfarfodydd misol;
  • Prisiau rhatach ar gyfer defnyddio gwasanaethau megis  Hamdden.

Mae'n ddyletswydd arnon ni i asesu anghenion cynhaliwr ifanc pan rydyn ni'n dod i wybod amdano. 

Mae gyda ni ddyletswydd drosoch chi os ydych chi'n gynhaliwr ifanc sy'n gofalu am rywun. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i asesu'ch anghenion er mwyn penderfynu pa gymorth rydyn ni'n gallu ei roi i chi. 

2.     Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r wybodaeth bersonol y byddwn ni'n ei phrosesu amdanoch chi a'ch teulu er mwyn penderfynu sut y mae modd i ni roi'r cymorth rydych chi ei angen i chi yn debygol o gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt
  • Crefydd
  • Ethnigrwydd
  • Rhywfaint o wybodaeth yn ymwneud â'ch sefyllfa deuluol, gan gynnwys gwybodaeth ariannol, gwybodaeth iechyd / meddygol. 
3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae modd i ni gael eich gwybodaeth o amrywiaeth o wahanol ffynonellau, sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gennych chi, er enghraifft, pan fyddwch chi'n dod i un o'n hachlysuron ac yn cofrestru i dderbyn gwybodaeth oddi wrthon ni am achlysuron yn y dyfodol, neu drwy roi gwybodaeth i ni pan rydyn ni yn eich asesu;
  • Gan eich teulu a ffrindiau;
  • Gan weithwyr proffesiynol, megis gweithiwr cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, athrawon, ayyb.

4.     Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau cynhalwyr ifainc ar eich cyfer.  Mae enghreifftiau o sut rydyn ni'n gwneud hyn yn cynnwys: 

  • Prosesu atgyfeiriad am gymorth rydyn ni wedi cael ar eich rhan;
  • Cynnal asesiad o'ch anghenion;
  • Gweithio gyda gwasanaethau a sefydliadau eraill y Cyngor i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud asesiad cywir o'ch anghenion, e.e. gwasanaethau i oedolion, gwasanaethau i blant;  
  • Cofnodi sut rydyn ni wedi diwallu'ch anghenion ac unrhyw anawsterau cawson ni wrth wneud hynny;
  • Cadw cofnod o'n hymwneud a'n cyswllt â chi, eich teulu a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â rhoi cymorth i chi;
  • Adolygu eich anghenion ac adolygu sut mae'r gwasanaeth wedi diwallu eich anghenion a sicrhau eich bod chi'n fodlon â'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
  • Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner eraill i drefnu'r cymorth sydd ei hangen arnoch chi;
  • Comisiynu unrhyw wasanaethau trydydd parti sydd eu hangen;
  • Trefnu gofal seibiant os oes angen;
  • Monitro safon gwasanaethau darparwyr.

Nodwch fod hi'n bosibl i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma i lunio gwybodaeth ac adroddiadau i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn eu rhedeg yn gywir. Fel arfer, bydd yr adroddiadau yma'n cynnwys ffeithiau a ffigyrau yn hytrach na gwybodaeth sy'n gwneud hi'n bosibl eich adnabod. Rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth bersonol i lunio'r ffigyrau hynny.

5.     Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma er mwyn rhoi cymorth i gynhalwyr ifainc fel a ganlyn:

Erthygl 6 (c) Rhwymedigaethau cyfreithiol - mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnom ni i gynnal asesiad o gynhalwyr ifainc yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Erthygl 9 (g) Budd y cyhoedd - mae angen prosesu ‘categori arbennig’ i gynnal yr asesiad yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

6.     Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth â gwasanaethau / sefydliadau eraill a all eich helpu gyda'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Mae'r math o wasanaethau / sefydliadau rydyn ni'n debygol o rannu eich gwybodaeth â nhw yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Elusennau a all helpu rhoi cymorth i gynhalwyr, megis:

  • Gweithredu dros Blant
  • Ymddiriedolaeth y Tywysog
  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Gwasanaethau eraill y Cyngor, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Ysgolion

Sefydliadau allanol eraill, megis:

  • Iechyd

7.     Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd ein cofnodion yn cael eu cadw am 3 blynedd ar ôl i'ch cymorth ddod i ben. 

8.     Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.     Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Trwy e-bost: CarfanCynhalwyrIfainc@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 425006

Drwy anfon llythyr at:

Gweithiwr Asesu a Datblygu Cynhalwyr Ifainc

Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Tŷ Trevithick

Abercynon

CF45 4UQ