Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn yr Adran 14-19 Oed
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn yr Adran 14-19 Oed. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Mae Adran 14 -19 Oed y Cyngor yn wasanaeth mewnol sy'n cefnogi Ysgolion a'r Cyngor wrth wella canlyniadau cyflawniad ysgolion ar gyfer blynyddoedd ysgol 9-13.
Ein prif amcanion:
- Trefnu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion sy'n gallu cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau cyflawniad ysgolion.
- Dadansoddi pa mor dda y mae disgyblion yn ei wneud yn yr ysgol a llunio adroddiadau i helpu'r Cyngor a gwella cyflawniad disgyblion yr ysgolion.
- Rhoi cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion am newidiadau i reolau, rheoliadau a chyfreithiau cenedlaethol sy'n ymwneud â chyflawniad disgyblion.
- Datblygu a monitro meysydd llafur ysgolion i sicrhau eu bod yn bodloni rheolau, rheoliadau a chyfreithiau cyfredol.
- Cefnogi ysgolion gydag addysgu, dysgu a datblygu.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddisgyblion y gorffennol a'r presennol. Fel arfer bydd y mathau o wybodaeth sy'n cael eu casglu a'u defnyddio er mwyn i ni wneud ein gwaith yn cynnwys:
- Enw meddyg y disgybl
- Rhif Dysgwr Unigryw y disgybl
- Yr ysgol mae'r disgybl yn ei mynychu
- Y cymhwyster y mae'r disgybl wedi gwneud cais amdano fe a'r radd roedd wedi'i chyflawni
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i wneud ein gwaith yn dod o:
- Ysgolion
- Llywodraeth Cymru (LlC)
- Systemau Cyflawniad Safon Uwch
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:
- Gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflawniad ysgolion (rhaid nodi na chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei rhannu â Llywodraeth Cymru pan fyddwn ni'n gwneud cais am y grant, ond byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth i baratoi ffeithiau a ffigurau i gefnogi'r cais am grant).
- Dadansoddi'r wybodaeth a llunio adroddiadau i hysbysu Carfan Rheoli Addysg y Cyngor ac ysgolion o gyflawniad pob ysgol ac adran fel bod modd gwneud penderfyniadau gwybodus i helpu i wella ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn unig lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth am ddisgyblion ar gyfer yr Adran 14-19 Oed yw:
- Cyflawni dyletswyddau swyddogol y Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y deddfau canlynol:
- Deddf Addysg 1996 a 2002
- Fframwaith Cynllunio a Chyllido Ôl-16 2013
- Deddf Dysgu a Sgiliau 2009
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Fel sydd wedi'i nodi uchod, rydyn ni'n rhannu gwybodaeth bersonol am ddisgyblion gyda:
- Uwch Garfan Rheoli Addysg a Dysgu Gydol Oes fel bod penderfyniadau
- Ysgolion
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw ein cofnodion am 6 mlynedd ar ôl i'r disgybl droi'n 18 oed.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : Martin.Silezin@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn : 01443 744240
Trwy lythyr : Adran 14-19 Oed, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|