Ein Hadroddiad Hunanwerthuso Blynyddol
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Cyflawniad a Hunanwerthuso Blynyddol. Cafodd ein hadroddiad diweddaraf, Hunanwerthusiad ac Asesiad Panel 2024/25 ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 16 Medi 2025 a'r Cyngor Llawn ar 24 Medi 2025.
Mae'r adroddiad yn cynnwys crynodeb o'n cynnydd tuag at flaenoriaethau, neu amcanion lles, fel sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae'n sôn am ein hasesiad o ba mor dda mae'r Cyngor yn cyflawni'i nodau, gan gynnwys pa mor effeithiol yw ein trefniadau llywodraethu ar gyfer gwneud penderfyniadau, pa mor dda rydyn ni'n defnyddio'n adnoddau a pha mor dda rydyn ni'n darparu'n swyddogaethau.
Asesiad Cyflawniad Panel 2025
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru’n cwblhau Asesiad Cyflawniad Panel bob 5 mlynedd. Dydy'r Asesiad Panel ddim yn archwiliad na'n arolwg, ond yn adolygiad sydd wedi'i arwain gan y sector o ba mor dda y mae'r Cyngor yn bodloni'i ofynion cyflawniad. Mae'r panel yn cynnwys aelodau annibynnol gan gynnwys uwch swyddogion ac Aelodau Etholedig o faes llywodraeth leol, y cyhoedd ehangach a sectorau eraill. Nod yr Asesiad Panel yw bod yn heriol ac yn adeiladol, er mwyn cefnogi'r Cyngor i wella ei ddealltwriaeth o sut mae'n gweithredu a lle mae modd datblygu ei ddull o gyflawni, llywodraethu a gwella ymhellach.
Cafodd Asesiad Panel cyntaf RhCT ei gynnal ym mis Hydref 2025. Daeth y Panel i'r casgliad bod-
“Mae Rhondda Cynon Taf yn Gyngor da, uchelgeisiol sy'n cael ei redeg yn dda, ac yn canolbwyntio ar wella bywydau ei ddinasyddion.
Dangosodd y Cyngor fod ganddo hanes cryf o ddarparu gydag ethos o welliant parhaus. Mae'r Cyngor yn gweithio i ddeall effaith a deilliannau ei waith yn well, gan symud o ddull sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth i un sy'n canolbwyntio ar y person, a fydd yn helpu i gyflawni'i uchelgais o feithrin cydnerthedd mewn cymunedau. Daeth y panel i'r casgliad pellach fod y Cyngor yn arfer y swyddogaethau yn erbyn y dyletswyddau cyflawniad o fewn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021.”
Cafodd Adroddiad Llawn y Panel ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026 ynghyd ag ymateb y Cyngor, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 24 Tachwedd 2025 a chyfarfod llawn o'r Cyngor ar 28 Ionawr.
Sut y byddwn ni'n defnyddio'n Hunanasesiad ac Asesiad Panel
Bydd ein gwaith dros y flwyddyn yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r meysydd sydd wedi'u nodi ar gyfer gwella, a byddwn ni'n adrodd ar ein cynnydd yn yr Adroddiad Cyflawniad Blynyddol nesaf a'r Hunanasesiad yn ystod tymor yr Hydref.
Sut ydyn ni'n cwrdd â'n gofynion deddfwriaethol
Mae Adroddiad Cyflawniad Blynyddol a Hunanasesiad y Cyngor, yn ogystal â'r Asesiad Cyflawniad Panel, yn ein helpu ni i gyflawni'n dyletswyddau dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Mae'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gofyn i ni arddangos tystiolaeth o sut rydyn ni'n bodloni ein dyletswyddau o ran -
'parhau i adolygu i ba raddau y mae'r Cyngor yn bodloni'r 'gofynion cyflawniad', sef i ba raddau:-
- y mae'n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol.
- y mae'n defnyddio ei adnoddau mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol.
- y mae ei lywodraethiant yn effeithiol er mwyn sicrhau'r uchod.
Mae'r Ddeddf yn gofyn inni gyflawni Hunanasesiad blynyddol y Cyngor i adolygu'n cyflawniad, adnabod lle rydyn ni angen gwella a rhoi cynlluniau ar waith er mwyn cyflawni'r gwelliannau yma. Rhaid i'r Hunanasesiad blynyddol gael ei ystyried gan Gynghorwyr, ei adolygu gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor a'i rannu â'r cyhoedd.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni ymgymryd ag Asesiad Cyflawniad Panel o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng etholiadau cyffredinol Cynghorwyr i'r Cyngor (o ddeutu pob 5 mlynedd).
Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn gofyn i ni bennu Amcanion Llesiant ac adrodd ar ein cynnydd tuag at gyflawni ein hamcanion, ac i ba raddau y mae'r rhain yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion llesiant o fewn y Ddeddf. Mae ein Hamcanion Llesiant wedi'u pennu drwy ein cynllun Corfforaethol ac adroddir ar ein cynnydd yn ein hadroddiadau monitro Cyflawniad i'r Cabinet ac yn ein Hadroddiad Cyflawniad Blynyddol a Hunanasesiad.
Mae modd gweld Adroddiadau Hunanasesiadau Blaenorol yma:
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad ar cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk
[Wedi'i ddiwygio Ionawr 2026]