Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Morgeisi a Benthyciadau
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion morgeisi a benthyciadau. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
A ninnau'n Gyngor, rydyn ni wedi rhoi benthyciadau yn y gorffennol i unigolion i'w helpu nhw i brynu tai neu wneud gwelliannau i'w tai. Rydyn ni'n parhau i dderbyn incwm yn erbyn y benthyciadau yma o dan delerau'r cytundebau cyfreithiol sydd mewn grym. Rydyn ni'n cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, ac rydyn ni'n ei defnyddio i gasglu ac adennill taliadau benthyciadau. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich gwybodaeth i gysylltu â chi, i gasglu taliadau ac i adennill unrhyw ordaliadau oddi wrthych chi. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol isod.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid o'r gorffennol sydd wedi cael benthyciad gan y Cyngor.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
- Manylion ariannol fel rhif cyfrif banc os ydych chi'n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
- Gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi, a chithau'n wrthrych y data, e.e. wrth wneud cais
- Gwybodaeth wedi'i darparu gan aelodau o'r cyhoedd e.e. cwyn neu bryder
- Gwybodaeth wedi'i darparu gan y gwasanaeth
- Gwybodaeth gan wasanaethau eraill y Cyngor – e.e. Adran Gyfreithiol
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol i weinyddu ac adennill taliadau benthyciad.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol:
a) mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu'r Cytundeb Cyfreithiol
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol ag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel bod modd iddyn nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn mewn perthynas â morgeisi a benthyciadau. Gall y rhain gynnwys:
Adrannau eraill o'r Cyngor:
- Yr Adran Yswiriant – trefnu yswiriant adeiladau a phrosesu unrhyw hawliadau.
- Yr Adran Gyfreithiol – at ddibenion cadw gweithredoedd teitl, cysylltu â chyfreithwyr yn ystod y broses o ad-dalu benthyciadau a chodi tâl ar eiddo trwy'r Gofrestrfa Tir.
Darparwyr Prosesu Taliadau:
- System Glirio Awtomataidd y Banciau (‘BACS’) – gweinyddu cyfarwyddiadau a thaliadau debyd uniongyrchol
Sefydliadau eraill:
- Swyddfa Olrhain – adennill benthyciadau heb eu talu.
- Cyfreithwyr – darparu cyngor cyfreithiol arbenigol i adennill benthyciadau heb eu talu.
- Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (HMCS) – adennill benthyciadau heb eu talu trwy fynd i'r llys.
- Gwasanaeth Pensiynau – bodloni taliadau llog.
Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Darparwr meddalwedd – (ACS ar hyn o bryd) gweinyddu ein system TG.
- Asiantau Gorfodi – adennill benthyciadau heb eu talu.
Ym mhob achos, byddwn ni dim ond yn gwneud hyn i'r graddau rydyn ni o'r farn bod yr wybodaeth yn rhesymol ofynnol ar gyfer y dibenion yma.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i weinyddu'r benthyciad ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn ni eu derbyn am hyn, oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ei chadw am gyfnod hwy.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bostio : refeniw@rctcbc.gov.uk
Ffôn : 01443 680521
Trwy lythyr : Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Y Porth, CF39 9DL
|