Skip to main content

Etholiad y Senedd 2026 – Popeth y Dylech Wybod

Senedd-Elections-2026-banner

Etholiad y Senedd 2026 – gwybodaeth bleidleisio i drigolion

Mae'r dudalen yma'n darparu gwybodaeth bwysig am etholiad y Senedd 2026 sy'n cael ei gynnal ddydd Iau 7 Mai. Mae sawl newid arwyddocaol i drigolion fod yn effro iddyn nhw o'i gymharu ag etholiadau blaenorol

Mae'r newidiadau yma'n cynnwys system bleidleisio newydd, ynghyd ag etholaethau a ffiniau newydd sy'n cael eu cyflwyno am y tro cyntaf. At ei gilydd, mae 4 etholaeth seneddol sy'n cwmpasu ardal gyfan Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r manylion llawn yn yr adrannau isod, neu ewch i'r dudalen wybodaeth ar wefan Senedd Cymru

Pryd mae'r etholiad yn cael ei gynnal?

Bydd pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd 2026 yn cael ei gynnal ddydd Iau 7 Mai rhwng 7am a 10pm. Yna bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif yn ystod y dydd ddydd Gwener 8 Mai.

Bydd hysbysiadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi yma wrth iddyn nhw ddod i law.

Pwy sy'n gallu pleidleisio yn yr etholiad?

I bleidleisio yn etholiad y Senedd, rhaid eich bod chi:

  • Wedi'ch cofrestru i bleidleisio (os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru)
  • Yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad, sef 7 Mai 2026
  • Yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu'r Gymanwlad, yn ddinesydd o'r UE neu'n ddinesydd tramor cymwys

Mae manylion llawn am gymhwysedd pleidleisio a sut i gofrestru i'w gweld ar ein gwefan.

Beth yw rhai dyddiadau allweddol eraill yn y cyfnod cyn yr etholiad?

Isod mae rhestr o rai dyddiadau allweddol i chi fod yn effro iddyn nhw:

  • Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio – dydd Llun 20 Ebrill
  • Dyddiad cau newydd ar gyfer pleidleisiau drwy'r post – 5pm, dydd Mawrth 21 Ebrill
  • Dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy – 5pm, dydd Mawrth 28 Ebrill

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Beth yw'r newidiadau i'r system bleidleisio yn 2026?

Mae gwefan y Senedd yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol sy'n egluro'r newidiadau i'r system bleidleisio – cliciwch yma am fanylion llawn. Mae crynodeb byr wedi'i gynnwys isod:

  • Mae 6 sedd ym mhob etholaeth seneddol bellach
  • Mae newid wedi bod o system bleidleisio 'Y Cyntaf i'r Felin' i system o'r enw 'Cynrychiolaeth Gyfrannol â Rhestrau Caeedig'
  • Mae hyn yn golygu bydd pleidiau gwleidyddol yn rhestru hyd at 8 ymgeisydd yr un, a byddan nhw'n cael eu rhestru ar y papur pleidleisio ochr yn ochr â'r ymgeiswyr annibynnol unigol
  • Bydd pob pleidleisiwr yn cael un bleidlais, dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol
  • Bydd nifer yr ymgeiswyr sy'n cael eu hethol i'r Senedd yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio dull D'Hondt, yn seiliedig ar gyfanswm y pleidleisiau sy'n dod i law ar gyfer pob plaid. Mae'r dull yma'n defnyddio proses o gyfartaleddau uchaf i ddosbarthu seddi fesul un nes bod yr holl seddi wedi'u llenwi

Beth yw'r etholaethau newydd sy'n cwmpasu Rhondda Cynon Taf?

At ei gilydd, mae 4 etholaeth a fydd yn cwmpasu ardal gyfan Cyngor Rhondda Cynon Taf. Y rhain yw Pontypridd Cynon Merthyr, Afan Ogwr Rhondda, Caerdydd Fynnon Taf a Chaerdydd Penarth. Mae'r cymunedau maen nhw'n eu cwmpasu i'w gweld ar y map yma:

RCT-WARDS-map-2026

Yn gyffredinol, mae'r cymunedau yn Rhondda Cynon Taf sy'n dod o dan bob etholaeth wedi'u rhestru isod:

  • Pontypridd Cynon Merthyr – Rhigos, Penderyn, Hirwaun, Pen-y-waun, Aberaman, Abercynon, Aberdâr, Llwydcoed, Cwm-bach, Aberpennar, Penrhiwceiber, Beddau, Tŷ-nant, Brynna, Llanharan, Cilfynydd, Glyn-coch, Ynys-y-bwl, Trallwn, Graig, Gorllewin Pontypridd, Tref Pontypridd, Trefforest, y Ddraenen Wen, Rhydfelen, Glyn-taf, Llanhari, Llantrisant, Tonysguboriau, Llanilltud Faerdref, Ton-teg, Pentre'r Eglwys, ardal fechan o Drehafod a Thylegarw

*Sylwch fod ardal fach o Drehafod (a oedd gynt yn gysylltiedig â Chymer yng Nghwm Rhondda) a chymuned Tylegarw (a oedd gynt yn gysylltiedig â Gorllewin Pont-y-clun) wedi'u cynnwys yn yr etholaeth newydd yma. Mae'r etholaeth hefyd yn cynnwys ardal Merthyr Tudful.

  • Afan Ogwr Rhondda – Glynrhedynog, Maerdy, Gilfach-goch, Llwynypia, Pentre, Pen-y-graig, Porth, Tonypandy, Dwyrain Tonyrefail, Gorllewin Tonyrefail, Trealaw, Treherbert, Treorci, Tylorstown, Ynys-hir, Ystrad a Chymer, ac eithrio ardal fechan o Drehafod

*Mae'r etholaeth hefyd yn cynnwys ardaloedd Port Talbot, Maesteg, ardal o amgylch Dyffryn Afan, ac Ogwr.

  • Caerdydd Ffynnon Taf – Ffynnon Taf

*Mae'r etholaeth hefyd yn cynnwys ardaloedd Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd.

  • MaeCaerdydd Penarth – yn cynnwys Pont-y-clun heb Dyla Garw

*Mae'r etholaeth hefyd yn cynnwys ardaloedd Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth. 

Sut ydw i'n gwirio pa etholaeth y bydda i'n pleidleisio ynddi?

Mae gwefan y Senedd yn cynnwys chwiliwr cod post etholaeth defnyddiol. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i drigolion sy'n byw ger ffin 2 o'r etholaethau newydd, er mwyn gwirio pa etholaeth y mae eu cyfeiriad yn perthyn iddi.

Bydd enw etholaeth pleidleisiwr hefyd wedi'i nodi ar eu cerdyn pleidleisio.

Ble fydd fy ngorsaf bleidleisio?

Bydd yr wybodaeth yma ar gardiau pleidleisio pleidleiswyr, tra bydd gan y Cyngor swyddogaeth 'chwiliwr gorsaf bleidleisio' ar ei wefan hefyd.

Pwy sy'n cynnal y 4 etholiad sy'n cwmpasu Rhondda Cynon Taf?

Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gweinyddu etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr. Bydd pleidleisiau'n cael eu cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Sobell ddydd Gwener 8 Mai.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot a fydd yn gweinyddu etholaeth Afan Ogwr Rhondda.

Cyngor Caerdydd a fydd yn gweinyddu etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth.

Ble ga i ragor o wybodaeth am etholiadau a phleidleisio?

Ewch i'r adran bwrpasol ar ein gwefan am ragor o fanylion am gofrestru i bleidleisio, sut i bleidleisio, a chanlyniadau'r etholiad.

Tudalennau Perthnasol