Pam rydyn ni’n monitro ein cynnydd
Mae monitro ein cynnydd yn ein helpu ni i olrhain sut rydyn ni'n cyflawni'r pedwar Amcan Lles sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol 'Gweithio gyda'n Cymunedau'. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn gwirio eu bod nhw'n sicrhau deilliannau gwell i ddefnyddwyr ein gwasanaethau, trigolion, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r broses yma'n yn ein helpu ni i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'n cynlluniau a sicrhau ein bod ni'n cadw ar y trywydd iawn. Rydyn ni hefyd yn monitro'r cynlluniau sydd ar waith ym mhob un o’n gwasanaethau. Mae monitro ein cyflawniad ar bob lefel yn y Cyngor yn ein helpu i wneud y canlynol:
- olrhain ein cynnydd dros amser
- pennu'r gwasanaethau hynny sydd yn gwneud yn dda a/neu’r gwasanaethau hynny sydd angen cymorth
- rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Gynghorwyr er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau sydd ganddyn nhw i'w gwneud
- bod yn wrthrychol am ein cyflawniad ein hunain a gosod targedau mwy heriol
- gyrru gwelliannau yn eu blaenau neu ddatblygu gwasanaethau
- rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar drigolion, partneriaid a phobl eraill sydd â diddordeb er mwyn iddyn nhw weld ein cynnydd drostyn nhw eu hunain
- rhoi tawelwch meddwl i’n Rheoleiddwyr Annibynnol
- sicrhau ein bod ni’n cynnig gwerth am arian
- darparu tystiolaeth ar gyfer ein Hunanasesiad o Gyflawniad y Cyngor
Sut rydyn ni'n monitro ein cynnydd
Mae camau gweithredu, mesurau a thargedau manwl i gyflawni blaenoriaethau'r Cyngor wedi'u nodi mewn Cynlluniau Blaenoriaeth blynyddol sy'n cael eu cytuno gan Gynghorwyr ac yn cael eu gweithredu o'r 1 Ebrill bob blwyddyn.
Ochr yn ochr â'n cynnydd o ran cyrraedd ein targedau rydyn ni hefyd yn defnyddio gwybodaeth arall i fonitro ac adolygu ein cyflawniad. Mae hyn yn cynnwys defnyddio adborth uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth, ymatebion i achlysuron a gwasanaethau sy'n ymgysylltu â'n trigolion a'n cymunedau, ymholiadau trwy sianeli Cyfryngau Cymdeithasol a hefyd adborth gan Reoleiddwyr Annibynnol.
Pryd rydyn ni’n cynnal gwaith monitro
Mae Rheolwyr Gwasanaeth yn rheoli cynnydd eu gwasanaethau yn barhaus ac mae'r Cynlluniau Blaenoriaeth hefyd yn cael eu monitro a'u craffu gan Gynghorwyr bob tri mis yn rhan o Adroddiadau Cyflawniad chwarterol i'r Cabinet. Mae'r Adroddiadau Cyflawniad yma hefyd yn cael eu trafod gan y Pwyllgorau Craffu perthnasol ynghyd â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac yn ffurfio rhan o adroddiadau Hunanasesiad o Gyflawniad y Cyngor.
Trafododd y Cabinet Adroddiad Cyflawniad Chwarter 2 yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2024
Mae Adroddiadau Cyflawniad Chwarterol blaenorol i'r Cabinet i'w gweld isod:
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2024/25 - Cabinet 19 Medi 2024
Adrodd ar y Blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn Nghynllun Corfforaethol cyntaf y Cyngor ‘Gwneud Gwahaniaeth’ 2020-24
Adroddiad Cyfawniad y cyngor Chwarter 4 2023/24 - Cabinet 17 Gorffennaf 2024
Adroddiad Cyfawniad y cyngor Chwarter 3 2023/24 - Cabinet 20 Mawrth 2024
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2023/24 - Cabinet 20 Tachwedd 2023
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2023/24 - Cabinet 18 Medi 2023
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 4 2022/23- Cabinet- 17 Gorfennaf 2023
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 3 2022/23- Cabinet- 27 Mawrth 2023
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2022/23- Cabinet -21 Tachwedd 2022
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2022/23 - Cabinet - 26 Medi 2022
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 4 2021/22 - Cabinet - 18 Gorffennaf 2022
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 3 2021/22 - Cabinet - 21 Mawrth 2022
-Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2021/22 - Cabinet - 15 Tachwedd 2021
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2021/22 - Cabinet - 21 Medi 2021
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 4 2020/21 - Cabinet - 20 Gorffennaf 2021
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 3 2020/21 - Cabinet - 25 Mawrth 2021
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 2 2020/21 - Cabinet - 17 Tachwedd 2020
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor Chwarter 1 2020/21 - Cabinet - 24 Medi 2020
Adrodd ar y Blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn Nghynllun Corfforaethol cyntaf y Cyngor 'Y Ffordd Ymlaen' 2016-2020
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad: cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk
Diwygiwyd y dudalen ym mis Medi 2024