Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddiben Archwiliadau a Rheoli Tomenni Chwareli a Glofeydd.
Rhagarweiniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion cynnal Archwiliadau Gwastraff Chwareli a Glofeydd.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion cynnal Archwiliadau Gwastraff Chwareli a Glofeydd.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd data. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Pe hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau neu wneud ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Adran Diogelwch Tomenni:
E-bost: CarfanTomenni@rctcbc.gov.uk
Rhif Ffôn: 01443 281168
neu anfonwch lythyr at: Adran Diogelwch Tomenni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llawr 2, 2 Llys Cadwyn, CF37 4TH
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
Mae gan yr awdurdod lleol bwerau deddfwriaethol i reoli risg o domenni segur a chynnal archwiliadau tomenni yn rhan o'r pwerau yma.
Mae’r Garfan Diogelwch Tomenni yn gyfrifol am reoli a monitro tomenni glo a chwareli segur ar draws Rhondda Cynon Taf (RhCT) i ofalu nad ydyn nhw’n peryglu dioglewch y cyhoedd.
Mae rhai o'r tomenni segur yma wedi'u lleoli ar dir preifat, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni brosesu data personol i gynnal ein harchwiliadau.
Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol er mwyn ein galluogi ni i gynnal archwiliadau:
- Perchnogion tir preifat
- Unigolion sy’n bresennol neu o gwmpas tir tomenni sydd dan berchnogaeth RhCT sy’n ymddangoss yn rhan o ddwelddau camerâu’r gwaith.
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol at ddibenion archwiliadau:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
- Lluniau Teledu Cylch Cyfyng
- Rhif gofrestru cerbydau
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu'r data personol er mwyn gweinyddu archwiliadau. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Cynnal rhestr o leoliadau tomenni gwastraff a chwareli segur yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
- Cynnal cronfa ddata o wybodaeth gyswllt perchnogion tir preifat (lle bo'n berthnasol ac ar gael)
- Cynnal rhestr ac amserlen o archwiliadau tomenni
- Cwblhau archwiliadau tomenni â llaw a thrwy dechnoleg, megis olrhain GPS
- Denfyddio camerâu gwaith penodol i fonitro symud ar safleoedd sydd wedi’u pennu lle mae pryderon ynghylch diogelwch, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu fynediad heb awdurdod.
- Cofnodi unrhyw 'feysydd sy'n peri pryder' a nodwyd yn ystod yr archwiliadau a threfnu gwaith cynnal a chadw os yw'n briodol.
- Cofnodi unrhyw waith cynnal a chadw.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol i gynnal archwiliadau yw;
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolydd data.
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolydd data.
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969
- Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)
- Deddf Llywodraeth Leol 1972
- Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994
- Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
- Deddf Traffig Ffyrdd 1988
- Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladwaith a Defnydd) 1986
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:
- Y Gofrestrfa Tir
- Perchnogion Tir Preifat
- Teledu Cylch Cyfyng
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol er mwyn cynnal archwiliadau tomenni.
Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu.
|
Pwy
|
Diben
|
|
Adrannau Mewnol y Cyngor
- Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
- Depo Cynnal a Chadw
- Eiddo'r Cyngor
|
Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu os bydd tomen yn mynd yn ansefydlog neu os oes angen cynnal gwaith cynnal a chadw
|
|
Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru
|
Cyflwynir adroddiadau archwilio i gefnogi'r cais am grant.
|
|
Heddlu De Cymru
|
Rhoi gwybod am achosion o yrru oddi ar y ffordd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi’u dal gan un o’n camerâu.
|
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Rydyn ni'n cadw’r data personol sydd wedi’u cynnwys yn rhan o'n cofnodion archwilio tomenni chwareli a glofeydd ar gyfer:
|
Faint o amser
|
Rheswm
|
|
Archwiliadau tomenni a chofnodion o waith cynnal a chadw –yn barhaol
|
Mae angen cofnodion parhaol er mwyn sicrhau rheolaeth ddigonol o awgrymiadau.
|
|
Manylion cyswllt perchnogion tir preifat – hyd nes y bydd y gofrestrfa tir yn rhoi gwybod am newid i berchnogaeth y tir
|
Mae cofnodion y Gofrestrfa Tir yn cael eu gwirio am ddiweddariadau bob 2 flynedd neu (4 blynedd os yw'n cael ei arolygu’n fwy aml).
|
|
Recordiad Teledu Cylch Cyfyng
Cadw recordiad sydd ddim at ddiben tystiolaeth am 30 diwrnod.
Cadw recordiad at ddiben tystiolaeth am 7x o flynyddoedd.
|
Ymchwilio i achosion o ymddygiad gwerthgymdeithasol, a rhoi gwybod amdanyn nhw.
|
Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.
Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu ag Adran Diogelwch Tomenni yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.
- E-bost: CarfanTomenni@rctcbc.gov.uk
- Rhif ffôn: 01443 281168
- neu anfonwch lythyr at: Adran Diogelwch Tomenni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llawr 2, 2 Llys Cadwyn, CF37 4TH
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk