Skip to main content

Beth yw craffu?

Beth yw pwrpas ein Pwyllgorau Craffu?

Mae pedwar Pwyllgor Craffu'r Cyngor yn chwarae rôl bwysig iawn o ran adolygu a llywio gwasanaethau a pholisïau'r Cyngor. Mae'r Pwyllgorau yn gyfaill beirniadol i'r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau.

Dydy Pwyllgorau Craffu ddim yn gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, mae modd iddyn nhw ofyn i wneud gwaith ynglŷn â materion y Cabinet cyn y cam craffu er mwyn darparu adborth a/neu gynnig argymhellion cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Hefyd, mae'n bosib y bydd disgwyl i Bwyllgorau Craffu drafod eitemau arbennig yn fanwl cyn rhoi adborth ac/neu argymhellion i'r Cabinet neu'r Cyngor Llawn i fod yn sail i benderfyniadau. Caiff y gwaith yma'i gyflawni gan Weithgorau Craffu a fydd yn cynnwys Aelodau Etholedig o'r Pwyllgor Craffu perthnasol.

Aelodau'r Pwyllgorau Craffu

Mae Pwyllgorau Craffu'n wleidyddol gytbwys ac yn cynnwys aelodau etholedig o grwpiau gwleidyddol gwahanol.

Caiff Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu eu rhannu rhwng y grwpiau gwleidyddol gan ddefnyddio fformiwla sy'n adlewyrchu aelodaeth wleidyddol y Cyngor.

Sut i ddod yn rhan o bethau

Mae modd i breswylwyr siarad am eitemau sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgorau Craffu, yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor. Mae manylion ynglŷn â sut i wneud cais i siarad mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu ar dudalennau gwe'r Pwyllgorau Craffu.

Tudalennau Perthnasol