Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Parcio

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Gwasanaethau Parcio.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Gwasanaethau Parcio.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Gwasanaethau Hamdden.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100. 

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â Gwasanaethau Hamdden.

E-bost: GwasanaethauParcio@rctcbc.gov.uk 

Ffôn: 01443 425001 

Drwy'r post: Tŷ Glan Taf, Uned B23, Taffs Fall Road, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd CF37 5TT 

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Gwasanaethau Parcio yn gyfrifol am brosesu hysbysiadau tâl cosb (PCNs), gweinyddu trwyddedau parcio i breswylwyr/trwyddedau meysydd parcio a rheoli meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor.

Rydyn ni'n casglu rhifau cofrestru cerbydau gan ddefnyddio dyfeisiau llaw symudol ac offer Adnabod Platiau Rhif Awtomatig (ANPR) sydd wedi'u gosod ar gerbydau.  Rydyn ni'n defnyddio'r manylion rydyn ni'n eu casglu fel tystiolaeth i gefnogi cyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb mewn perthynas â pharcio anghyfreithlon. 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol at ddibenion y Gwasanaethau Parcio:

  • Preswylwyr a/neu eu cynhalwyr (gofalwyr)
  • Defnyddwyr Meysydd Parcio RhCT
  • Y sawl sy'n derbyn Hysbysiad Tâl Cosb 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol at ddibenion y Gwasanaethau Parcio:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad Geni
  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Gwybodaeth ariannol
  • Rhif cofrestru'r cerbyd
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd 

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Mae'n bosibl y bydd y gwaith prosesu yma'n cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Rheoli meysydd parcio’r Cyngor a’r taliadau cysylltiedig.
  • Gorfodi rheoliadau parcio ar y stryd gan ddefnyddio dyfeisiau llaw a cherbydau symudol â chamera Adnabod Platiau Rhif Awtomatig. Gorfodi rheoliadau parcio oddi ar y stryd gan ddefnyddio dyfeisiau llaw symudol.
  • Gweinyddu ceisiadau am drwyddedau parcio (preswylwyr, cynhalwyr, lleoedd parcio i bobl anabl, defnyddwyr busnes, meysydd parcio).
  • Prosesu a chyhoeddi pob Hysbysiad Tâl Cosb yn Rhondda Cynon Taf.
  • Prosesu’r holl Hysbysiadau Tâl Cosb ar ran CBS Merthyr Tudful a Chynghorau Sir Fynwy, Caerffili, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen.
  • Prosesu a chyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb ar ran Cynghorau Casnewydd, Merthyr Tudful a Thorfaen.
  • Prosesu taliadau Hysbysiadau Tâl Cosb
  • Prosesu unrhyw gwynion a heriau mewn perthynas â chyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb neu Drwyddedau Parcio i Breswylwyr.
  • Adfer dyled o Hysbysiadau Tâl Cosb sydd heb eu talu.
  • Cynnig cyngor ac arweiniad ar wasanaethau parcio. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Atodlen 1, Rhan 2 Deddf Diogelu Data 2018.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

Deddf Rheoli Traffig 2004 

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013 

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Dyfeisiau llaw symudol neu gamerâu Adnabod Platiau Rhif Awtomatig ar ein cerbydau
  • Yn uniongyrchol gan unigolion
  • DVLA
  • Asiantaethau Gorfodi Traffig
  • Tribiwnlysoedd Cosbau Traffig
  • Asiantau Gorfodi 

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu'r data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau. Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy 

Diben

 

Yr Adran Gyllid

 

  • Prosesu Taliadau
  • I wirio preswyliaeth
  • Atal a chanfod twyll mewn perthynas â thrwyddedau parcio 

 

Adran Treth y Cyngor

 

  • Prosesu Taliadau
  • I wirio perswyliaeth
  • Atal a chanfod twyll mewn perthynas â thrwyddedau parcio 

 

Yr Adran Dwyll

 

  • Atgyfeirio unrhyw ddefnydd twyllodrus posibl o Fathodynnau Glas yn dilyn patrolau gan Swyddogion Gorfodi Sifil.
  • Os bydd Swyddog Gorfodi Sifil yn gweld Bathodyn Glas yn cael ei arddangos sydd ddim yn ddilys, bydd hyn yn cael ei adrodd i garfan Twyll y Cyngor a fydd yn ymchwilio i'r mater. Mae modd i'r garfan Dwyll ofyn am ragor o wybodaeth os bydd rhywun yn apelio yn erbyn Hysbysiad Tâl Cosb. 

 

DVLA 

 

  • I ddarganfod perchennog cofrestredig cerbydau.

 

Y Ganolfan Gorfodi Traffig

 

  • I gael caniatâd i fynd ar drywydd dyled sydd heb ei thalu.

 

 

Asiantaethau Gorfodi

 

 

  • I weithredu gwarantau ac adennill dyledion.

 

Tribiwnlys Cosbau Traffig

 

 

  • I brosesu apeliadau annibynnol.

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Rydyn ni'n defnyddio'r proseswyr data systemau TG canlynol:

-       System brosesu Hysbysiadau Tâl Cosb 3sixty

-       System drwyddedau Parking Gateway

-       Mi-Office

-       X-parc Amano

-       Porth y Tribiwnlys Cosbau Traffig

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol? 

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Gwasanaethau Parcio ar gyfer: 

Hyd

Rheswm

 

Hysbysiadau Tâl Cosb – 10 Mlynedd

 

 

 

 

Mae hanes Hysbysiadau Tâl Cosb yn cynorthwyo gyda'r broses apelio yn erbyn Hysbysiadau Tâl Cosb. 

 

Trwyddedau Parcio i Breswylwyr – 10 Mlynedd

 

 

 

Mae hanes trwyddedau yn cynorthwyo gyda chymhwysedd trwydded breswyl a chofnodion ariannol.

 

 

Trwyddedau Maes Parcio – 7 Mlynedd

 

Mae hanes yn ddefnyddiol ar gyfer cofnodion ariannol.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.   Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau o ran diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.  

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Parcio yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

E-bost: GwasanaethauParcio@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425001 

Anfon llythyr: Tŷ Glan Taf, Uned B23, Taffs Fall Road, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd CF37 5TT 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk. 

Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://cy.ico.org.uk/