Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn cynnig cymorth i deuluoedd ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf. Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhoi'r cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg gywir. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gynyddu
cydnerthedd eich teulu - hynny yw, eich gallu i ddod yn ôl yn dalog ar ôl i rywbeth anodd ddigwydd.
Cymorth tymor byr byddwn ni'n ei gynnig - hyd at 12 wythnos. Nod hyn yw rhoi cymorth ymarferol i deuluoedd er mwyn rheoli'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu gan ganolbwyntio ar gryfderau'r teulu. Mae'r Cyngor yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn darparu'r gwasanaeth yma, gan gynnwys Ymwelwyr Iechyd, y Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc a'r Sector Gwirfoddol.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.