Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn bartneriaeth rhwng sefydliadau Cymru, gan gynnwys cynghorau ac elusennau. Mae'n cydweithio â natur i gynorthwyo â ffyniant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Cymoedd De Cymru.
Mae'r Parc Rhanbarthol yn ymestyn o Sir Gâr i Flaenafon, gan ffinio â Bannau Brycheiniog. Mae ganddo rwydwaith o ucheldiroedd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, parciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr, camlesi, safleoedd treftadaeth ac atyniadau. Mae 13 Awdurdod Lleol yn rhan o'r bartneriaeth: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg. Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn ceisio gwella ansawdd bywyd, rhagolygon economaidd ac iechyd a lles yng Nghymoedd De Cymru drwy gysylltu pobl â mannau gwyrdd y rhanbarth. Mae 12 safle porth darganfod ledled Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Maen nhw'n lleoedd gwych i ddechrau archwilio'r ardal leol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r rhain yn cynnwys Parc Coffa Ynysangharad a'r Lido Cenedlaethol, a Pharc Gwledig Cwm Dâr.
Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar wefan Parc Rhanbarthol y Cymoedd