Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Trafnidiaeth

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Trafnidiaeth

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Trafnidiaeth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Gwasanaeth Trafnidiaeth yn darparu ystod amrywiol o wasanaethau rheng flaen a chymorth. Mae'n:

  • Darparu llwybrau bysiau ychwanegol a gwasanaethau cludiant cymunedol.
  • Yn rhan o'r Cynllun Teithio am Ddim i bobl hŷn a phreswylwyr anabl (darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd y Cynllun Teithio am Ddim yma.) 
  • Cynnal a chadw gorsafoedd bysiau a llochesau bysiau.
  • Trefnu cludiant ysgol a choleg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig. 
  • Trefnu cludiant gofal cymunedol i'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed.
  • Darparu addysg a hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd.
  • Darparu Hebryngwyr Croesfan Ysgol.
  • Blaengynllunio isadeiledd trafnidiaeth, gan gynnwys teithio gweithredol.

 

2.     Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth a phlant sy'n defnyddio ein gwasanaethau cludiant i deithwyr, a'r bobl (gyrwyr a chynorthwywyr teithio) sy'n ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Ar gyfer gyrwyr a chynorthwywyr teithio, mae'r manylion hefyd yn cynnwys rhif tystysgrif Datgelu a Gwahardd (DBS). 
  • Manylion i'ch adnabod chi, fel dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol a rhif SWIFT.
  • Gwybodaeth arall am unrhyw anghenion arbennig sydd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys plant sy'n cael eu cludo, er mwyn darparu cludiant diogel ac addas.
  • Yr ysgol, coleg neu sefydliad gofal cymunedol mae defnyddwyr y gwasanaeth yn teithio iddo ef/iddi hi.

3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n casglu ychydig o'r wybodaeth bersonol yma gennych chi, er enghraifft yn rhan o ffurflenni derbyn disgyblion a ffurflenni symud ysgol. Os oes gan eich plentyn angen addysgol arbennig, bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei chymryd o'r ffurflen gais am drafnidiaeth.

 

Ar gyfer gyrwyr a chynorthwywyr teithio, rydyn ni'n casglu'r wybodaeth hon yn ystod y weithdrefn Datgelu a Gwahardd cyn iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith i wasanaethau Trafnidiaeth y Cyngor.

 

Efallai byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth wrth ysgolion, colegau a sefydliadau gofal cymunedol, ac o Uned Cymorth i Fusnesau y Cyngor.

 

Mae gan rai bysiau systemau teledu cylch cyfyng wedi'u gosod yn rhan o'u gofynion contract. Lle nad yw system teledu cylch cyfyng wedi'i gosod bydd arwyddion addas yn cael eu gosod ar y bws i roi gwybodaeth i deithwyr.

 

4.     Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

 

Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu gyda:

 

  • Contractwyr cludiant; i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth / plant yn cael eu casglu a'u cymryd i'r sefydliadau cywir.
  • Uned Cymorth i Fusnesau y Cyngor. Dyma pan mae llythyrau yn cael eu hanfon i greu pasiau bws ar gyfer disgyblion uwchradd i greu bathodynnau adnabod ar gyfer gyrwyr a chynorthwywyr teithio. 
  • Ysgolion / colegau; i sicrhau bod disgyblion yn teithio ar y drafnidiaeth iawn.
  • Adrannau Diogelu ac Adnoddau Dynol pan fydd pryderon am blentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed.
  • Menter Twyll Genedlaethol; i adnabod ymgeiswyr sydd wedi marw neu sy'n ymddwyn yn dwyllodrus.
  • Heddlu; yn achos pobl sydd ar goll.
  • Rhieni; i ddarparu manylion contractwr ar gyfer cysylltu mewn argyfwng.
  • Bydd lluniau teledu cylch cyfyng ond yn cael eu defnyddio pan fo angen. Er enghraifft, os oedd digwyddiad ar y bws.

 

5.     Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'r wybodaeth hon yn cael ei hamlinellu yn y dogfennau canlynol;

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

http://www.legislation.gov.uk/mwa/2008/2/pdfs/mwa_20080002_we.pdf

Deddf Trafnidiaeth 2000

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/38/pdfs/ukpga_20000038_en.pdf

Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2001

http://www.legislation.gov.uk/wsi/2001/3764/pdfs/wsi_20013764_mi.pdf

6.     Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni ei ddyletswyddau o ran sicrhau cludiant diogel ac addas i ddisgyblion / myfyrwyr, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Gwasanaethau eraill y Cyngor:

  • Gweithwyr proffesiynol y Gwasanaethau Cymuned a'r Gwasanaethau i Blant (e.e. gweithwyr cymdeithasol)
  • Uned Cymorth i Fusnesau
  • Diogelu
  • yr Adran Adnoddau Dynol

 

Sefydliadau eraill:

  • Ysgolion
  • Colegau
  • Gwasanaethau Iechyd (er enghraifft, Meddyg Teulu, Ymgynghorwr)
  • Menter Twyll Genedlaethol 
  • Yr Heddlu

 

Cwmnïau Cludiant:

  • Cwmnïau Bysiau / Cwmnïau Tren
  • Cwmnïau Tacsis

 

Darparwyr Systemau:

  • Capita Business Systems
  • Applied Card Technologies

 

7.     Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag sydd ei hangen i gyflawni'r dibenion sy'n cael eu disgrifio yn yr hysbysiad yma. Ar gyfer y rhai sy'n cael eu cludo, bydd hyn cyhyd â bod defnyddiwr y gwasanaeth yn parhau i ddefnyddio cludiant i'r sefydliad gofal cymunedol, ysgol neu goleg.

 

Bydd angen i Yrwyr a Chynorthwywyr Teithio sydd bellach ddim yn gweithio ar gontractau cludiant y Cyngor hysbysu'r adran fel bod modd dileu eu data.

 

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar Bolisi ac Amserlen Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar Wybodaeth y Cyngor (insert link).

 

8.     Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

 

9.     Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

 

E-bost:  cludodisgyblion@rctcbc.gov.uk  (Am ddata sy'n cael ei gadw am ofal cymunedol, cludiant ysgol a choleg).

 

E-bost:  gwasanaethautrafnidiaeth@rctcbc.gov.uk  (Am ddata sy'n cael ei gadw am deithio bws rhatach).

 

Ffôn: 01443 425001

 

Trwy lythyr: Uned Trafnidiaeth Integredig, Tŷ Sardis, Pontypridd CF37 1DU