Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Diogelwch y Ffyrdd

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion yr Uned Diogelwch y Ffyrdd.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddiben cyflwyno addysg diogelwch ar y ffyrdd i blant ac oedolion ledled y fwrdeistref. 

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100. 

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Uned Diogelwch y Ffyrdd:

E-bost:  Diogelwchyffyrdd@rctcbc.gov.uk  

Ffôn: 01443 494785 

Drwy'r post: Uned Diogelwch y Ffyrdd, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH 

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud?

Mae’r Uned Diogelwch y Ffyrdd yn darparu ystod amrywiol o wasanaethau rheng flaen a chymorth. Rydyn ni'n rheoli'r Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol ac yn ymwneud â llawer o fentrau diogelwch ar y ffyrdd mewn partneriaethau ar y cyd, megis 'Ymgyrch Opsiynau' (‘Operation Options’).

Ein prif flaenoriaeth yw darparu addysg, cyhoeddusrwydd a hyfforddiant ar ddiogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys;

-       Pass Plus Cymru

-       Hyfforddiant i Gerddwyr Ifainc / Kerbcraft

-       Hyfforddiant Safonau Beicio Cenedlaethol

-       Mega Drive

-       Cwrs i yrwyr hŷn

-       Ymgyrch Opsiynau / Atal 

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol:

  • Plant a phobl ifainc sy'n mynychu un o'n cyrsiau
  • Gwybodaeth am rieni/gwarcheidwaid sy'n rhoi caniatâd i'w plentyn fynychu cwrs
  • Gyrwyr ifanc (17-25 oed) sy'n mynychu cwrs Pass Plus Cymru
  • Oedolion 18 oed a hŷn sy'n mynychu hyfforddiant, e.e. gyrwyr hŷn
  • Hyfforddwyr Gyrru

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol at ddibenion diogelwch ar y ffyrdd:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
  • Dyddiad Geni
  • Rhif eich trwydded yrru (ar gyfer ymgeiswyr Pass Plus Cymru)
  • Ardystiadau gyrru
  • Gwybodaeth feddygol/iechyd/anabledd cyfranogwyr y dylai'r hyfforddwr fod yn effro iddo pan fyddwch chi'n mynychu cwrs
  • Gwybodaeth am Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy gan gynnwys gwybodaeth ariannol, y Drwydded Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy (ADI), trwydded yrru, tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a thystysgrifau yswiriant perthnasol 

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu'r data personol at ddibenion diogelwch ar y ffyrdd. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw:

  • Gweinyddu cyfranogiad mewn cyrsiau diogelwch ar y ffyrdd.
  • Gweinyddu'r cod gwirio sy'n cael ei ddarparu gan gyfranogwyr i wirio am unrhyw ardystiadau gyrru ar wefan y DVLA.
  • Rheoli gwybodaeth iechyd, meddygol ac anabledd i sicrhau bod modd i hyfforddwyr wneud addasiadau priodol er diogelwch cyfranogwyr.
  • Cofnodi ac adrodd ar ddigwyddiadau a damweiniau sy'n gallu digwydd wrth gymryd rhan mewn cwrs diogelwch ar y ffyrdd.
  • Dilysu a rheoli hyfforddwyr gyrru cymeradwy (ADI).
  • Prosesu data ariannol, gan gynnwys taliadau i hyfforddwyr gyrru cymeradwy, darparwyr hyfforddiant ac ati.
  • Monitro ac adrodd i Lywodraeth Cymru at ddibenion adrodd ac ariannol. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer gweithgareddau diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys mynychu cwrs, iechyd a diogelwch yw:

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol 6(1)(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolydd. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (1)(e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd - Erthygl 9 (2)(g) – prosesu sy’n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith ddomestig sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion testun y data.
  • Deddf Diogelu Data 2018, Atodlen 1, Rhan 2- Paragraff 6  – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Deddf Traffig Ffyrdd 1988
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Ein nod ni yw darparu addysg diogelwch ar y ffyrdd gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Mae Pass Plus yn benodol yn targedu'r grŵp oedran mwyaf agored i niwed (17-25 oed) ac mae'n brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Rydyn ni'n cynnal hyfforddiant beicio dan arweiniad gan yr Adran Drafnidiaeth 

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Rhieni/Cynhalwyr
  • Cyfranogwyr mewn Cyrsiau
  • DVLA
  • Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy
  • Awdurdodau Lleol eraill 

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu. 

Pwy 

Diben

Adrannau Mewnol y Cyngor

 

  • Iechyd a Diogelwch
  • Adran Gyllid

 

  • Os bydd damwain yn digwydd sy'n gofyn am ymchwiliad.
  • I weinyddu taliadau.

Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy

  • Er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr Pass Plus Cymru yn cwblhau elfennau ymarferol y cwrs.

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) / Diogelwch Ffyrdd Cymru

  • Raffl gwobrau chwarterol – i annog cyfranogiad yn yr hyfforddiant Pass Plus Cymru.

DVLA

  • Fel dyletswydd gofal pe bai pryderon yn cael eu codi ynghylch gallu rhywun i yrru.

Llywodraeth Cymru

  • At ddibenion adrodd ac ariannol.

Awdurdodau Lleol eraill

  • Gweinyddu hyfforddiant ar ran yr Awdurdod Lleol.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol? 

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'i gynnwys yn yr Uned Diogelwch y Ffyrdd fel a ganlyn: 

Hyd

Rheswm

Ymholiadau – Amser i gwblhau'r ymholiad a 1 mlynedd wedi hynny

Ei gwneud hi'n haws i gadw lle ar gyrsiau ac ateb ymholwyr pan fydd dyddiadau cyrsiau yn y dyfodol yn cael eu trefnu.

Ceisiadau – 1 mlynedd ar ôl i'r cwrs ddod i ben

Er mwyn ei gwneud hi'n haws i gadw lle ar gyrsiau a gwerthuso'r effaith y gallai'r cwrs ei chael ar ymddygiad gyrwyr yn y dyfodol. 

Manylion ac ardystiadau trwydded yrru cyfranogwyr – 1 mlynedd ar ôl cwblhau'r cwrs

Er mwyn ei gwneud hi'n haws i gadw lle ar gyrsiau a chynnal cofnod o ardystiadau ar gyfer dilysrwydd a statws trwyddedau.

Damweiniau / Digwyddiadau

  • 7 mlynedd o ddyddiad y ddamwain os oes angen cynnal ymchwiliad.
  • 6 mis o ddyddiad y ddamwain ar gyfer cofnodion sydd ddim o werth at ddibenion tystiolaeth.

Yn dilyn cyfarwyddiadau Deddf Iechyd a Diogelwch 1974.

Dogfennaeth Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy – 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn ariannol

Er mwyn dangos tystiolaeth o statws Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy.

Ffurflenni caniatâd ysgol Rhieni/Cynhalwyr/Gwarcheidwaid – 1 mlynedd o ddyddiad derbyn y ffurflen

Er mwyn ei gwneud hi'n haws i ysgolion gadw lleoedd.

Cadarnhad o fynychu cwrs Mega Drive – 3 mlynedd o ddyddiad y cwrs.

Ei gwneud hi'n haws i gadw lle ar gyrsiau ac ymateb i ymholwyr pan fydd cyrsiau'n cael eu trefnu yn y dyfodol.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.  

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r garfan Diogelwch y Ffyrdd yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: Diogelwchyffyrdd@rctcbc.gov.uk 
  • Ffôn: 01443 494785
  • Drwy'r post: Uned Diogelwch y Ffyrdd, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://cy.ico.org.uk/