Skip to main content

Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

Cafodd Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd werth £1.2 biliwn ac sydd â'r potensial i weddnewid economi de-ddwyrain Cymru, ei gadarnhau ar 1 Mawrth 2017. Mae Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bartneriaeth sy'n cynnwys 10 awdurdod lleol, sef: Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd.

Ei weledigaeth yw: ‘Gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau pobl ym mhob un o'n cymunedau ni. Byddwn ni'n           amlhaucyfleoedd i bawb ac yn sicrhau twf economaidd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.’ Dyma'r nodau:

  • Creu ffyniant economaidd, a rhoi hwb iddo, drwy wella cynhyrchiant.
  • Mynd i'r afael â diweithdra.
  • Adeiladu ar sylfeini arloesedd.
  • Buddsoddi mewn seilwaith digidol a ffisegol.
  • Darparu cymorth ar gyfer byd busnes a sicrhau bod unrhyw fuddiant economaidd sy'n deillio o hynny yn treiddio i'r rhanbarth cyfan.

Papurau Cyd-gabinet Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd