Dim ond os yw eich enw ar Gofrestr yr Etholwyr y cewch chi fwrw pleidlais mewn etholiadau.
Mae modd i chi gofrestru i bleidleisio os ydych chi'n bodloni'r meini prawf canlynol:
Yn Breswylydd (yn byw fel arfer) yng Nghymru ac yn 14 oed neu’n hŷn (ond fydd dim modd i chi bleidleisio yn etholiadau'r Senedd neu cyngor lleol nes eich bod yn 16 oed na phleidleisio mewn etholiadau Seneddol neu Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y DU nes eich bod yn 18 oed, os yn gymwys).
Rhaid i chi hefyd fod naill ai:
- yn ddinesydd o Brydain, Gweriniaeth yr Iwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd, neu
- yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu'n ddinesydd tramor sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU yn ddinesydd o’r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros ynddi, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arno/arni.
Mae modd i chi gofrestru ar-lein yma.
Beth os ydw i'n byw dramor?
Os ydych chi'n ddinesydd o Brydain sy'n byw dramor, mae modd i chi wneud cais i fod yn bleidleisydd tramor.
Mae'n rhaid eich bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio fel preswylydd yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf a bod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.
Os oeddech yn rhy ifanc i gofrestru pan wnaethoch chi adael y DU, mae dal modd i chi gofrestru fel pleidleisiwr tramor. Mae modd i chi wneud hyn os oedd eich rhiant neu warchodwr wedi'i gofrestru i bleidleisio yn y DU, cyn belled â'ch bod wedi gadael y DU ddim mwy na 15 mlynedd yn ôl.
Dim ond mewn etholiadau cyffredinol Seneddol y DU y mae modd i bleidleiswyr tramor bleidleisio, a bydd angen iddyn nhw adnewyddu eu cais bob 12 mis.
Mae modd i chi gofrestru ar-lein yma.
Beth os ydw i yn y Lluoedd Arfog neu'n was y Goron?
Mae modd i chi gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog:
- os ydych chi’n aelod o'r Lluoedd Arfog
- os ydych chi’n briod neu bartner sifil rhywun yn y Lluoedd Arfog; neu
- Mae person sydd o dan 18 oed ac sy’n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy’n bleidleisiwr o'r Lluoedd Arfog hefyd yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr o'r Lluoedd Arfog ar gyfer etholiadau'r Cyngor lleol a'r Senedd. Mae'n rhaid eu bod yn byw yng Nghymru neu y bydden nhw'n byw yng Nghymru pe na fyddai eu rhiant neu warcheidwad ar ddyletswydd dramor.
Mae modd i chi gofrestru ar-lein yma.
Mae modd i chi gofrestru fel pleidleisiwr gwas y Goron os ydych yn debygol o fod ar ddyletswydd dramor fel:
- Gwas y Goron (er enghraifft diplomataidd neu wasanaeth sifil tramor)
- Un o weithwyr 'British Council'
- Priod neu bartner sifil gwas y Goron neu gyflogai'r 'British Council'
- Mae person sydd o dan 18 oed ac sy’n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy’n was y Goron neu’n weithiwr i 'British Council' sydd ar ddyletswydd dramor hefyd yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr o'r Lluoedd Arfog, ar yr amod y bydden nhw'n byw yng Nghymru pe na fyddai eu rhiant neu warcheidwad ar ddyletswydd dramor.
Beth os does gen i ddim cyfeiriad sefydlog?
Mae gennych chi hawl o hyd i gofrestru i bleidleisio hyd yn oed os does gyda chi ddim cyfeiriad sefydlog parhaol. Mae modd i chi gofrestru mewn lleoliad lle rydych chi’n treulio cryn dipyn o amser neu y mae gyda chi ryw fath o gysylltiad ag ef. Mae modd i hyn fod yn unrhyw le o fewn yr awdurdod lleol, er enghraifft, cyfeiriad parhaol blaenorol, lloches neu fainc. Cysylltwch â'r swyddfa am ragor o wybodaeth.
Cofrestru dienw
Os byddai'ch diogelwch yn cael ei beryglu petai eich enw yn cael ei gynnwys ar y gofrestr etholiadol, mae modd i chi wneud cais i gofrestru'n ddienw. I gofrestru i bleidleisio'n ddienw, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o orchymyn llys neu ardystiad gan berson awdurdodedig i gefnogi eich cais. Cysylltwch â'r swyddfa am ragor o wybodaeth.
I gael rhagor o fanylion ysgrifennwch at: -
Uned Gwasanaethau Etholiadol
10-12 Heol Gelliwastad
Pontypridd
CF37 2BW
Ffôn: 01443 490100