Skip to main content

Byddwch yn oleuni yn y tywyllwch - Diwrnod Cofio'r Holocost 2021

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei gynnal ddydd Mercher 27 Ionawr. Y thema eleni yw Byddwch yn oleuni yn y tywyllwch. Mae thema eleni yn ‘annog pawb i ystyried y dyfnder y gall dynoliaeth suddo iddo, ond hefyd y ffyrdd y gwnaeth unigolion a chymunedau wrthsefyll y tywyllwch hwnnw i ‘fod yn oleuni’ cyn, yn ystod ac ar ôl hil-laddiad.’ (Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost). 

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod i gofio'r chwe miliwn o Iddewon a gafodd eu llofruddio trwy'r Holocost, yn ogystal â chofio am y miliynau o bobl eraill a gafodd eu lladd gan Erledigaeth y Natsïaid ac yn yr hil-laddiad a ddilynodd yn Rwanda, Bosnia, Cambodia a Darfur.

Caiff Diwrnod Cofio'r Holocost ei gynnal bob blwyddyn ar 27 Ionawr i nodi'r diwrnod y cafodd gwersyll-garchar mwyaf y Natsïaid, Auschwitz-Birkenau, ei ryddhau, ac fel Cyngor rydyn ni wedi nodi'r diwrnod drwy drefnu seremonïau yn ein llyfrgelloedd ar gyfer disgyblion ysgol, y gymuned a staff RhCT. Rydyn ni wedi cynnal gwersi Diwrnod Cofio'r Holocost i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ledled y Fwrdeistref ac wedi mynychu gwasanaethau mewn ysgolion dros y 6 blynedd diwethaf.

Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 cyfredol, does dim modd cynnal digwyddiadau o'r fath, ond mae'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, wedi dal ati i ddangos ei chefnogaeth barhaus ac wedi egluro pam mae nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mor bwysig.

Pe hoffech chi gofio neu gefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost eleni, o ddiogelwch eich cartref, mae modd i chi ymuno ag achlysur Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, sy'n cynnal Seremoni Goffa am ddim ledled y DU ddydd Mercher, 27 Ionawr 2021 am 7pm.

Yn ogystal â hynny, mae adnoddau anhygoel, fel straeon bywyd goroeswyr, ar gael trwy wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, HMD Trust .