Skip to main content

Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor

Corporate Plan

Ein Blaenoriaethau a'n Hamcanion Lles 

Cafodd Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2020-2024, *'Gwneud Gwahaniaeth', ei gytuno ym mis Mawrth 2020

Mae 'Gwneud Gwahaniaeth' yn nodi ein blaenoriaethau, yn llywio popeth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n defnyddio'n hadnoddau fel bod modd i ni ymateb yn well i'r holl heriau rydyn ni'n eu hwynebu.  

Mae ein cynllun yn amlinellu'n gweledigaeth, sef i Rondda Cynon Taf "fod y lle gorau yng Nghymru i fyw, gweithio a chwarae ynddo, lle mae pobl a busnesau'n annibynnol, yn iach ac yn llewyrchus."

Ein Blaenoriaethau

- Sicrhau bod POBL yn annibynnol, yn iach ac yn llwyddiannus

- Creu LLEOEDD lle mae pobl yn falch o gael byw, gweithio a chwarae ynddyn nhw.

- Galluogi FFYNIANT drwy greu cyfleoedd i bobl a busnesau i fod yn arloesol, yn entrepreneuraidd, i gyflawni eu potensial ac i ffynnu.

Er hwyluster, mae fersiwn gryno hefyd ar gael.

Ein Amcanion Lles

Rhaid i'r holl Gynghorau yng Nghymru gydymffurfio â nifer o gyfreithiau sy'n llywio ein gwaith.  Mae'r cyfreithiau yma'n cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd ymhlith pethau eraill, yn gofyn bod Cynghorau'n gosod Amcanion Lles.

Wrth gytuno ar ei Gynllun Corfforaethol, cytunodd y Cyngor y byddai blaenoriaethau'r cynllun yn ffurfio ei amcanion lles.

*Mae 'Gwneud Gwahaniaeth' yn disodli Cynllun Corfforaethol blaenorol y Cyngor 'Y Ffordd Ymlaen' a oedd ar waith rhwng 2016 a 2020.

 Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad ar cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk

Diwygiwyd y dudalen ym mis Mawrth 2023