Sut rydyn ni'n cymharu â Chynghorau eraill yng Nghymru
Yn ogystal ag edrych ar ddata sy'n dangos ein cyflawniad a'n gwelliant dros gyfnodau o amser, rydyn ni hefyd yn edrych ar gyflawniad Cynghorau eraill yng Nghymru. Wrth wneud hynny, mae modd i ni ddysgu o'r gorau yng Nghymru i ddeall yn well y pethau rydyn ni angen eu gwella, pennu targedau mwy heriol, blaenoriaethu adnoddau, gwneud arbedion effeithlonrwydd neu ystyried gwneud newidiadau i'r gwasanaethau i wella cyflawniad. Mae rhywfaint o ddata sy'n dangos ein cynnydd wedi'u nodi yn ein Hadroddiadau Cyflawniad Chwarterol i'r Cabinet.
Cafodd rhywfaint o newidiadau eu gwneud i rai trefniadau data cenedlaethol o ganlyniad i'r pandemig. Ar hyn o bryd, mae’r trefniadau yma'n cael eu hadolygu gan gyrff cenedlaethol fel Llywodraeth Cymru a Data Cymru.
Yn y cyfamser, rydyn ni'n ystyried gwybodaeth o setiau data presennol a newydd eraill. Er enghraifft:
- Data Cymru. Mae data ar gael i'r cyhoedd ar Infobase Cymru, sef gwasanaeth am ddim sy’n casglu gwybodaeth genedlaethol. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i'r cyhoedd weld ystod eang o ddata a gwybodaeth gyfredol ac amcanol am ardaloedd Cynghorau Cymru. Mae'r wybodaeth wedi’i rhannu’n themâu gan gynnwys, pobl, economi, addysg, iechyd, tai, yr amgylchedd, a thrafnidiaeth a diogelwch yn y gymuned. Yn ogystal â darparu gwybodaeth, mewn rhai achosion, mae modd defnyddio'r data/gwybodaeth i gymharu. Mae modd gweld y data am Gymru ar lefel awdurdod lleol a lefel ardal leol ar ffurf adroddiadau, tablau a mapiau. Mae'r data yma'n cael eu cadw ar y system.
- Ystadegau Cymru Llywodraeth Cymru. Mae modd i ni weld data cyhoeddus am Gymru gyfan (nid dim ond data am y Cynghorau). Mae'r gwasanaeth yma am ddim. Mae systemau Ystadegau Cymru'n cynnwys bron i 1,000 o gasgliadau data, gan gynnwys gwybodaeth allweddol am boblogaeth, yr economi, gwariant y llywodraeth a chyflawniad Cymru, yn ogystal â data am yr amgylchedd, addysg, trafnidiaeth ac iechyd.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio data yn ôl yr angen o ffynonellau eraill wrth iddyn nhw godi, i herio a chymharu gwahanol agweddau o angen a chyflawniad yn y gymuned. Er enghraifft defnyddio'r offeryn data ar Dlodi yng Nghymru mewn perthynas â saith dimensiwn tlodi, a gafodd ei gyhoeddi gan Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2021, i gyd-fynd â’i Adroddiad Cenedlaethol - Amser am Newid - Tlodi yng Nghymru. Cyhoeddodd Data Cymru giplun o ddata tebyg o Golwg ar Dlodi fesul Awdurdod Lleol hefyd.
Mae'n bwysig edrych ymlaen hefyd, at y newidiadau y gallwn eu disgwyl yn ein poblogaeth yn y dyfodol fel bod modd i wasanaethau gynllunio ymlaen llaw. Meddwl yn y tymor hir yw un o’r themâu allweddol sy’n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Un o'r ffynonellau rydyn ni'n ei defnyddio at y diben yma yw Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad ar cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk
Diwygiwyd y dudalen ym mis Mawrth 2023