Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Benthyciadau Eiddo

Hysbysiad preifatrwydd ynghylch y modd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu data personol at ddibenion Benthyciadau Eiddo.

Cyflwyniad

Y bwriad o ran yr hysbysiad preifatrwydd yma yw rhoi gwybodaeth ynghylch sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeiriwn ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Benthyciadau Eiddo.

Dylech chi ddarllen yr isod ynghyd â'r hysbysiad yma:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor 

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol sy'n cael eu prosesu at ddibenion benthyciadau eiddo.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolydd data â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Strategaeth Dai.

Ebostiwch StrategaethDai@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 281136

Drwy'r post: Adfywio a Datblygu, Strategaeth Tai a Buddsoddi, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Dyma pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni'n ei wneud

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma mae esboniad ynghylch pa ddata personol sy'n cael eu casglu gan Uwchadran Strategaeth Tai a Buddsoddi RhCT, sut rydyn ni'n defnyddio'r data yma a pham.

Rydyn ni'n helpu preswylwyr a landlordiaid/perchnogion eiddo yn RhCT i gael benthyciadau gan Lywodraeth Cymru i fod yn gymorth o ran gwella cyflwr eu heiddo. Mae benthyciadau ar gael i feddianwyr berchnogion i ymgymryd â gwelliannau er mwyn gwneud eu heiddo yn gynnes ac yn ddiogel. Mae benthyciadau ar gael hefyd i'r sawl a fydd o bosib yn buddsoddi mewn eiddo er mwyn gwerthu neu rentu'r eiddo hwnnw yn y dyfodol. 

Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?

Rydyn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol;

  • Ymgeiswyr unigol.
  • Ymgeiswyr sy'n fusnesau.

Y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol ar gyfer pobl sy'n gwneud cais am fenthyciadau eiddo.

  • Enw a chyfeiriad.
  • Teitl y swydd ac enw'r cwmni.
  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad ebost.
  • Dyddiad geni.
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Tystiolaeth o bwy ydych chi.
  • Manylion cyfrif banc a chyfriflenni banc.
  • Bil cyfleustodau, enw ar y gofrestr etholiadol leol.
  • Tystiolaeth o fod yn berchen ar yr eiddo (gan gynnwys dogfennau Teitl y Gofrestrfa Tir), Cytundebau Tenantiaeth, cyfrifon busnes a manylion Hunanasesu.
  • Manylion ynghylch unrhyw anabledd/gyflwr meddygol.
  • Gwybodaeth ynghylch budd-daliadau ac arian gan gynnwys gostyngiadau yn nhreth y cyngor, talu rhent yn hwyr, dyledion, incwm ac arbedion, Ardreth Annomestig Genedlaethol (NNDR).
  • Manylion les eich eiddo.
  • Gwerthusiadau datblygu at ddibenion asesu dichonoldeb ariannol.

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol er mwyn darparu'r benthyciad. Gall y gweithgareddau canlynol fod ynghlwm â hyn, ond nid y rhain yn unig;

  • Rhoi cyngor i chi cyn i chi gyflwyno cais.
  • Rhan o'n gwasanaethau Cyn-brynu a Thystysgrifau Cwblhau.
  • Prosesu swyddogaeth statudol rheoli Adeiladu a'i gweinyddu.
  • Gwirio gydag adrannau eraill y Cyngor er mwyn asesu a yw rhywun yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys Yr Adran Ardrethi Annomestig Genedlaethol, Adran Treth y Cyngor, yr Adran Drwyddedu a'r Adran Gorfodi.
  • Hwyluso'r gwaith o asesu eich benthyciad, a’i gymeradwyo os yn llwyddiannus.
  • Er mwyn asesu ceisiadau am grantiau gan aelodau o'ch aelwyd/teulu.
  • Gwneud taliadau i drydydd partïon mewn perthynas â chymeradwyo'ch grant.
  • Gwneud taliadau i chi ar gyfer y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig (sef y benthyciad).
  • Yn rhan o'r broses gofrestru Tâl Cyfreithiol yn gysylltiedig â'ch dyfarniad grant.
  • Casglu adborth gan gwsmeriaid sy'n ymwneud â cheisiadau am grantiau.
  • Cysylltu â chi yn y dyfodol at ddibenion ymchwil fel bod modd i ni wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.
  • Rhoi monitro data ar waith ar gyfer Llywodraeth Cymru; bydd y data yma'n cael eu diwygio i fod yn ddienw, cyn cael eu rhannu.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

Yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6(c) – prosesu sy'n angenrheidiol yn unol â rhwymedigaeth gyfreithiol y rheolydd data. 
  • Tasg Gyhoeddus - Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolydd data.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth, sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y personau y mae'r data'n ymwneud â nhw.
  • Atodlen 1, Rhan 2, Dibenion Statudol a Llywodraethol – Deddf Diogelu Data 2018

Mae'r isod, ond nid y rhain yn unig, ymhlith y prif ddeddfwriaethau, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn:

  • Deddf Tai Cymru (2014)
  • Deddf Adeiladu 1984
  • Rheoliadau Adeiladu 2010
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai
  • Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio, Adnewyddu Tai y Sector Tai Preifat 2002
  • Polisi Tai Sector Preifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2014
  • Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) 2014
  • Deddf Ynni 2016
  • Deddf Newid Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2016
  • Rheoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygiedig) (Cymru) 2018
  • Deddf Cynllunio ac Ynni 2008
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000.
  • Strategaeth Twf Glân 2018 (BEIS)
  • Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 (LlC)
  • Strategaeth Defnyddwyr Agored i Niwed 2013
  • Rhwymedigaethau cytundebol lle mae gofyn i unigolion ymrwymo i gytundeb neu ei gyflawni.

Gan bwy rydyn ni'n cael data personol, neu o ble?

Efallai y bydd y data personol yn dod i law yn unol â'r categoriau canlynol:

  • Bydd yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Gwasanaeth yma mewn ffurflenni cais a ffurflenni eraill sy'n ymwneud â phrosesu benthyciadau, neu pan fyddwch chi'n cysylltu â'r garfan i wneud ymholiad.
  • Mae'n bosib y bydd y Gwasanaeth yn cael gwybodaeth gan ein Partneriaid, er enghraifft Bancio Cymunedol Robert Owen, atgyfeiriadau gan adrannau eraill yn y Cyngor ac atgyfeiriadau gan adrannau eraill yn y Llywodraeth.

Gallai'r gwasanaeth hefyd gael gwybodaeth gan ffynonellau sydd wedi'u nodi isod (ond nid y rhain yn unig):

  • Chwiliad Tŷ'r Cwmnïau
  • Chwiliad y Gofrestrfa Tir
  • Gwybodaeth sydd wedi'i darparu gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill, e.e. atgyfeiriadau gan y gwasanaeth iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Gwybodaeth sydd wedi'i darparu gan sefydliadau'r sector preifat, e.e. cyfreithwyr y testun data, darparwyr morgais, asiantau neu gyflogwyr, landlordiaid preifat neu gymdeithasol
  • Gwybodaeth sydd wedi'i darparu gan y trydydd sector, e.e. Asiantaeth Gofal a Thrwsio
  • Meysydd gwasanaeth eraill yn y Cyngor, e.e. Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
  • O'r arolygon y byddwch chi o bosib yn eu cwblhau.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosib y byddwn ni'n rhannu'r data personol gyda'r prif sefydliadau canlynol er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau yn gysylltiedig â Benthyciadau Eiddo:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sy'n angenrheidiol ar gyfer y diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Pwrpas

Adrannau eraill y Cyngor; mae’r isod ymhlith y rhain, ond nid y rhain yn unig:

 

  • Treth y Cyngor
  • Budd-daliadau Tai
  • Trwyddedu
  • Gweithredu'r Gyfraith
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Materion Cyllid
  • Iechyd yr Amgylchedd – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
  • Safonau Masnach
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cynllunio
  • Tai Cymunedol
  • Rheoli Adeiladu

Er mwyn ymgymryd â dyletswyddau yn gysylltiedig â'r benthyciad.

Llywodraeth Cymru

 

At ddibenion monitro data

Awdurdodau Lleol eraill

 

Er mwyn ymgymryd â chyfrifoldebau yn ymwneud â'r benthyciad.

Asiantaethau’r Llywodraeth:

  • Iechyd
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Tŷ'r Cwmnïau

Er mwyn ymgymryd â chyfrifoldebau yn ymwneud â'r benthyciad.

Sefydliadau eraill:

  • Yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio
  • Yr Asiantaeth Cyngor ar Bopeth
  • Darparwyr Morgais

Mae'n bosib y byddwn ni'n atgyfeirio at bartner allanol er mwyn cael cymorth.

Bancio Cymunedol Robert Owen

 

Er mwyn ymgymryd â chyfrifoldebau yn ymwneud â'r benthyciad.

Unigolion eraill:

  • Aelodau Lleol, Aelodau'r Cynulliad (AMs), Aelodau'r Senedd (MPs) a allai fod yn gweithredu ar eich rhan.
  • Unrhyw un sy'n eich cynrychioli chi, mewn rôl asiant neu gynrychiolydd cyfreithiol

Er mwyn ymgymryd â chyfrifoldebau yn ymwneud â'r benthyciad.

Prosesyddion Data

Mae prosesyddion data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Dim ond yn unol â’n cyfarwyddyd ni mae ein prosesyddion data yn gweithredu. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n cadw'r data yn ddiogel ac yn dal gafael arnyn nhw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o brosesyddion data rydyn ni'n eu defnyddio:

  • Darparwyr Systemau TG
  • Bancio Cymunedol Robert Owen

Am ba mor hir y byddwn ni'n dal gafael ar y data personol?

Rydyn ni'n dal gafael ar y data personol sydd yn ein cofnodion ynghylch benthyciadau eiddo am:

Faint o amser

Rheswm

10 mlynedd

 

 

At ddibenion rhoi data monitro i Lywodraeth Cymru, ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion a allai ddod i law

 

30 mlynedd neu hyd nes y byddwch wedi cael gwared ar yr eiddo

 

At ddibenion Benthyciad Arbrisiant Eiddo gallai fod angen dal gafael ar eich gwybodaeth am hyd at 30 mlynedd neu hyd nes y byddwch wedi cael gwared ar yr eiddo.

 

Yn unol ag egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydyn ni ddim yn dal gafael ar y data yn eu cyfanrwydd. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.

Eich hawliau’n ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn nad ydyn ni wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Strategaeth Dai a Buddsoddi mewn Tai yn uniongyrchol gan ddefnyddio un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu ebost:

Ebostiwch StrategaethDai@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 281136

Drwy'r post: Adfywio a Datblygu, Strategaeth Tai a Buddsoddi, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â'r ICO fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk