Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol o fewn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr at ddibenion gosod cyllideb ysgolion
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Mae Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr y Cyngor yn rhoi cyngor a chefnogaeth i Benaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion Cynradd ac Ysgolion Arbennig wrth fynd at ddrafftio'r gyllideb flynyddol. Mae'r gwasanaeth yn gwneud hyn trwy:
-
Gweithio gyda'r Pennaeth i ddarparu cefnogaeth a chyngor ar bob agwedd ar baratoi cychwynnol a drafftio'r gyllideb ac ar fonitro a blaengynllunio ariannol.
-
Cynorthwyo'r Pennaeth i gyflwyno adroddiadau ariannol a dosbarthu gwybodaeth i gyrff llywodraethu / pwyllgorau cyllid.
-
Trefnu dosbarthu adroddiadau ariannol i gyrff llywodraethu / pwyllgorau cyllid.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau llywodraethu effeithiol yn ysgolion Rhondda Cynon Taf
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu at ddibenion gosod a monitro cyllidebau yn ymwneud ag athrawon a staff sy'n gweithio mewn ysgol (yn y gorffennol a'r presennol). Fel arfer bydd hyn yn cynnwys:
-
Enw'r aelod staff
-
Enw'r ysgol
-
Teitl swydd ac ati
-
Rhif staff
-
Cyflog
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r wybodaeth uchod y dod o'r Ysgol a'r adrannau canlynol yng Nghyngor RhCT canlynol:
-
yr Adran Gyllid
-
yr Adran Adnoddau Dynol
-
y Gyflogres
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i gefnogi'r Pennaeth i ddrafftio cyllideb flynyddol yr ysgol.
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu cymorth, cyngor a chwynion i gorff llywodraethu ysgolion yw:
-
Deddf Addysg 2002.
-
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
-
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015.
-
Adran 84 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau i ddarparu cefnogaeth, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:
Gwasanaethau eraill y Cyngor
Sefydliadau eraill:
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw gwybodaeth gosod cyllideb am 7 mlynedd.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: CymorthiLywodraethwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 744000
Trwy lythyr: Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|