Mae Eisteddfod 2024 yn cael ei chynnal ar safle hardd Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, lle cafodd yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, ei chyfansoddi bron i 200 o flynyddoedd yn ôl.
Mae cymaint i'w wneud a'i fwynhau yn y dref a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, gan gynnwys mynediad arbennig i atyniadau sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer Eisteddfodwyr. Rhagor o wybodaeth yma:
Mae Eisteddfod 2024 yn cael ei chynnal yng nghanol tref felly mae hi'n mynd i fod yn ŵyl wahanol a threfol.
Er bod modd cyrraedd atyniadau Pontypridd, gan gynnwys bwytai, siopau a mannau cymdeithasu gwych, ar droed o'r Maes, dyma ychydig o wybodaeth allweddol am sut i gyrraedd yr ŵyl a theithio o gwmpas yr ardal leol.
- Trefnwch eich trafnidiaeth a'ch llety ymlaen llaw a defnyddiwch opsiyniau trafnidiaeth cynaliadwy os oes modd. Nodwch: Mae galw mawr am lety lleol felly ewch ati i drefnu llety yn gynnar.
- Cynlluniwch eich taith trwy Traveline Cymru (chwiliwch am 'Eisteddfod') a darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol. Bwriwch olwg ar y rhestr o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol arferol yma.
- Os ydych chi'n byw yn lleol, beiciwch, cerddwch neu defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus. Mae disgwyl i'r ffyrdd fod yn brysurach na'r arfer.
- Os ydych chi'n teithio o bell, arhoswch yn lleol a gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad. Trefnwch lety nawr i osgoi cael eich siomi. Bwriwch olwg ar faes gwersylla'r achlysur neu lety lleol arall. Os ydych chi'n gyrru, defnyddiwch y cyfleusterau parcio a theithio am ddim (7am - 12am). Does dim maes parcio ger safle'r wŷl felly defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus. Rhannwch gar os oes modd!
- Bydd y trên yn ddewis cyfleus ond mae disgwyl i wasanaethau i Bontypridd fod llawer yn brysurach na'r arfer. Cofiwch ganiatáu rhagor o amser ar gyfer eich taith a phrynu tocyn ymlaen llaw er mwyn osgoi ciwiau mewn gorsafoedd/ger peiriannau tocynnau. Prynwch docyn nawr.
- Dewch i'r ardal cyn yr achlysur ac aros ar ôl iddo ddod i ben er mwyn manteisio ar yr hyn sydd gyda'r Eisteddfod a Phontypridd i'w gynnig. Mae'r Maes yn agor am 8am felly mae modd osgoi adeg brysuraf y bore. Ar ddiwedd eich ymweliad, ceisiwch osgoi gadael yn ystod yr adegau prysuraf (4pm-7pm ac ar ôl 10pm) er mwyn osgoi oedi diangen. Gwiriwch amser y trên/bws olaf, gan gynnwys bysiau gwennol i'r cyfleusterau parcio a theithio, ymlaen llaw.
- I gael gwybodaeth ychwanegol am yr achlysur, gan gynnwys gwybodaeth am bethau y mae modd i chi fynd â nhw, a phethau nad oes modd i chi fynd â nhw, i'r ŵyl ar wefan yr Eisteddfod.
- I gael gwybodaeth am barcio gyda bathodyn glas, ewch i'r Adran Hygyrchedd.
Mae'r Eisteddfod mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd. Defnyddiwch yr wybodaeth isod i gynllunio'ch taith a defnyddiwch opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy lle bo modd.
Trên
Mae modd cerdded o Orsaf Drenau Pontypridd i'r Maes (5 munud) ac i safle Maes B (25 munud). Cynlluniwch eich taith ar y trên trwy Traveline Cymru (chwiliwch am 'Eisteddfod').
Mae modd dal trenau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, gyda phob un o’r rhain yn galw ym Mhontypridd.
Os ydych chi’n bwriadu teithio i Bontypridd o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri neu Rhymni, bydd angen i chi newid yng ngorsaf Caerdydd Heol y Frenhines neu yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Chwiliwch am drenau i Ferthyr Tudful, Aberdâr neu Dreherbert – mae’r rhain oll yn galw ym Mhontypridd.
Os byddwch chi’n teithio o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines neu Fae Caerdydd, bydd modd i chi hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth uniongyrchol newydd o’r Bae i Bontypridd. Mae gorsafoedd Trefforest a Threhafod yn weddol agos at y safle hefyd.
Darperir sawl trên yr awr ar wasanaethau llinellau’r Cymoedd yn ystod penwythnosau a gyda’r nos ar nosweithiau Sadwrn. Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf – mae’n bosibl y bydd yr amserlenni yn newid rhywfaint cyn yr achlysur.
Prynwch eich tocyn yma.
Bws
Mae gwasanaethau bysiau lleol a rhanbarthol yn teithio trwy ardal Pontypridd. Mae modd i chi gynllunio'ch taith ar fws trwy Traveline Cymru (chwiliwch am ‘Eisteddfod’).
Y cwmnïau bws lleol yw Adventure Travel, Edwards Coaches, Harris Coaches a Stagecoach ynghyd â Rhwydwaith TrawsCymru T4, a T14.
O'r tu allan i'r ardal leol, mae modd cyrraedd Pontypridd yn uniongyrchol o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Cofiwch fynnu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd – mae’n bosibl bydd yr amserlenni yn newid.
Cerdded a Beicio
Os ydych chi'n byw neu'n aros yn lleol, ystyriwch gerdded neu feicio i Barc Coffa Ynysangharad gan ddefnyddio'r llwybrau cerdded a beicio penodol o gwmpas y dref.
Mae Llwybr Taith Taf, sy'n dilyn glannau'r Afon Taf o Gaerdydd i Bontypridd ac sy'n cysylltu â threfi cyfagos, yn llwybr cerdded/beicio gwych. Os ydych chi'n mynd â'ch beic ar y trên neu'r bws, gwiriwch gyda'r gweithredwr ymlaen llaw a fydd lle i'ch beic.
Bydd hi'n cymryd llai na 5 munud i chi gerdded o Orsaf Drenau Pontypridd i'r Maes, a llai nag 20 munud o'r Maes i safle Maes B. Gweler y map isod am lwybrau cerdded allweddol.
Rydyn ni wrthi'n cadarnhau lleoliad cyfleuster parcio beiciau ar gyfer yr achlysur (dewch yn ôl i gael rhagor o wybodaeth).
Bydd llwybrau beicio ar gael o safle cyfleuster parcio a theithio deheuol yr achlysur (Y Ddraenen-wen) felly os ydych chi'n dymuno dod â'ch beic gyda chi, mae'n ffordd wych o gyrraedd yr ŵyl. Mae angen cadw lle mewn cyfleuster parcio a theithio ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi. Rhagor o wybodaeth yma.
Car
Nodwch nad oes maes parcio ar gyfer yr achlysur yn agos i'r Maes, ac eithrio maes parcio i bobl anabl. Defnyddiwch y cyfleusterau parcio a theithio am ddim.
(Mae’r ddolen yma’n mynd â chi i wefan yr Eisteddfod lle bydd modd i chi gymryd rhan mewn archwiliad o’r galw am leoedd parcio a theithio. Bydd llenwi’r ffurflen yn ein helpu ni i gynllunio ymlaen llaw a rhagweld y galw.)
Mae disgwyl i'r ffyrdd o gwmpas ardal Pontypridd fod yn brysurach na'r arfer yn ystod yr wythnos. Rydyn ni'n eich cynghori chi i beidio â gyrru i mewn i ganol y dref. Os ydych chi'n byw neu'n aros yn lleol, beiciwch, cerddwch neu defnyddiwch y bysiau lleol.
Os ydych chi'n teithio o bell a does dim modd i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rydyn ni'n eich cynghori chi'n gryf i ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio am ddim yr achlysur a rhannu car lle bo modd.
Mae disgwyl i’r ddarpariaeth fod yn boblogaidd. Cliciwch yma i fynegi’ch diddordeb mewn parcio a theithio er mwyn ein helpu ni i gynllunio a rhagweld y galw.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Rhannwch gar a defnyddiwch gyfleusterau parcio a theithio am ddim yr achlysur.
Mae’r ddolen yma’n mynd â chi i wefan yr Eisteddfod lle bydd modd i chi gymryd rhan mewn archwiliad o’r galw am leoedd parcio a theithio. Bydd llenwi’r ffurflen yn ein helpu ni i gynllunio ymlaen llaw a rhagweld y galw.
Does dim mannau casglu/gollwng penodol ar gyfer yr achlysur ger safle yr ŵyl. Peidiwch â gyrru i mewn i ganol tref Pontypridd.
Mae dau gyfleuster parcio a theithio (i'r gogledd ac i'r de o Bontypridd). Bydd amseroedd penodol y gwasanaeth parcio a theithio yn cael eu cadarnhau'n fuan, ond mae'n debygol o fod ar gael rhwng 7am-12am. Bydd bysiau gwennol yn teithio'n aml rhwng y meysydd parcio a'r Maes (a hynny'n ddi-stop).
COFIWCH: Amser y bysiau olaf i’r cyfleusterau parcio a theithio yw 11.30pm
Dylech chi gofrestru’ch diddordeb yn y ddarpariaeth parcio a theithio nawr:
- Penderfynu pa gyfleuster parcio a theithio sydd orau i chi (gweler yr isod).
- Meddwl am y diwrnodau/amseroedd y bydd angen i chi gadw lle ar eu cyfe
- Dylech chi gofrestru’ch diddordeb yn y ddarpariaeth parcio a theithio nawr.
- Cynlluniwch eich taith trwy ddefnyddio'r manylion isod. Cofiwch ganiatáu rhagor o amser gan fod disgwyl i ffyrdd lleol fod yn brysur iawn.
- Cofio pa gyfleuster parcio a theithio rydych chi wedi ei ddewis ac edrych am arwyddion wrth i chi gyrraedd yr ardal.
- Cofio amser y bws olaf yn ôl i'ch maes parcio – mae modd gofyn i'r gyrrwr ar eich ffordd i'r ŵyl os nad ydych chi'n siŵr.
- Dyma obeithio y byddwch chi'n cyrraedd yn ddiogel!
Dylech chi gofrestru’ch diddordeb yn y ddarpariaeth parcio a theithio nawr.
Nodwch: Fydd llenwi’r ffurflen ddim yn gwarantu lle i chi, ond bydd hyn yn helpu’r trefnwyr i sicrhau bod digon o le i bawb.. Mae rhagor o wybodaeth am gadw lle mewn cyfleuster parcio a theithio ar gael trwy ffonio canolfan alwadau'r Eisteddfod ar 0845 4090 900.
Bydd gwasanaethau parcio a theithio ar gael o ddydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Sadwrn 10 Awst 2024 o'r lleoliadau canlynol ar y ffordd i Bontypridd:
- Os ydych chi'n teithio o ardal Merthyr Tudful/o'r gogledd, defnyddiwch gyfleuster parcio a teithio y gogledd (Abercynon). Cod post: CF45 4UQ. Dewch oddi ar yr A470 gan ddefnyddio slipffordd ymadael Abercynon a dilynwch arwyddion yr achlysur. Bydd taith y bws (di-stop) i'r ŵyl yn cymryd 20 munud, gan ddibynnu ar amodau traffig.
- Os ydych chi'n teithio o Gaerdydd/o'r de, defnyddiwch gyfleuster parcio a theithio y de (Y Ddraenen-wen). Cod post: CF37 5AL. Dewch oddi ar yr A470 gan ddefnyddio'r slipffordd ymadael gyntaf ar gyfer Pontypridd a dilynwch arwyddion yr achlysur. Bydd taith y bws (di-stop) i'r ŵyl yn cymryd 20 munud, gan ddibynnu ar amodau traffig.
- Os ydych chi'n teithio o gyfeiriad arall, osgowch yrru trwy ardal Pontypridd. Defnyddiwch y llwybr amgen gorau i un o'r cyfleusterau uchod a dilynwch arwyddion yr achlysur.
Mae cerbydau Parcio a Theithio yn addas ar gyfer pobl â rhai problemau symudedd, megis y rhai sydd angen cymhorthion cerdded a sgwteri symudedd symudol. Does dim modd i gerbydau Parcio a Theithio gynnwys sgwteri symudedd sy ddim yn symudol na chadeiriau olwyn trydan.
Er gwybodaeth, mae'r cerbydau Parcio a Theithio yn fysiau moethus, gyda nifer fach o risiau i fynd i mewn i'r cerbyd.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin (cod post CF37 2TB). Bydd y maes parcio yma'n cael ei weithredu gan yr Eisteddfod yn ystod wythnos yr achlysur. Mae mynediad wedi'i gyfyngu ar gyfer y rhai sydd â bathodyn glas yn unig.
Tacsis
Bydd y safle tacsis yn ystod y dydd ar Stryd y Taf yn parhau i fod ar waith y tu allan i Lys Cadwyn (hen safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale) tan 1am.
Bydd y safle tacsis gyda'r nos ar ben deheuol Stryd y Taf, y tu allan i B&M, ar waith unwaith y bydd y ffordd yn ailagor am 1am.
Beiciau modur
Fydd dim meysydd parcio penodol i feiciau modur ar safle'r achlysur. Defnyddiwch gyfleusterau parcio a theithio.
Hygyrchedd
Os ydych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gwiriwch drefniadau gyda'r gweithredwr unigol.
Dim ond hyn-a-hyn o leoedd parcio ar gyfer ymwelwyr anabl sydd ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin (cod post CF37 2TB). Bydd y maes parcio yma'n cael ei weithredu gan yr Eisteddfod yn ystod wythnos yr achlysur. Mae mynediad wedi'i gyfyngu ar gyfer y rhai sydd â bathodyn glas yn unig.
Cyngor o Ran Teithio i Eraill
Os ydych chi'n cystadlu, yn masnachu neu'n perfformio, bydd pecynnau gwybodaeth yn cael eu hanfon atoch chi'n uniongyrchol gan aelodau o garfan yr Eisteddfod.